Canllawiau

Arweiniad ar nawdd cymdeithasol dramor: NI38

Diweddarwyd 27 March 2024

Rhagarweiniad

Os ydych wedi’ch cyflogi tramor, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn y DU.

Gallwch hefyd ddewis eu talu, i’ch helpu i fod yn gymwys ar gyfer:

  • budd-daliadau pan fyddwch yn dychwelyd i’r DU
  • Pensiwn y Wladwriaeth neu Daliad Cymorth Profedigaeth, yn y DU neu dramor

Os ydych yn mynd dramor, bydd yr arweiniad hwn yn eich helpu i benderfynu a ddylech dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol i gynllun Yswiriant Gwladol y DU. Mae hefyd yn rhoi manylion ynghylch:

  • cael budd-daliadau dramor
  • y dosbarthiadau o gyfraniadau Yswiriant Gwladol, a sut mae eu talu yn effeithio ar eich hawl i fudd-daliadau nawdd cymdeithasol
  • ble i gael rhagor o wybodaeth am sicrwydd gofal iechyd

Mae’r arweiniad yn seiliedig ar y gyfraith fel y mae, ar y dyddiad cyhoeddi. Gall unrhyw newidiadau i’r gyfraith effeithio ar yr wybodaeth a gynhwysir yma.

Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol

Gwledydd yr UE, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein, Norwy neu’r Swistir

Gwnaeth y DU adael yr UE ar 31 Ionawr 2020, ond cytunodd i barhau â’r drefn o gydlynu nawdd cymdeithasol. Os ydych chi’n mynd i wlad yn yr UE, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein, Norwy neu’r Swistir, bydd ble rydych yn talu cyfraniadau nawdd cymdeithasol yn dibynnu ar y canlynol:

  • pryd gwnaethoch chi adael y DU
  • eich amgylchiadau ar y pryd
  • y wlad rydych chi’n gweithio ynddi

Darllenwch am Yswiriant Gwladol ar gyfer gweithwyr o’r DU sy’n gweithio yn yr UE, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein, Norwy neu’r Swistir (yn agor tudalen Saesneg).

Cytundebau nawdd cymdeithasol

Mae gan y DU wahanol fathau o gytundebau nawdd cymdeithasol (a elwir hefyd yn gytundebau dwyochrog). Mae rhai yn cwmpasu nifer o wledydd. Mae eraill yn cwmpasu un wlad yn bennaf.

Os ydych chi’n mynd dramor i unrhyw un o’r gwledydd sydd â chytundeb nawdd cymdeithasol gyda’r DU, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ynghylch Yswiriant Gwladol os ydych chi’n gweithio dramor (yn agor tudalen Saesneg).

Gwiriwch pa fudd-daliadau’r DU y gallech eu cael os ydych yn mynd neu’n byw dramor (yn agor tudalen Saesneg).

Morwyr, criw awyrennau a’r lluoedd arfog

Mae trefniadau gwahanol yn berthnasol os ydych chi’n un o’r canlynol:

  • morwr
  • aelod o griw awyren sifil
  • aelod o’r Lluoedd Arfog sy’n gwasanaethu dramor
  • aelod o deulu gwasanaeth sy’n byw dramor

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST

Gwledydd yr UE a gwledydd gyda chytundeb nawdd cymdeithasol

Gwledydd yr UE

Dyma wledydd yr UE:

  • Awstria
  • Gwlad Belg
  • Bwlgaria
  • Croatia
  • Cyprus
  • Y Weriniaeth Tsiec
  • Denmarc
  • Estonia
  • Y Ffindir
  • Ffrainc
  • Yr Almaen
  • Gwlad Groeg
  • Hwngari
  • Yr Eidal
  • Iwerddon
  • Latfia
  • Lithwania
  • Lwcsembwrg
  • Malta
  • Yr Iseldiroedd
  • Gwlad Pwyl
  • Portiwgal
  • Rwmania
  • Slofacia
  • Slofenia
  • Sbaen
  • Sweden

Nodyn am wledydd yr UE

Mae gan y DU gytundeb nawdd cymdeithasol gydag Iwerddon hefyd, y gellir ei ystyried o dan rai amgylchiadau.

Mae gan y DU gytundeb nawdd cymdeithasol gydag Iwerddon hefyd, y gellir ei ystyried o dan rai amgylchiadau.

Dyma’r gwledydd y mae gan y DU gytundebau nawdd cymdeithasol â nhw:

  • Barbados
  • Bermuda
  • Canada
  • Chile
  • Gibraltar
  • Gwlad yr Iâ
  • Iwerddon
  • Ynys Manaw
  • Israel
  • Jamaica
  • Japan
  • Jersey a Guernsey
  • Liechtenstein
  • Mauritius
  • Seland Newydd
  • Norwy
  • Ynysoedd Philippines
  • Gweriniaeth Korea
  • Gweriniaethau’r hen Iwgoslafia
  • Y Swistir
  • Twrci
  • UDA

Nodiadau am y gwledydd y mae gan y DU gytundebau nawdd cymdeithasol â nhw

Chile, Japan a Gweriniaeth Korea

Mae’r Confensiynau Cyfraniadau Dwbl ar gyfer Chile, Japan a Gweriniaeth Korea yn cwmpasu rhwymedigaeth i gyfraniadau nawdd cymdeithasol yn unig. Nid ydynt yn cynnwys budd-daliadau.

Iwerddon

Mae’r Confensiynau Cyfraniadau Dwbl ar gyfer Chile, Japan a Gweriniaeth Korea yn cwmpasu rhwymedigaeth i gyfraniadau nawdd cymdeithasol yn unig. Nid ydynt yn cynnwys budd-daliadau.

Gwlad yr Iâ, Liechtenstein, Norwy a’r Swistir

Mae gan y DU gytundebau gyda’r gwledydd hyn, sy’n berthnasol i gategorïau penodol o weithwyr. Darllenwch am Yswiriant Gwladol ar gyfer gweithwyr o’r DU sy’n gweithio yn yr UE, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein, Norwy neu’r Swistir (yn agor tudalen Saesneg).

Gweriniaethau’r hen Iwgoslafia

Mae hyn yn berthnasol i’r Gweriniaethau canlynol yn unig:

  • Bosnia-Herzegovina
  • Gogledd Macedonia
  • Serbia
  • Montenegro
  • Kosovo

Cyfraniadau Yswiriant Gwladol

Crynodeb o ddosbarthiadau cyfraniadau Yswiriant Gwladol a Budd-daliadau’r DU

Mae 6 dosbarth o gyfraniadau Yswiriant Gwladol. Mae cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn helpu i dalu am rai budd-daliadau nawdd cymdeithasol, gan gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth.

Mae’r dosbarth rydych yn ei dalu yn y DU yn dibynnu a ydych yn gyflogedig, yn hunangyflogedig neu’n gallu talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol.

Dosbarth 1

Mae’n rhaid i chi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 os ydych yn gweithio i gyflogwr a bod eich enillion ar y prif drothwy neu’n uwch (y cyfeirir ato weithiau fel y trothwy enillion).

Mae’r swm rydych yn ei dalu yn dibynnu ar yr hyn rydych yn ei ennill (hyd at uchafswm y cyfraniadau Yswiriant Gwladol y gall cyflogai eu talu).

Caiff eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol eu didynnu o’ch cyflog. Mae’n rhaid i’ch cyflogwr hefyd dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyfer yr holl gyflogeion sydd ag enillion ar y prif drothwy neu’n uwch.

Dosbarth 1A

Mae cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A yn cael eu talu gan gyflogwyr yn unig sy’n darparu rhai buddiannau i gyflogeion at ddefnydd preifat. Gallai enghreifftiau o’r buddiannau hyn gynnwys ceir a thanwydd.

Dosbarth 1B

Mae cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A yn cael eu talu gan gyflogwyr yn unig sy’n darparu rhai buddiannau i gyflogeion at ddefnydd preifat. Gallai enghreifftiau o’r buddiannau hyn gynnwys ceir a thanwydd.

Dosbarth 2

Gyda rhai eithriadau, mae’n rhaid talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 am bob wythnos lle mae’r ddau beth canlynol yn wir amdanoch:

  • rydych yn hunangyflogedig
  • mae gennych elw perthnasol ar y trothwy elw bach neu’n uwch

Rydych chi’n talu’r un swm, faint bynnag rydych chi’n ei ennill. Yn y DU, cesglir y rhan fwyaf o gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 o hunangyflogaeth drwy Hunanasesiad, ynghyd â threth chyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 4.

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 yn wirfoddol am gyfnodau o gyflogaeth neu hunangyflogaeth dramor, cyn belled â’ch bod yn bodloni’r amodau perthnasol. Darllenwch yr adran ‘Talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol tra ydych dramor’ i gael rhagor o wybodaeth.

Dosbarth 3

Mae cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 3 yn gyfraniadau gwirfoddol. Gellir eu talu os ydych am ddiogelu’ch hawl i Bensiwn y Wladwriaeth ac nad ydych yn agored i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 na Dosbarth 2.

Rydych yn eu talu bob mis, yn chwarterol neu fel taliad untro. Er bod talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 3 yn wirfoddol, ni allwn eu had-dalu’n awtomatig i chi yn ddiweddarach.

Dosbarth 4

Mae cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 4 ar gyfer pobl hunangyflogedig y mae eu helw net dros swm penodol. Fel arfer, caiff y rhain eu talu gan bobl hunangyflogedig yn ogystal â chyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2. Fe’u cesglir drwy Hunanasesiad, ynghyd â chyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 a Threth Incwm. Nid ydynt yn cyfrif tuag at fudd-daliadau.

Faint rydych yn ei dalu

Mae’r symiau a godir fel arfer yn newid ar ddechrau pob blwyddyn dreth (6 Ebrill). Darllenwch am gyfraddau a chategorïau Yswiriant Gwladol (yn agor tudalen Saesneg).

Mae dosbarth y cyfraniadau Yswiriant Gwladol rydych yn ei dalu yn effeithio ar y budd-daliadau y gallwch eu cael. Mae’r tabl canlynol yn dangos pa gyfraniadau Yswiriant Gwladol sy’n cyfrif ar gyfer pa fudd-dal.

Sut mae dosbarth y cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn effeithio ar fudd-daliadau

Budd-dâl Dosbarth 1 Dosbarth 2 Dosbarth 3
Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar gyfraniadau Iawn Na Na
Lwfans Cyflogaeth a Chymorth cyfrannol Iawn Iawn Na
Taliad Cymorth Profedigaeth (o 6 Ebrill 2017 ymlaen) Iawn Iawn Na
Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth Iawn Iawn Iawn
Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth Iawn Na Na
Pensiwn newydd y Wladwriaeth (os ydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2016) Iawn Iawn Iawn

Darllenwch ragor o wybodaeth am Yswiriant Gwladol.

Mae budd-daliadau eraill yn anghyfrannol. Mae hyn yn golygu nad oes rhaid i chi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol i’w cael, ond mae’n rhaid i chi fodloni’r amodau sy’n berthnasol. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch yr adran ‘Budd-daliadau nawdd cymdeithasol nad ydynt yn dibynnu ar gyfraniadau Yswiriant Gwladol’.

Mae rhai taliadau yn seiliedig ar eich cyflogaeth a’ch enillion. Y rhain yw:

  • Tâl Mamolaeth Statudol
  • Lwfans Mamolaeth
  • Tâl Salwch Statudol
  • Tâl Tadolaeth Statudol
  • Tâl Statudol ar y Cyd i Rieni
  • Tâl Mabwysiadu Statudol
  • Tâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth

Mae’n rhaid i chi fodloni’r amodau sy’n berthnasol. Darllenwch yr adran ‘Budd-daliadau nawdd cymdeithasol nad ydynt yn dibynnu ar gyfraniadau Yswiriant Gwladol’ a ‘Taliadau sy’n seiliedig ar gyflogaeth ac enillion’ i gael rhagor o wybodaeth.

Os ydych chi a’ch cyflogwr yn agored i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar eich enillion tra ydych yn gweithio dramor, mae’n bosibl y gallwch gael y budd-daliadau canlynol gan eich cyflogwr:

  • Tâl Mamolaeth Statudol
  • Tâl Salwch Statudol
  • Tâl Tadolaeth Statudol
  • Tâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth gyda Thâl Mabwysiadu Statudol

Mae budd-daliadau i weddwon, gwŷr gweddw ac, o fis Rhagfyr 2005 ymlaen, partneriaid sifil sy’n goroesi, yn dibynnu ar y cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1, 2 neu 3 a dalwyd gan eich diweddar briod neu ddiweddar bartner sifil.

Cyn Ebrill 2016, gall Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth i fenyw briod hefyd gael ei seilio’n rhannol neu’n gyfan gwbl ar gofnod Yswiriant Gwladol ei gŵr, os yw hyn yn cynyddu gwerth ei hawl.

O 6 Ebrill 2010 ymlaen, gall Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth i ddyn priod neu bartner sifil fod yn seiliedig yn rhannol neu’n gyfan gwbl ar gofnod Yswiriant Gwladol y wraig neu’r partner sifil os yw’r canlynol yn wir:

  • mae’r ddau wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth
  • ganwyd y wraig neu’r partner sifil ar neu ar ôl 6 Ebrill 1950 ac mae ganddi/ganddo hawl i Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth

Mae’n bosibl y gallwch hawlio budd-daliadau yn seiliedig ar gyfraniadau Yswiriant Gwladol eich cyn-briod neu bartner sifil, os yw’r canlynol yn wir:

  • rydych wedi ysgaru neu wedi diddymu’ch partneriaeth sifil
  • nid ydych wedi priodi eto na ffurfio partneriaeth sifil newydd

Ni fyddwch yn gallu hawlio budd-daliadau os byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2016. Darllenwch yr adran ‘Gwybodaeth ychwanegol’.

Os ydych wedi’ch cyflogi dramor

Pryd mae’n rhaid i chi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1

Pan ydych wedi’ch cyflogi dramor, mae’n rhaid i chi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 am y 52 wythnos gyntaf yr ydych yno, os ydych yn bodloni’r amodau canlynol:

  • mae gan eich cyflogwr leoliad busnes yn y DU
  • rydych yn preswylio fel arfer yn y DU (darllenwch yr adran ‘Fel arfer yn preswylio yn y DU’ i gael rhagor o wybodaeth)
  • roeddech yn preswylio yn y DU yn union cyn dechrau’r gyflogaeth dramor
  • nid ydych wedi’ch cwmpasu gan unrhyw gytundeb nawdd cymdeithasol rhwng y DU a gwledydd eraill

Darllenwch am Yswiriant Gwladol os ydych yn gweithio dramor (yn agor tudalen Saesneg).

Fel arfer yn preswylio yn y DU

Rydych fel arfer yn preswylio mewn gwlad benodol os yw’r canlynol yn wir:

  • rydych fel arfer yn byw yno, ar wahân i absenoldebau dros dro neu achlysurol
  • mae gennych ddull byw sefydlog a rheolaidd yno

Pan fyddwch yn rhoi gwybod i ni am eich statws preswylio arferol, mae’n rhaid i chi seilio hyn ar eich amgylchiadau ar yr adeg y gwnaethoch adael y DU. Mae hyn yn bwysig, gan y bydd yn eich helpu i gyfrifo’ch statws o ran cymhwystra ar gyfer Yswiriant Gwladol ar gyfer eich cyfnod dramor.

Mae preswylio fel arfer yn y DU at ddibenion Yswiriant Gwladol yn wahanol i fod yn breswyl yn y DU at ddibenion Treth Incwm. Nid yw’r ffaith:

  • nad ydych yn breswyl yn y DU at ddibenion Treth Incwm o reidrwydd yn golygu na fyddwch yn preswylio fel arfer yn y DU at ddibenion Yswiriant Gwladol ychwaith
  • eich bod yn preswylio fel arfer yn y DU at ddibenion Yswiriant Gwladol o reidrwydd yn golygu y byddwch hefyd yn breswyl yn y DU at ddibenion Treth Incwm

Mae’n bosibl eich bod yn preswylio fel arfer mewn:

  • lle rydych yn absennol ohono dros dro
  • 2 le ar yr un pryd, o dan rai amgylchiadau

Pan fyddwch yn mynd dramor, mae nifer o ffactorau yr ydym yn eu hystyried wrth benderfynu a ydych yn preswylio fel arfer yn y DU. Bydd y tabl ‘Gwiriwch a ystyrir eich bod yn preswylio fel arfer yn y DU’ yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am y ffactorau hyn.

Bydd gweithiwr achos rhyngwladol CThEF yn ystyried amgylchiadau achosion unigol. Os nad ydych yn siŵr a ydych yn preswylio fel arfer yn y DU, cysylltwch â ni yn y cyfeiriad a ddangosir yn yr adran ‘Cyfeiriadau defnyddiol’, gan roi cymaint o wybodaeth â phosibl i ni.

Mae cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 yn daladwy gennych chi a’ch cyflogwr yn union fel petaech yn cael eich cyflogi yn y DU. Mae’r cyfraddau yr un fath. Bydd eich cyflogwr yn didynnu eich cyfraniad o’ch cyflog ac yn ei dalu i CThEF ar eich rhan.

Mae’n bosibl na fydd eich cyflogwr yn talu cyfran y cyflogwr o’r cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1, os yw’r cyflogwr yn un o’r canlynol:

  • llywodraeth dramor
  • sefydliad rhyngwladol fel Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid

Mae hyn oherwydd ei sefyllfa gyfreithiol yn y Deyrnas Unedig.

Os felly, byddwch yn agored i dalu eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 eich hun.

Os na fyddwch yn talu’r cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 hyn am 52 wythnos gyntaf eich cyflogaeth dramor, ni allwch dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 na Dosbarth 3 yn lle hynny.

Mae hyn yn golygu y bydd bwlch yn eich cofnod Yswiriant Gwladol, a allai effeithio ar eich hawl i rai budd-daliadau. Mae gan y tabl ‘Sut mae dosbarth y cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn effeithio ar fudd-daliadau’ rhagor o wybodaeth am hyn.

Mae talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 yn ystod eich 52 wythnos gyntaf dramor yn gallu:

  • diogelu’ch hawl i Bensiwn y Wladwriaeth a Thaliad Cymorth Profedigaeth (neu fudd-daliadau profedigaeth cyn 6 Ebrill 2017)
  • eich helpu i fodloni’r amodau ar gyfer Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar gyfraniadau, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth cyfrannol, neu Lwfans Mamolaeth ar ôl i chi ddychwelyd i’r DU

Os oes gennych unrhyw amheuaeth ynghylch statws eich cyflogwr, neu os oes angen gwybodaeth arnoch ar sut i dalu eich cyfran o gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1, ysgrifennwch at:

Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST

Ar ôl y 52 wythnos gyntaf, gallwch dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 neu Ddosbarth 3 ar sail wirfoddol i ddiogelu eich hawl i rai budd-daliadau. Mae gan y tabl ‘Sut mae dosbarth y cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn effeithio ar fudd-daliadau’ rhagor o wybodaeth am hyn.

Er bod y budd-daliadau hyn yn daladwy unrhyw le dramor, nid ydynt fel arfer yn cynyddu pan fydd cyfraddau pensiwn yn cynyddu yn y DU.

Gwiriwch a ystyrir eich bod yn preswylio fel arfer yn y DU

Ffactor A ydych yn preswylio fel arfer yn y DU
Rydych yn dychwelyd i’r DU o bryd i’w gilydd yn ystod y cyfnod o gyflogaeth dramor. Fel arfer yn preswylio yn y DU. Po amlaf a hiraf yw’r achosion o ddychwelyd i’r DU, mwyaf yw’r tebygolrwydd eich bod yn preswylio fel arfer yn y DU.    
Ymweliadau â’ch teulu sydd wedi aros yn eich cartref yn y DU, neu wyliau a dreulir yn eich cartref yn y DU. Fel arfer yn preswylio yn y DU    
Ymweliadau mewn cysylltiad â’r gwaith tramor, er enghraifft ar gyfer briffio neu hyfforddiant neu i wneud adroddiad. Nid yw’n arwydd cryf eich bod fel arfer yn preswylio yn y DU.    
Nid yw’n arwydd cryf eich bod fel arfer yn preswylio yn y DU. Ddim yn preswylio fel arfer yn y DU, yn enwedig os nad ydych yn cadw cartref yn y DU neu os ydych yn ymweld â’r DU yn achlysurol yn unig.    
Rydych yn cadw cartref yn y DU yn ystod eich absenoldeb. Fel arfer yn preswylio yn y DU.    
Mae eich cartref yn y DU ar gael i’w ddefnyddio ar ôl dychwelyd. Fel arfer yn byw yn y DU, ond os yw eich tŷ wedi cael ei rentu ar osod tymor hir, nid yw hyn yn arwydd cryf o fel arfer yn preswylio.    
Rydych wedi byw yn y DU ers amser maith. Po hiraf yw’r cyfnod, po gryfaf yw’r arwydd eich bod yn preswylio fel arfer yn y DU er gwaethaf y cyfnod o gyflogaeth dramor.    
Byddwch yn dychwelyd i’r DU ar ddiwedd eich cyflogaeth dramor. Po gynharaf y dychwelyd, y cryfaf yw’r arwydd eich bod yn preswylio fel arfer yn y DU.    

Talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol tra ydych dramor

Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 i’ch helpu i fod yn gymwys am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth cyfrannol pan fyddwch yn dychwelyd i’r DU, yn ogystal â Phensiwn y Wladwriaeth, Lwfans Mamolaeth a Thaliad Cymorth Profedigaeth.

Gallwch dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 os ydych yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig dramor os:

  1. Yn union cyn mynd dramor, roeddech fel arfer yn enillydd cyflogedig neu’n hunangyflogedig yn y DU.

  2. Byddwch hefyd yn bodloni’r naill neu’r llall o’r amodau canlynol:

(a) Rydych wedi byw yn y DU am gyfnod parhaus o dair blynedd ar unrhyw adeg cyn y cyfnod y mae cyfraniadau Yswiriant Gwladol i’w talu, neu

(b) Cyn mynd dramor, rydych wedi talu unrhyw un o’r Yswiriant Gwladol canlynol:

  • o Ebrill 1975 i roi 3 blynedd gymhwysol
  • o Ebrill 1975 i roi 2 flynedd gymhwysol a thalu 52 o gyfraniadau Yswiriant Gwladol (o unrhyw Ddosbarth) cyn 6 Ebrill 1975
  • o Ebrill 1975 i roi 1 blwyddyn gymhwyso a thalu 104 o gyfraniadau Yswiriant Gwladol (o unrhyw Ddosbarth) cyn 6 Ebrill 1975
  • 156 o gyfraniadau Yswiriant Gwladol (o unrhyw Ddosbarth) cyn 6 Ebrill 1975

Byddwn yn gwirio hyn pan fyddwch yn gofyn am dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2.

Os ydych yn byw neu’n gweithio mewn gwlad yn yr UE, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein, Norwy, y Swistir neu Dwrci, gall yr amser a dreulir yno eich helpu i fodloni amod 2(a) neu 2(b).

Ni allwch dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 am unrhyw gyfnod pan fyddwch yn agored i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1.

Gwall gan CThEF

Rhwng 17 Tachwedd 2017 ac 8 Ebrill 2019, roedd canllawiau CThEF yn anghywir. Roedd y cynnwys yn yr arweiniad hwn yn dangos bod yn rhaid bodloni amodau 1, 2(a) a 2(b) i gyd i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 gwirfoddol. Fodd bynnag, dim ond amodau 1 a 2(a) neu 1 a 2 (b) y mae angen i chi eu bodloni.

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu talu ar y cyfraddau gwreiddiol os, rhwng y dyddiadau hyn, naill ai:

  • gwrthodwyd eich cais i dalu
  • roeddech yn dibynnu ar yr arweiniad anghywir ac nid oeddech yn gymwys, oherwydd nad oeddech wedi bodloni’r ddau amod 2(a) a 2(b)

I dalu ar y cyfraddau gwreiddiol, darllenwch yr arweiniad hwn a gwnewch gais i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol (CF83) pan fyddwch dramor. Dylech esbonio:

  • eich sefyllfa ar y pryd
  • pam y gwrthodwyd eich cais, neu pam na wnaethoch gais ar y pryd

Ni allwch dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 am unrhyw gyfnod pan fyddwch yn agored i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1.

Gallwch wneud cais i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 gwirfoddol pan fyddwch dramor (CF83).

Dylech gadw manylion o’r canlynol:

  • eich cyflogaeth
  • hunangyflogaeth
  • cyfnodau o ddiweithdra cofrestredig yn ystod y 3 blynedd diwethaf

Mae angen i chi roi gwybod naill ai:

  • y dyddiad y gwnaethoch roi’r gorau i’r gwaith
  • y dyddiad y byddwch yn rhoi’r gorau i weithio cyn mynd dramor

Rhowch wybod i ni pryd rydych chi’n bwriadu dechrau, neu wedi dechrau gweithio dramor. Os yn bosibl, darparwch dystiolaeth ddogfennol i gefnogi eich swydd cyflogaeth dramor.

Os ydych yn agored i gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1, peidiwch â gwneud cais i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 hyd nes y bydd eich rhwymedigaeth i gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 wedi dod i ben.

Ni fydd talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 gwirfoddol yn rhoi sicrwydd i chi ar gyfer gofal iechyd dramor, o dan unrhyw amgylchiadau.

Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 3

Gallwch dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 3 gwirfoddol i ddiogelu:

  • eich hawl i Bensiwn y Wladwriaeth
  • hawl eich priod neu’ch partner sifil sydd wedi goroesi i fudd-daliadau profedigaeth

Nid yw cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 3 yn cyfrif tuag at hawl i Daliad Cymorth Profedigaeth. Er bod y budd-daliadau hyn yn daladwy unrhyw le dramor, nid ydynt fel arfer yn cynyddu pan fydd cyfraddau pensiwn yn cynyddu yn y DU.

Nid ydynt ychwaith yn cyfrif tuag at Lwfans Cyflogaeth a Chymorth cyfrannol neu Lwfans Mamolaeth.

Gallwch dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 3 p’un a ydych yn gweithio dramor ai peidio, ond nid am y cyfnod rydych yn agored i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1.

Gallwch dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 3 dramor os ydych yn bodloni unrhyw un o’r amodau canlynol:

  1. Rydych wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 am 52 wythnos gyntaf eich cyflogaeth dramor.
  2. Rydych wedi byw yn y DU am gyfnod parhaus o 3 blynedd, ar unrhyw adeg cyn y cyfnod y mae cyfraniadau Yswiriant Gwladol i’w talu.
  3. Cyn mynd dramor, gwnaethoch dalu unrhyw un o’r Yswiriant Gwladol canlynol:
  • o Ebrill 1975 i roi 3 blynedd gymhwysol
  • o Ebrill 1975 i roi 2 flynedd gymhwysol a thalu 52 o gyfraniadau Yswiriant Gwladol (o unrhyw Ddosbarth) cyn 6 Ebrill 1975
  • o Ebrill 1975 i roi 1 blwyddyn gymhwysol a thalu 104 o gyfraniadau Yswiriant Gwladol (o unrhyw Ddosbarth) cyn 6 Ebrill 1975, neu
  • 156 o gyfraniadau Yswiriant Gwladol (o unrhyw Ddosbarth) cyn 6 Ebrill 1975

Byddwn yn gwirio hyn pan fyddwch yn gofyn am dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 3.

Os ydych wedi byw neu weithio mewn gwlad yn yr UE, neu yng Ngwlad yr Iâ, Liechtenstein, Norwy, y Swistir neu Dwrci, mae’n bosibl y bydd eich amser a dreulir yno yn eich helpu i fodloni amod 2 neu 3.

Gwall gan CThEF

Rhwng 17 Tachwedd 2017 ac 8 Ebrill 2019 roedd arweiniad CThEF yn anghywir. Roedd y cynnwys yn yr arweiniad hwn yn dangos bod yn rhaid bodloni amodau 2 a 3 i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 3 gwirfoddol. Fodd bynnag, dim ond amod 1, 2 neu 3 y mae angen i chi ei fodloni.

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu talu ar y cyfraddau gwreiddiol os, rhwng y dyddiadau hyn, naill ai:

  • gwrthodwyd eich cais i dalu
  • roeddech yn dibynnu ar yr arweiniad anghywir ac nid oeddech yn gymwys, oherwydd nad oeddech wedi bodloni’r ddau amod 2 a 3

I dalu ar y cyfraddau gwreiddiol, darllenwch yr arweiniad hwn a gwnewch gais i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol pan fyddwch dramor (CF83). Dylech esbonio:

  • eich sefyllfa ar y pryd
  • pam y gwrthodwyd eich cais, neu pam na wnaethoch gais ar y pryd

Gallwch wneud cais i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 3 gwirfoddol pan fyddwch dramor (CF83)

Os ydych yn agored i gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1, peidiwch â gwneud cais i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 3 gwirfoddol nes bod eich rhwymedigaeth i gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 wedi dod i ben.

Ni fydd talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 3 gwirfoddol yn rhoi yswiriant i chi ar gyfer gofal iechyd dramor, o dan unrhyw amgylchiadau.

Penderfynu a ddylid talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol

Yn gyffredinol, gallwch ddewis talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 neu Ddosbarth 3 tra ydych dramor os ydych am ddiogelu eich hawl i rai budd-daliadau nawdd cymdeithasol.

Mae rhai pwyntiau i’w hystyried wrth benderfynu pa gyfraniadau Yswiriant Gwladol rydych am eu talu.

I gael hawl i fudd-daliadau, mae’n rhaid i chi dalu 52 wythnos o gyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol am bob blwyddyn dreth rydych yn dewis ei thalu. Ni fydd talu llai yn rhoi blwyddyn gymhwysol i chi.

Os ydych wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1, neu wedi cael credydau am unrhyw ran o flwyddyn dreth, dim ond ar ôl y ddau y gellir cyfrifo nifer y cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 neu Ddosbarth 3 y gallai fod angen i chi eu talu:

  • ar ddiwedd y flwyddyn dreth
  • cofnodwyd cyfraniadau neu gredydau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 ar eich cyfrif Yswiriant Gwladol

Gallwch ofyn am ddatganiad o’ch cyfraniadau Yswiriant Gwladol am y flwyddyn y gwnaethoch adael y DU (darllenwch yr adran ar ‘Sut i gael amcangyfrif o Bensiwn y Wladwriaeth’).

Os oes gennych hawl i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 a Dosbarth 3, gallwch newid o un i’r llall pan fyddwch yn gwneud cais i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol pan fyddwch dramor (CF83). Ni allwch newid o gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 3 i Ddosbarth 2 os nad ydych yn gweithio neu’n hunangyflogedig.

Gall cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 eich helpu i fodloni’r amodau i fod yn gymwys am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth cyfrannol pan fyddwch yn dychwelyd i’r DU. Byddant hefyd yn helpu i ddiogelu eich hawl i Bensiwn y Wladwriaeth, Taliad Cymorth Profedigaeth neu fudd-daliadau profedigaeth (cyn 6 Ebrill 2017). Gellir talu’r rhain yn unrhyw le dramor.

Newidiodd Pensiwn y Wladwriaeth o fis Ebrill 2016 ymlaen. Darllenwch am sut y cyfrifir eich Pensiwn y Wladwriaeth.

Terfynau amser ar gyfer talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 a Dosbarth 3 gwirfoddol

Dylid talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 erbyn y dyddiad dyledus, sef 31 Ionawr ar ôl diwedd y flwyddyn dreth y maent yn ei chwmpasu. Dylid talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 3 erbyn y dyddiad dyledus, sef cyn pen 42 diwrnod i ddiwedd y flwyddyn dreth y maent yn ei chwmpasu. Gall taliadau hwyr effeithio ar eich hawl i fudd-daliadau.

Fel arfer, ni allwn dderbyn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 neu Ddosbarth 3 ar ôl diwedd y chweched flwyddyn dreth ar ôl y flwyddyn dreth yr oeddent yn ddyledus ynddi.

Er enghraifft, mae gennych hyd at 5 Ebrill 2026 i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 a Dosbarth 3 ar gyfer y flwyddyn dreth 2019 i 2020.

Terfyn Amser Estynedig ar gyfer talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 a Dosbarth 3 gwirfoddol ar gyfer y blynyddoedd treth 6 Ebrill 2016 i 5 Ebrill 2018

Mae’r dyddiad cau wedi’i ymestyn i 5 Ebrill 2025 i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 a Dosbarth 3 gwirfoddol ar gyfer y blynyddoedd treth 6 Ebrill 2016 i 5 Ebrill 2018.

Byddwch yn talu’r cyfraddau ar gyfer blwyddyn dreth 2022 i 2023.

Talu cyfraddau uwch o gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 a Dosbarth 3 gwirfoddol

Os ydych yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol neu gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 3 am y ddwy flynedd dreth flaenorol, byddwch yn talu ar y gyfradd wreiddiol ar gyfer y blynyddoedd treth hynny. Os byddwch yn talu yn hwyrach na hyn, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu ar gyfradd uwch.

Estyniad i gyfraddau 2022 i 2023

Mae gennych tan 5 Ebrill 2025 i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 a Dosbarth 3 gwirfoddol ar gyfer y blynyddoedd treth 6 Ebrill 2016 i 5 Ebrill 2023, ar y cyfraddau a oedd yn berthnasol i’r blynyddoedd hyn ym mlwyddyn dreth 2022 i 2023.

Darpariaethau arbennig

Fel rhan o’r trefniadau trosiannol a gyflwynwyd ochr yn ochr â’r Pensiwn newydd y Wladwriaeth, mae’r llywodraeth wedi ymestyn y terfyn amser ar gyfer talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 a 3 gwirfoddol ar gyfer y blynyddoedd treth o 6 Ebrill 2006 i 5 Ebrill 2016. Mae hyn yn berthnasol os ydych chi naill ai:

  • yn ddyn a aned ar ôl 5 Ebrill 1951
  • yn ddynes a aned ar ôl 5 Ebrill 1953

Mae gennych tan 5 Ebrill 2025 i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 a 3 gwirfoddol ar gyfer y blynyddoedd treth hyn. Byddwch yn talu’r cyfraddau ar gyfer blwyddyn dreth 2022 i 2023.

Gwiriwch faint rydych chi’n ei dalu

Mae’r cyfraddau ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol y DU yr un fath p’un a ydych yn byw yn y DU neu dramor. Darllenwch am gyfraddau a chategorïau Yswiriant Gwladol (yn agor tudalen Saesneg).

Sut i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol dramor

Debyd Uniongyrchol

Gallwch ddewis sut i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 neu Ddosbarth 3.

Gallwch dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol yn uniongyrchol o’ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn y DU neu Ynysoedd y Sianel.

Mae’r trefniant Debyd Uniongyrchol fel arfer yn dechrau ar ôl i ni gael cais gennych i dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol. Mae’n parhau nes i chi roi gwybod i’ch banc neu gymdeithas adeiladu i’w ganslo. Ni fyddwn yn casglu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyfer unrhyw wythnosau y tu hwnt i oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Os byddwch yn canslo’ch Debyd Uniongyrchol, cofiwch ein bod yn casglu eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol mewn ôl-ddyledion.

Os bydd y gyfradd cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn newid (sydd fel arfer yn digwydd bob mis Ebrill) bydd y swm newydd yn cael ei ddebydu o’ch cyfrif. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am y newid yn y swm yr ydym yn ei gasglu.

Os ydych am dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol, dewiswch yr opsiwn hwn pan fyddwch yn gwneud cais i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol pan fyddwch dramor (CF83).

Ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2, byddwn yn casglu taliadau misol, 4 mis mewn ôl-ddyledion. Mae bob taliad yn cwmpasu naill ai 4 neu 5 wythnos, yn dibynnu ar y nifer o ddyddiau Sul yn y mis mae’r taliad yn ddyledus.

Ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2, bydd taliadau bob chwe mis yn cwmpasu 26 neu 27 wythnos yn dibynnu ar sawl dydd Sul yn y cyfnod o 6 mis y mae’r taliad yn ddyledus. Byddwn yn casglu’r cyfraniadau hyn ym mis Ionawr a mis Gorffennaf bob blwyddyn.

Ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 3, byddwn yn casglu taliadau bob mis mewn ôl-ddyledion. Mae bob taliad yn cwmpasu naill ai 4 neu 5 wythnos, yn dibynnu ar y nifer o ddyddiau Sul yn y mis mae’r taliad yn ddyledus.

Byddwn yn casglu pob taliad ar, neu hyd at 3 diwrnod gwaith ar ôl, yr ail ddydd Gwener ym mhob mis – heblaw pan fo gwyliau banc yn achosi newid yn y trefniant hwn. Gwnewch yn siŵr bod gennych arian yn eich cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu i dalu’r swm rydym yn ei gasglu.

Y warant Debyd Uniongyrchol

Cynigir y Warant hon gan bob banc a chymdeithas adeiladu sy’n derbyn cyfarwyddiadau i dalu Debydau Uniongyrchol.

Os oes unrhyw newidiadau i swm, dyddiad neu amlder eich Debyd Uniongyrchol, byddwn yn rhoi gwybod i chi 10 ddiwrnod gwaith cyn i’ch cyfrif cael ei ddebydu, neu yn unol â’r hyn a gytunwyd fel arall. Os byddwch yn gofyn i ni gasglu taliad, byddwn yn rhoi cadarnhad i chi o’r swm a’r dyddiad pan fyddwch yn gwneud y cais.

Os yw CThEF, neu’ch banc neu gymdeithas adeiladu yn gwneud camgymeriad wrth dalu eich Debyd Uniongyrchol, mae gennych hawl i gael ad-daliad llawn ac ar unwaith o’r swm a dalwyd gan eich banc neu gymdeithas adeiladu.

Os ydych yn cael ad-daliad nad oes hawl gennych iddo, rhaid i chi ei dalu’n ôl pan ofynnwn i chi wneud hynny.

Gallwch ganslo Debyd Uniongyrchol ar unrhyw adeg drwy gysylltu â’ch banc neu gymdeithas adeiladu. Mae’n bosibl y bydd angen i chi roi cadarnhad ysgrifenedig. Dylech hefyd roi gwybod i ni.

Taliad blynyddol

Os ydych am dalu drwy daliad blynyddol, dewiswch yr opsiwn hwn pan fyddwch yn gwneud cais i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol pan fyddwch dramor (CF83).

Byddwn yn dweud wrthych bob blwyddyn:

  • faint ddylech ei dalu
  • pan fydd y taliad yn ddyledus

Gallwch dalu’n uniongyrchol neu drwy eich banc neu gymdeithas adeiladu.

Taliadau gan asiant

Gallwch gael rhywun i dalu eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar eich rhan. Os ydych am wneud hyn, dewiswch yr opsiwn hwn pan fyddwch yn gwneud cais i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol pan fyddwch dramor (CF83) a rhowch enw a chyfeiriad eich asiant.

Gall eich asiant dalu eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol naill ai drwy:

  • Debyd Uniongyrchol o gyfrif banc yn y DU
  • taliad blynyddol

Gofynnwch i’ch asiant aros nes iddo gael llythyr gan Weithrediadau Treth Bersonol, gweithiwr achos rhyngwladol CThEF cyn talu eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Talu ôl-ddyledion

Os hoffech gael ôl-ddyledion cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 neu Ddosbarth 3 ar gyfer y flwyddyn dreth gyfredol a ddidynnwyd gan Ddebyd Uniongyrchol, dewiswch yr opsiwn hwn pan fyddwch yn gwneud cais i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol pan fyddwch dramor (CF83).

Os ydych am dalu’r ôl-ddyledion ar gyfer y flwyddyn dreth gyfredol trwy siec, dewiswch yr opsiwn hwn pan fyddwch yn gwneud cais i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol pan fyddwch dramor (CF83). Byddwn yn ysgrifennu atoch gyda manylion y swm y mae angen i chi ei dalu ar ôl i ni gael eich cais.

Gweithwyr datblygu gwirfoddol

Os cewch eich anfon i weithio dramor mewn gwlad sy’n datblygu gan elusen gofrestredig, mae’n bosibl y gallwch ddewis talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 y gweithiwr datblygu gwirfoddol arbennig.

Gallai’r cyfraniadau Yswiriant Gwladol hyn eich helpu i fodloni’r amodau ar gyfer:

  • lwfans Ceisio Gwaith ar sail cyfraniadau
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth cyfrannol
  • Lwfans Mamolaeth

Mae’n bosibl y byddant hefyd yn rhoi sicrwydd i chi am anaf diwydiannol neu anabledd a ddioddefir yn ystod eich cyflogaeth dramor, pan fyddwch yn dychwelyd i’r DU.

Gallwch dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 i weithwyr datblygu gwirfoddol os yw’r canlynol yn wir:

  • nid yw eich sefydliad recriwtio yn agored i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 ar eich enillion (dim ond yn ystod 52 wythnos gyntaf eich cyflogaeth dramor y maent yn berthnasol)
  • rydych yn preswylio fel arfer yn y DU (darllenwch yr adran ‘Preswylydd cyffredin’)
  • mae eich sefydliad recriwtio wedi’i gymeradwyo at y dibenion hyn gan Bwyllgor Gweithredol CThEF
  • mae’r wlad lle rydych chi’n gweithio yn cael ei chydnabod fel gwlad sy’n datblygu gan Bwyllgor Gweithredol CThEF

Bydd y sefydliad a’ch recriwtiodd yn gwybod a yw’r ddau amod diwethaf wedi’u bodloni.

Sut i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 i weithwyr datblygu gwirfoddol dramor

Llenwch ffurflen gais CF83 a’i hanfon at eich sefydliad recriwtio. Byddant yn gweithredu fel eich asiant wrth dalu eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Os ydych yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 neu Ddosbarth 3 cyn mynd dramor

Gallwch wneud cais i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 neu Ddosbarth 3 gwirfoddol tra ydych dramor.
Ar gyfer:

Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST

Os yw’n briodol, rhowch wybod i ni:

  • pan ddaeth eich hunangyflogaeth i ben
  • y dyddiad yr ydych yn mynd dramor
  • eich cyfeiriad dramor

Os ydych am dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 neu Ddosbarth 3 gwirfoddol tra ydych dramor, llenwch ffurflen gais CF83.

Fyrdd eraill o gwmpasu eich cofnod Yswiriant Gwladol

Credydau

Tra ydych yn y DU, mae’n bosibl y byddwch yn gallu cael credydau yn lle gorfod talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol os yw’r canlynol yn wir:

  • rydych yn ddi-waith neu’n methu gweithio oherwydd salwch neu anabledd am wythnosau llawn (mae wythnos at y dibenion hyn yn golygu dydd Sul i ddydd Sadwrn), darllenwch yr adran ‘Bod yn ddi-waith neu’n methu gweithio’
  • mae gennych hawl i Lwfans Mamolaeth neu Lwfans Gofalwr — neu os nad yw’n cael Lwfans Gofalwr, yn gofalu am un person anabl neu fwy am o leiaf 20 awr yr wythnos
  • mae gennych hawl i Fudd-dal Plant ar gyfer plentyn dan 12 oed
  • rydych yn ofalwr maeth cofrestredig
  • rydych yn gofalu am blentyn yr ydych yn perthyn iddo, er enghraifft, wyrion
  • mae gennych hawl i Dâl Salwch Statudol, Tâl Mamolaeth Statudol, Tâl Statudol ar y Cyd i Rieni, gyda Thâl Mabwysiadu Statudol a Thâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth
  • rydych yn ymgymryd â chwrs o hyfforddiant cymeradwy
  • rydych yn cael Credyd Treth Gwaith
  • mae’n ofynnol i chi fynychu gwasanaeth rheithgor ac nid oedd gennych enillion yn, na’r trothwy enillion is ar gyfer cyflogaeth enillwyr cyflogedig
  • rydych yn cael taliad digolledu fel taliad yn lle rhybudd neu daliad yn lle tâl
  • rydych yn berson a dedfryd o garchar am euogfarn sydd wedi’i dileu
  • rydych yn briod â, neu mewn partneriaeth sifil ag aelod o Luoedd EF ac rydych yn mynd gyda nhw ar aseiniad tramor

Bod yn ddi-waith neu’n methu â gweithio

Fel arfer, bydd yn rhaid i chi fynychu cyfweliad bob pythefnos yn eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith agosaf (Swyddfa Nawdd Cymdeithasol neu Swyddi a Budd-daliadau yng Ngogledd Iwerddon) i gael y credydau.

Gallwch hefyd anfon nodiadau salwch (a elwir hefyd yn dystysgrifau meddygol a nodiadau ffitrwydd) i’ch Canolfan Gwaith agosaf i gael y credydau.

Yng Ngogledd Iwerddon dylech anfon nodiadau salwch at:

Incapacity Benefits Branch
Castle Court
Royal Avenue
Belfast
BT1 1SB

Darllenwch am gredydau Yswiriant Gwladol (yn agor tudalen Saesneg).

Os ydych yn parhau i gael Budd-dal Plant y DU tra ydych yn byw yn yr UE, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein, Norwy neu’r Swistir, mae’n bosibl y gallwch gael credydau.

Os ydych yn cael yr hyn sy’n cyfateb i Fudd-dal Plant o’ch man preswyl yn yr UE, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein, Norwy neu’r Swistir, dylech wirio a allant roi diogelwch pensiwn i chi tra nad ydych yn gweithio.

Os ydych yn cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth cyfrannol, Budd-dal Analluogrwydd neu Lwfans Gofalwr o’r DU, byddwch yn cael credyd Dosbarth 1 am y cyfnod rydych yn cael y budd-dal. Mae hyn yn berthnasol tra ydych yn byw yn:

  • Yr Undeb Ewropeaidd (UE)
  • Gwlad yr Iâ
  • Liechtenstein
  • Norwy
  • Y Swistir

Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref

Os yw eich cyfle i weithio yn gyfyngedig oherwydd eich bod yn gofalu am blentyn (gan gynnwys fel gofalwr maeth cofrestredig) neu berson sâl neu anabl, roedd Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref ar gael rhwng Ebrill 1978 ac Ebrill 2010. Gallai ei gwneud hi’n haws cael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth.

Defnyddiwch ffurflen CF411 er mwyn gwneud cais am Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref Yswiriant Gwladol.

Roedd Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref ar gael os oeddech chi dramor, ac fe wnaethoch barhau i fod â hawl i Fudd-dal Plant y DU.

O 6 Ebrill 2010 ymlaen, disodlwyd Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref gan gredyd cyfraniadau Yswiriant Gwladol wythnosol. Mae hyn yn berthnasol os yw’r canlynol yn wir:

  • rydych yn cael budd-dal Plant ar gyfer plentyn o dan 12 oed
  • rydych yn ofalwr maeth
  • rydych yn gofalu am o leiaf 20 awr yr wythnos, ar gyfer unrhyw berson sâl neu ddifrifol anabl

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu cael Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref os cawsoch Fudd-dal Plant ar gyfer plentyn dan 16 oed, tra oeddech yn byw yn:

  • Yr Undeb Ewropeaidd (UE)
  • Gwlad yr Iâ
  • Liechtenstein
  • Norwy
  • Y Swistir

Fodd bynnag, os ydych yn cael yr hyn sy’n cyfateb i Fudd-dal Plant o’ch man preswyl yn yr UE, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein, Norwy neu’r Swistir, dylech weld a allant roi diogelwch pensiwn i chi tra nad ydych yn gweithio.

Gwybodaeth ychwanegol

Os ydych yn briod, neu mewn partneriaeth sifil, a’ch bod yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016, mae’n bosibl y gallwch ddefnyddio cofnod Yswiriant Gwladol eich priod neu bartner sifil i gynyddu eich Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth.

Os byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2016, ni fyddwch yn gallu cynyddu eich Pensiwn y Wladwriaeth gan ddefnyddio cofnod Yswiriant Gwladol eich priod neu bartner sifil.

Gallwch wirio a allwch ddefnyddio cofnod Yswiriant Gwladol eich partner i gynyddu eich Pensiwn y Wladwriaeth (yn agor tudalen Saesneg).

Os ydych chi’n fenyw briod, neu’n weddw, gallwch dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyfradd is os ydych chi wedi dewis talu’r gyfradd is ar gyfer gwraig briod. Mae hyn yn golygu eich bod wedi dewis naill ai:

  • talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 ar gyfradd is
  • peidio â thalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 os ydych yn hunangyflogedig

Tra bo’r dewis hwnnw mewn grym, ni allwch wneud y canlynol:

  • talu Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 3
  • hawlio credydau (oni bai eich bod yn weddw)
  • cael Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref
  • hawlio’r budd-daliadau a restrir yn yr adran ‘Faint rydych yn ei dalu’

Daw’r dewis hwn i ben os byddwch yn ysgaru neu’n rhoi’r gorau i fod yn weddw gymwys. Bydd hefyd yn dod i ben yn awtomatig os nad ydych yn ennill digon i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol, ac nad ydych yn hunangyflogedig am ddwy flynedd dreth gyflawn.

Gallwch hefyd ddewis diddymu dewis menyw briod. Mae’r un rheolau yn berthnasol dramor ag yn y DU. Gwiriwch pa reolau sy’n berthnasol ar gyfer cyfraddau is Yswiriant Gwladol ar gyfer menywod priod (yn agor tudalen Saesneg).

Budd-daliadau nawdd cymdeithasol sy’n dibynnu ar eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol

Mae sawl rheol yn ymwneud â budd-daliadau nawdd cymdeithasol. Gwiriwch pa fudd-daliadau’r DU y gallech eu cael os ydych yn mynd neu’n byw dramor (yn agor tudalen Saesneg).

Gwiriwch pa gyfraniadau Yswiriant Gwladol sydd eu hangen arnoch

I fod yn gymwys ar gyfer y rhan fwyaf o’r budd-daliadau a grybwyllir yn yr adran hon, mae angen i chi gael digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol ar eich cofnod am y blynyddoedd treth perthnasol.

Y blynyddoedd treth perthnasol fel arfer yw’r ddwy flynedd dreth gyflawn ddiwethaf cyn y flwyddyn fudd-dal y byddwch yn hawlio budd-dal ynddi. Mae blwyddyn fudd-dal yn cyfateb yn fras i flwyddyn galendr. Er enghraifft, os ydych yn hawlio budd-dal ym mis Hydref 2022, y blynyddoedd treth perthnasol fyddai 2019 i 2020 (6 Ebrill 2019 i 5 Ebrill 2020) a 2020 i 2021 (6 Ebrill 2020 i 5 Ebrill 2021).

Mae’r blynyddoedd treth perthnasol ar gyfer Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth a budd-daliadau profedigaeth yn wahanol. Mae’n rhaid eich bod wedi talu o leiaf 25 wythnos o gyfraniadau Yswiriant Gwladol i’ch priod neu’ch partner gael y Taliad Cymorth Profedigaeth.

Gan fod cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 yn seiliedig ar enillion, ni allwch gyfrif nifer yr wythnosau rydych wedi’u talu.

Mae amodau cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn seiliedig ar nifer yr wythnosau o gyfraniadau y byddai angen i chi eu talu pe bai’ch enillion wythnosol ar y terfyn enillion is neu’n uwch yn ystod y flwyddyn dreth.

Os yw eich enillion fel arfer yn uwch na’r terfyn enillion is, bydd angen i chi fod wedi talu llai o wythnosau o gyfraniadau Yswiriant Gwladol i fod wedi cyrraedd y swm cywir.

Ar gyfer y budd-daliadau canlynol, rydym yn manylu ar y symiau a’r math o gyfraniadau Yswiriant Gwladol y mae angen i chi fod wedi’u talu. Dylai hyn eich helpu i benderfynu a oes angen i chi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol tra ydych i ffwrdd. Rydym hefyd yn rhoi manylion am gael budd-daliadau dramor a’r rheolau pan fyddwch yn dychwelyd i’r DU.

Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar gyfraniadau

I gael rhagor o wybodaeth am gael Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar gyfraniadau dramor:

Lwfans Cyflogaeth a Chymorth cyfrannol

Mae Lwfans Cyflogaeth a Chymorth cyfrannol yn fudd-dal nawdd cymdeithasol i bobl sydd â salwch neu anabledd. Os ydych chi’n cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth cyfrannol ac yn bwriadu mynd dramor, mae’n rhaid i chi gysylltu â’r Ganolfan Byd Gwaith ar unwaith, i weld a yw’ch budd-dal yn cael ei effeithio.

Gwiriwch pa fudd-daliadau’r DU y gallech eu cael os ydych yn mynd neu’n byw dramor (yn agor tudalen Saesneg).

Lwfans Mamolaeth

Mae’r Lwfans Mamolaeth yn seiliedig yn bennaf ar eich cyflogaeth a’ch enillion (darllenwch yr adran ar ‘Tâl Mamolaeth Statudol a Lwfans Mamolaeth’).

Os byddwch yn symud dramor i weithio cyn i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, mae’n bosibl na fyddwch yn cael blynyddoedd cymwys tuag at eich Pensiwn y Wladwriaeth am y blynyddoedd hynny. Fodd bynnag, mae hyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau penodol (er enghraifft, p’un a yw’n gwmni yn y DU rydych chi’n gweithio iddo, neu’n gwmni tramor).

Gwiriwch pa fudd-daliadau’r DU y gallech eu cael os ydych yn mynd neu’n byw dramor (yn agor tudalen Saesneg).

Pensiwn y Wladwriaeth

Darllenwch am Bensiwn y Wladwriaeth os ydych yn ymddeol dramor (yn agor tudalen Saesneg).

Os ydych newydd ddod i’r DU, neu’n dychwelyd i’r DU ar ôl cyfnod dramor, mae’r rheolau ar gyfer rhai budd-daliadau yn wahanol. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os ydych chi’n wladolyn yn y DU.

Os ydych yn bwriadu byw dramor pan fyddwch yn ymddeol, bydd y pensiwn a gewch o gynllun galwedigaethol yn cynyddu bob blwyddyn, yn unol â rheolau’r cynllun a’r ddeddfwriaeth gyfredol.

Sut i gael amcangyfrif o Bensiwn y Wladwriaeth

Gallwch wirio rhagolwg eich Pensiwn y Wladwriaeth. Bydd hyn yn rhoi amcangyfrif i chi o faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael pan fyddwch yn cyrraedd eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Gallai hyn eich helpu i benderfynu a ydych yn cynilo digon o arian i dalu am eich ymddeoliad.

Mae tair ffordd y gallwch gael rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth. Gallwch wneud y canlynol:

Os ydych yn byw y tu allan i’r DU, mae dwy ffordd y gallwch gael gwybodaeth am eich Pensiwn y Wladwriaeth:

Budd-daliadau a phensiynau ar gyfer cyn-filwyr, gweddwon, gwŷr gweddw a phartneriaid sifil sy’n goroesi

Taliad Cymorth Profedigaeth

Mae’r Taliad Cymorth Profedigaeth ar gael i ddynion a menywod.

Darllenwch am y Taliad Cymorth Profedigaeth.

I gael rhagor o wybodaeth am fudd-daliadau profedigaeth cysylltwch â’r Ganolfan Byd Gwaith,

Pensiynau rhyfel a chynllun iawndal y Lluoedd Arfog Taliadau Incwm Gwarantedig

Os yw’ch gŵr, gwraig neu bartner sifil wedi marw, mae’n bosibl y gallwch gael help drwy hawlio Taliad Cymorth Profedigaeth.

Mae yna hefyd fudd-daliadau eraill (yn agor tudalen Saesneg) y gallech fod â hawl iddynt. Gallwch gysylltu â Chanolfan Byd Gwaith i gael rhagor o wybodaeth.

Darllenwch am beth i’w wneud ar ôl marwolaeth (yn agor tudalen Saesneg).

Fel arfer, gellir talu’r canlynol yn unrhyw le yn y byd:

  • pensiynau anabledd rhyfel, gyda phensiynau gweddw rhyfel neu weddw
  • Taliadau Incwm Gwarantedig Cynllun Iawndal y Lluoedd Arfog
  • Taliadau Incwm Gwarantedig

Nid yw eich hawl iddynt yn dibynnu ar dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Os cawsoch bensiwn gwraig weddw rhyfel neu weddw yn y gorffennol a gafodd ei dynnu’n ôl pan ailbriododd, mae’n bosibl y bydd y pensiwn hwnnw’n cael ei adfer os ydych:

  • yn weddw eto
  • yn ysgaru
  • yn gwahanu’n gyfreithiol

Os ydych yn byw y tu allan i’r Deyrnas Unedig

Os ydych yn cael unrhyw un o’r canlynol ac yn bwriadu byw’n barhaol dramor, dylech roi gwybod i Veterans UK cyn gynted â phosibl:

  • pensiwn rhyfel
  • Taliadau Incwm Gwarantedig Cynllun Iawndal y Lluoedd Arfog
  • Taliadau Incwm Gwarantedig i un sy’n Goroesi o Gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog

Gallwch gysylltu â Veterans UK yn y cyfeiriad canlynol:

Veterans UK
Ministry of Defence
Norcross
Thornton Cleveleys
Lancashire
FY5 3WP

Gallwch hefyd ffonio’r llinell gymorth ar rif: 080 8191 4218, neu rif: 01253 866 043 os ydych yn ffonio o’r tu allan i’r DU. Gallwch hefyd anfon e-bost at: veterans-uk@mod.gov.uk.

Budd-daliadau nawdd cymdeithasol nad ydynt yn dibynnu ar gyfraniadau Yswiriant Gwladol

Nid yw eich hawl i unrhyw un o’r budd-daliadau a restrir yn yr adran hon yn dibynnu ar eich cofnod cyfraniadau Yswiriant Gwladol. Fodd bynnag, os ydych yn cael unrhyw un o’r budd-daliadau hyn yn y DU, mae’n rhaid i chi roi gwybod i’r swyddfa sy’n talu eich budd-dal cyn i chi adael y wlad.

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu parhau i gael budd-dal dramor mewn rhai achosion. Darllenwch yr adran ‘Gwledydd cytundeb UE a nawdd cymdeithasol’ i gael rhagor o wybodaeth.

Os ydych chi’n mynd i’r UE, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein, Norwy, neu’r Swistir neu un o’r gwledydd lle mae trefniadau arbennig wedi’u gwneud, darllenwch am hawlio budd-daliadau os ydych chi’n byw, yn symud neu’n teithio dramor (yn agor tudalen Saesneg).

Taliad Tanwydd Gaeaf

Mae Taliadau Tanwydd Gaeaf yn helpu pobl hŷn i dalu costau gwresogi eu cartrefi yn y gaeaf. I fod yn gymwys i gael Taliad Tanwydd Gaeaf, mae angen i chi fod wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth erbyn diwrnod olaf yr wythnos gymhwysol. Dyma drydedd wythnos lawn mis Medi bob amser.

Mae’n bosibl y bydd hawl gennych os ydych yn byw yn:

  • Gwlad yr Iâ
  • Liechtenstein
  • Norwy
  • Y Swistir
  • yr UE (ac eithrio Sbaen, Portiwgal, Ffrainc, Gwlad Groeg, Cyprus, Malta, neu Gibraltar)

Darllenwch am Daliad Tanwydd Gaeaf.

Lwfans Gweini

Gall Lwfans Gweini helpu gyda chostau ychwanegol os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth a bod gennych anghenion gofal neu oruchwyliaeth hirdymor.

Darllenwch am Lwfans Gweini.

Lwfans Byw i’r Anabl

Mae’r Lwfans Byw i’r Anabl yn cael ei ddisodli gan Daliad Annibyniaeth Personol ar gyfer pobl sy’n gweithio.

Mae Lwfans Byw i’r Anabl ar gyfer plant a phensiynwyr 65 oed neu hŷn sydd eisoes yn cael ar 8 Ebrill 2013 yn helpu gyda chostau ychwanegol anabledd hirdymor.

Darllenwch ragor o wybodaeth am Lwfans Byw i’r Anabl i blant.

Darllenwch am Lwfans Byw i’r Anabl i oedolion.

Budd-dal Plant

Mae Budd-dal Plant yn arian a delir i chi gan y llywodraeth os ydych yn gyfrifol am blentyn neu berson ifanc yn y DU.

Gwirio a allwch hawlio Budd-dal Plant.

I gael rhagor o wybodaeth neu help, ffoniwch Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF ar gyfer ymholiadau ynghylch Budd-dal Plant.

Lwfans Gwarcheidwad

Mae Lwfans Gwarcheidwad yn daliad sy’n rhydd o dreth i bobl sy’n gyfrifol am blant y mae eu rhieni wedi marw. Mewn rhai amgylchiadau, mae’n bosibl y byddwch yn gymwys i gael Lwfans Gwarcheidwad lle mai dim ond un rhiant sydd wedi marw.

Gwirio a allwch hawlio Lwfans Gwarcheidwad (yn agor tudalen Saesneg).

I gael rhagor o wybodaeth neu help, ffoniwch Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF ar gyfer ymholiadau ynghylch Budd-dal Plant.

Taliad Annibyniaeth Personol

Mae Taliad Annibyniaeth Personol wedi disodli Lwfans Byw i’r Anabl ar gyfer hawliadau newydd gan oedolion sy’n gweithio. Mae hefyd yn disodli’r Lwfans Byw i’r Anabl ar gyfer derbynwyr rhwng 16 a 64 oed ar 8 Ebrill 2013, neu sy’n cyrraedd 16 oed ar ôl y dyddiad hwnnw.

Mae’r Taliad Annibyniaeth Personol yn helpu gyda chostau ychwanegol anabledd hirdymor.

Darllenwch am Daliad Annibyniaeth Personol.

Credyd Treth Gwaith

Mae Credyd Treth Gwaith yn daliad atodol neu elw pobl sy’n gweithio ar gyflog isel (boed yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig), gan gynnwys y rhai nad oes ganddynt blant.

Gwirio a allwch hawlio Credyd Treth Gwaith (yn agor tudalen Saesneg).

I gael rhagor o wybodaeth neu help, ffoniwch Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF ar gyfer ymholiadau ynghylch credydau treth (yn agor tudalen Saesneg).

Credyd Treth Plant

Mae Credyd Treth Plant yn arian a delir i chi gan y llywodraeth os ydych yn byw yn y DU ac yn gyfrifol am blentyn neu berson ifanc.

Gwirio a allwch hawlio Credyd Treth Plant (yn agor tudalen Saesneg).

I gael rhagor o wybodaeth neu help, ffoniwch Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF ar gyfer ymholiadau ynghylch credydau treth (yn agor tudalen Saesneg).

Lwfans Ceisio Gwaith ar sail incwm

Ni ellir talu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm i chi dramor ac eithrio absenoldeb dros dro, o dan amgylchiadau arbennig.

I gael gwybodaeth am gael Lwfans Ceisio Gwaith ar sail incwm dramor, gofynnwch yn eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith agosaf (yng Ngogledd Iwerddon, eich Swyddfa Nawdd Cymdeithasol neu Swyddi a Budd-daliadau agosaf).

Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn ymwneud ag incwm

Ni ellir talu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn ymwneud ag incwm i chi dramor ac eithrio absenoldeb dros dro, o dan amgylchiadau arbennig.

Mae’n rhaid i chi gysylltu â’r Ganolfan Byd Gwaith os ydych yn mynd dramor.

Yng Ngogledd Iwerddon, dylai cwsmeriaid gysylltu â’u Canolfan Lwfans Cyflogaeth a Chymorth gyfrannol. Byddant yn gallu eich cynghori os gallwch barhau i gael y budd-dal hwn.

Cymhorthdal Incwm

Ni ellir talu Cymhorthdal Incwm i chi dramor, ac eithrio absenoldeb dros dro o dan amgylchiadau arbennig. Rhowch wybod i’ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith agosaf (yng Ngogledd Iwerddon eich swyddfa Nawdd Cymdeithasol neu Swyddi a Budd-daliadau agosaf) pan fyddwch yn mynd dramor. Byddant yn gallu rhoi gwybod i chi a allwch barhau i gael Cymhorthdal Incwm.

Darllenwch am Gymhorthdal Incwm.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Ganolfan Byd Gwaith (yng Ngogledd Iwerddon eich Swyddfa Nawdd Cymdeithasol neu Swyddi a Budd-daliadau agosaf).

Os oes gennych hawl i unrhyw fudd-dal tramor, mae’n bosibl y bydd gennych hawl i gynnydd ar gyfer oedolyn sy’n byw gyda chi, dramor neu yn y DU.

Credyd Cynhwysol

Mae Credyd Cynhwysol yn daliad i helpu gyda’ch costau byw.

Mae’n bosibl y gallwch ei gael os ydych ar incwm isel, neu allan o waith.

Bydd yn disodli:

  • Credyd Treth Plant
  • Budd-dal Tai
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith ar sail incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn ymwneud ag incwm
  • Credyd Treth Gwaith

Ni ellir talu Credyd Cynhwysol i chi dramor, ac eithrio absenoldeb dros dro mewn amgylchiadau arbennig. Mae’n rhaid i chi gysylltu â’r Ganolfan Byd Gwaith os ydych yn mynd dramor.

Darllenwch ragor o wybodaeth am Gredyd Cynhwysol.

Lwfans Gofalwr

Mae’r Lwfans Gofalwr yn darparu mesur o gymorth ariannol os ydych yn gofalu am rywun o leiaf 35 awr yr wythnos, a’u bod yn cael rhai budd-daliadau sy’n gysylltiedig ag anabledd. Nid oes rhaid i chi fod yn perthyn i, nac yn byw gyda’r person rydych yn gofalu amdano.

Darllenwch am Lwfans Gofalwr.

Budd-daliadau Anabledd Anafiadau Diwydiannol

Mae’r Cynllun Anafiadau Diwydiannol yn darparu budd-daliadau heb fod yn anghyfrannol, di-fai ar gyfer anabledd a achosir gan y canlynol:

  • damwain yn y gwaith
  • un o dros 70 o glefydau rhagnodedig y gwyddys eu bod yn risg o rai swyddi

Mae’r budd-daliadau sy’n daladwy o dan y cynllun yn cael eu disgrifio fel Budd-daliadau Anabledd Anafiadau Diwydiannol.

Telir budd-daliadau i gyflogeion sy’n agored i dalu Treth Incwm o dan TWE ar gyflogau, salarïau neu ffioedd. Nid ydynt yn daladwy pan gafodd y ddamwain neu’r clefyd ei gontractio yn ystod hunangyflogaeth. Gellir talu Budd-daliadau Anabledd Anafiadau Diwydiannol dramor, ond mae’n rhaid i chi roi gwybod i’r swyddfa sy’n delio â’ch hawliad cyn i chi adael y DU.

Os ydych chi’n byw dramor a bod gennych ymholiad ynghylch Budd-daliadau Anabledd Anafiadau Diwydiannol, cysylltwch â’r Ganolfan Bensiwn Ryngwladol.

Darllenwch am Budd-daliadau Anabledd Anafiadau Diwydiannol.

Cynnydd o fudd-daliadau i’ch dibynyddion

Fel arfer, gallwch gael cynnydd mewn budd-dal i blentyn os yw absenoldeb y plentyn dramor dros dro. Mae hyn yn berthnasol tra ydych yn parhau i fod â hawl i Fudd-dal Plant ar gyfer y plentyn.

Sut i hawlio budd-dal pan fyddwch dramor

Os ydych yn credu y gallech fod yn gymwys i gael unrhyw un o’r budd-daliadau yn yr adran ‘budd-daliadau anghyfrannol’, ysgrifennwch at yr Adran Gwaith a Phensiynau yn y cyfeiriad yn yr adran ‘I gael rhagor o wybodaeth a chyngor’. Yng Ngogledd Iwerddon, ysgrifennwch at yr Adran Cymunedau. Mae terfynau amser, felly hawliwch cyn gynted â phosibl, neu efallai y byddwch yn colli hawl.

Taliadau sy’n seiliedig ar gyflogaeth ac enillion

Tâl Mamolaeth Statudol a Lwfans Mamolaeth

Mae 2 brif daliad mamolaeth ar gael i fenywod:

  • Tâl Mamolaeth Statudol gan eich cyflogwr
  • Lwfans mamolaeth gan y Canolfan Byd Gwaith

Ni allwch gael y ddau ar yr un pryd. Mae’r ddau yn cael eu talu am uchafswm o 39 wythnos.

I gael Tâl Mamolaeth Statudol gan eich cyflogwr, mae’n rhaid eich bod wedi cael eich cyflogi’n barhaus gan y cyflogwr hwnnw am 26 wythnos i mewn i’r 15fed wythnos cyn eich wythnos geni ddisgwyliedig. Mae’n rhaid i chi hefyd gael enillion cyfartalog o leiaf sy’n hafal i’r terfyn enillion is ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Mae swm y Tâl Mamolaeth Statudol a gewch yn dibynnu ar faint rydych yn ei ennill. Os ydych yn gyflogedig dramor ac yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 y DU (neu os byddai eich enillion yn ddigon uchel), mae’n bosibl y byddwch yn gallu cael Tâl Mamolaeth Statudol. Os ydych yn gymwys i gael Tâl Mamolaeth Statudol ac yn mynd dramor, bydd yn dal yn daladwy i chi.

Mae’n bosibl y gallwch gael Lwfans Mamolaeth os na allwch gael Tâl Mamolaeth Statudol.

Mae Lwfans Mamolaeth yn daladwy os ydych chi wedi cael eich cyflogi neu’n hunangyflogedig mewn 26 allan o’r 66 wythnos sy’n dod i ben gyda’r wythnos cyn eich wythnos geni ddisgwyliedig. Mae’n rhaid i chi hefyd gael enillion ar gyfartaledd o £30 yr wythnos. Mae swm y Lwfans Mamolaeth a gewch yn dibynnu ar eich enillion.

I gael gwybodaeth am weithwyr datblygu gwirfoddolwyr a chyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2, darllenwch yr adran ‘Sut i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 i weithwyr datblygu gwirfoddolwyr dramor’.

Darllenwch am absenoldeb a thâl mamolaeth (yn agor tudalen Saesneg).

Gwirio a allwch hawlio Lwfans Mamolaeth.

Os ydych chi’n briod neu’n bartner sifil i aelod o Luoedd EF sy’n gwasanaethu, mae’n bosibl na fyddwch yn gallu cael Lwfans Mamolaeth yn y wlad rydych chi ynddi. Fodd bynnag, mae’n bosibl y gallwch hawlio taliad dewisol gan y Weinyddiaeth Amddiffyn, drwy uned gyflog eich partner sy’n gwasanaethu.

Os ydych yn mynd dramor ac yn cael Lwfans Mamolaeth, dylech roi gwybod i’ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith ar unwaith.

Tâl Salwch Statudol

Nid yw Tâl Salwch Statudol yn daladwy am y 3 diwrnod cyntaf o salwch. Gellir ei dalu hyd at uchafswm o 28 wythnos.

I gael Tâl Salwch Statudol gan eich cyflogwr, mae’n rhaid eich bod wedi gwneud rhywfaint o waith o dan eich contract cyflogaeth. Bydd yn rhaid i chi wneud y canlynol hefyd:

  • bod yn sâl am 4 diwrnod neu fwy yn olynol (gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc)
  • cael enillion cyfartalog ar neu’n uwch na’r terfyn enillion is sy’n berthnasol i gyfraniadau Yswiriant Gwladol

Os ydych chi dramor a’ch cyflogwr yn gyfrifol am dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 y DU (neu os oedd eich enillion yn ddigon uchel), mae’n bosibl y gallwch gael Tâl Salwch Statudol.

Mae rheolau arbennig yn berthnasol os ydych yn gweithio:

  • ar y môr
  • ar awyren
  • yn yr UE
  • yng Ngwlad yr Iâ, Liechtenstein, Norwy neu’r Swistir

Mae Tâl Salwch Statudol yn daliad dyddiol, ac fel arfer mae’n cael ei dalu am y dyddiau y byddech yn gweithio fel arfer.

Os ydych yn gymwys i gael Tâl Salwch Statudol ac yn mynd dramor, bydd yn dal yn daladwy i chi, cyn belled â’ch bod yn gallu profi eich bod yn dal i fod yn sâl.

Darllenwch am Dâl Salwch Statudol.

Mae’n bosibl y bydd gwahaniaethau yn yr hawl i absenoldeb sy’n gysylltiedig â COVID-19.

Tâl Tadolaeth Statudol

Gellir talu Tâl Tadolaeth Statudol am enedigaeth neu fabwysiadu am hyd at 2 wythnos.

I gael Tâl Tadolaeth Statudol gan eich cyflogwr, mae’n rhaid eich bod wedi cael eich cyflogi’n barhaus gan y cyflogwr hwnnw naill ai:

  • am 26 wythnos i mewn i’r 15fed wythnos cyn yr wythnos geni ddisgwyliedig
  • yn barhaus am 26 wythnos i mewn i’r wythnos baru, yn achos mabwysiadu

Mae’n rhaid i chi hefyd gael enillion cyfartalog o leiaf sy’n hafal i’r terfyn enillion is ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Hefyd, mae’n rhaid i chi barhau i gael eich cyflogi gan yr un cyflogwr, hyd at naill ai dyddiad geni’r babi, neu’r dyddiad y caiff y plentyn ei leoli gyda’r person sy’n mabwysiadu. Mae swm y Tâl Tadolaeth Statudol a gewch yn dibynnu ar faint rydych yn ei ennill.

Os ydych yn gyflogedig dramor ac yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 y DU (neu os byddai eich enillion yn ddigon uchel), mae’n bosibl y gallwch gael Tâl Tadolaeth Statudol. Os ydych yn gymwys i gael Tâl Tadolaeth Statudol ac yn mynd dramor, bydd yn dal yn daladwy i chi.

Darllenwch am Dâl Tadolaeth Statudol.

Tâl Mabwysiadu Statudol

Gellir talu Tâl Mabwysiadu Statudol am hyd at uchafswm o 39 wythnos.

I gael Tâl Mabwysiadu Statudol gan eich cyflogwr, mae’n rhaid eich bod wedi cael eich cyflogi’n barhaus gan y cyflogwr hwnnw am 26 wythnos, i’r wythnos y byddwch yn cael hysbysiad eich bod wedi cael eich paru â phlentyn i’w fabwysiadu. Mae’n rhaid i chi hefyd gael enillion cyfartalog o leiaf sy’n hafal i’r terfyn enillion is ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Mae swm y Tâl Mabwysiadu Statudol a gewch yn dibynnu ar faint rydych yn ei ennill. Os ydych yn gyflogedig dramor ac yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 y DU (neu os byddai eich enillion yn ddigon uchel), mae’n bosibl y byddwch yn gallu cael Tâl Mabwysiadu Statudol.

Os ydych yn gymwys i gael Tâl Mabwysiadu Statudol ac yn mynd dramor, bydd yn dal yn daladwy i chi.

Darllenwch am Dâl Mabwysiadu Statudol.

Tâl Statudol ar y Cyd i Rieni

Mae Tâl Statudol ar y Cyd i Rieni’n daladwy pan fydd tâl mamolaeth, lwfans neu hawl mabwysiadu mam wedi dod i ben yn gynnar, er mwyn rhannu’r gweddill gyda’u partner. Mae cyflogwyr yn agored i dalu Tâl Statudol ar y Cyd i Rieni i weithwyr cymwys sy’n cymryd amser i ffwrdd i ofalu am y plentyn, cyn belled â’u bod yn bodloni’r holl amodau cymhwyso.

Darllenwch am Absenoldeb a Thâl ar y Cyd i Rieni.

Tâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth

Mae Tâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth yn ddyledus i gyflogeion cymwys a’u partner a gafodd y canlynol:

  • plentyn o dan 18 oed sydd wedi marw
  • marw-enedigaeth ar ôl 24 wythnos o feichiogrwydd

Mae Tâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth yn daladwy am uchafswm o 2 wythnos a gellir ei gymryd yn olynol, neu fel wythnosau ar wahân. Mae’n rhaid iddo ddod i ben o fewn 56 wythnos i farwolaeth neu farw-enedigaeth y plentyn.

I gael Tâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth gan eich cyflogwr, mae’n rhaid i’r ddau ohonoch:

  • wedi cael eich cyflogi’n barhaus gan y cyflogwr hwnnw am 26 wythnos
  • gael enillion cyfartalog o leiaf sy’n hafal i’r terfyn enillion is sy’n berthnasol i gyfraniadau Yswiriant Gwladol

Mae Tâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth yn berthnasol i Brydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban) yn unig.

Os ydych yn gymwys i gael Tâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth ym Mhrydain Fawr ac yn mynd dramor, bydd yn dal yn daladwy i chi.

Darllenwch am Absenoldeb a Thâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth.

Sicrwydd ar gyfer gofal iechyd

Gofal iechyd wrth ymweld â gwlad arall

Mae gwybodaeth ar gael ar wefan y GIG am y canlynol:

Mynediad i’r GIG

Mae’r GIG yn darparu gofal iechyd i bobl sy’n byw yn y DU. Os byddwch yn symud dramor, nid oes gennych hawl yn awtomatig i ddefnyddio’r GIG yn rhad ac am ddim. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os ydych wedi talu cyfraniadau a threthi Yswiriant Gwladol yn y DU.

Pan fyddwch yn mynd dramor am 3 mis neu fwy, dylech roi gwybod i’ch meddyg teulu:

  • y dyddiad y byddwch yn gadael
  • y dyddiad y byddwch yn dychwelyd, os ydych yn gwybod

Bydd hyn yn atal eich cofnodion rhag cael eu tynnu’n ôl. Dylech gofrestru gyda meddyg cyn gynted ag y gallwch ar ôl i chi ddychwelyd. Bydd hyn yn caniatáu i’r meddyg teulu adfer eich cofnodion yn barod i’w defnyddio pan fydd eu hangen arnynt ac osgoi i’r cofnodion gael eu tynnu’n ôl mewn camgymeriad.

Os ydych yn mynd i fyw dramor ac yn dod yn ôl i ymweld â’r DU

Byddwch yn gallu cael triniaeth frys gan y GIG mewn meddygfa, neu Adran Achosion Brys ysbyty os yw’r canlynol yn wir:

  • mae gan y ddau ohonoch hawl i gael triniaeth GIG
  • mae’r ddau ohonoch yn mynd yn sâl, neu’n cael eich anafu yn ystod eich ymweliad â’r DU

Os byddwch yn dychwelyd i’r DU yn benodol i gael triniaeth ysbyty, neu archwiliad gan y GIG am salwch neu anaf sy’n bodoli eisoes, fel arfer bydd yn rhaid i chi dalu am hyn. Fodd bynnag, mae’n bosibl na fydd yn rhaid i chi dalu os yw’r canlynol:

  • mae cytundeb gofal iechyd ar waith gyda’ch gwlad breswyl newydd
  • rydych yn gymwys i gael eithriad arall rhag codi tâl

I gael ragor o wybodaeth a chyngor

Cyfeiriadau defnyddiol

Mae’n bosibl na fydd yr wybodaeth yn yr arweiniad hwn yn ddigon manwl i ateb eich holl gwestiynau.

Os ydych yn byw (neu’n byw) yn y DU cyn mynd dramor ac angen help gydag ymholiad am gyfraniadau Yswiriant Gwladol y DU, ysgrifennwch at:

Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST

I gael manylion Treth Incwm y DU tra ydych dramor, darllenwch am bobl nad ydynt yn breswyl yn y DU: Treth Incwm a Threth Enillion Cyfalaf.

Os ydych dramor ac angen help gydag ymholiad ynghylch budd-daliadau, cysylltwch â’r Ganolfan Bensiwn Ryngwladol, neu ysgrifennwch at:

Department for Work and Pensions
The Pension Service
International Pension Centre
The Pension Service 11
Mail Handling Site A
Wolverhampton
WV98 1LW
England

Os ydych yn byw (neu oeddech yn fyw) yng Ngogledd Iwerddon ac angen cyngor ar fudd-daliadau cyn mynd dramor, ysgrifennwch at:

Department for Communities
Network Support Branch
Overseas Benefits Unit
Level 5
Royston House
34 Upper Queen Street
Belfast
BT1 6FX
Northern Ireland

Llinell Gymorth

Ffoniwch y llinellau cymorth ar gyfer ymholiadau cyfraniadau Yswiriant Gwladol o fewn y DU (yn agor tudalen Saesneg).

Gallwch hefyd gysylltu â’r Ganolfan Bensiwn Ryngwladol (yn agor tudalen Saesneg).

Eich hawliau a’ch ymrwymiadau

Mae ‘Siarter CThEF’ yn egluro’r hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym ni, a’r hyn a ddisgwyliwn gennych chi.

Sut yr ydym yn defnyddio’ch gwybodaeth

Mae CThEF yn Rheolydd Data o dan Ddeddf Diogelu Data 2018. Rydym yn cadw gwybodaeth at y dibenion a bennir yn ein hysbysiad i’r Comisiynydd Gwybodaeth, gan gynnwys:

  • asesu a chasglu treth a thollau
  • talu budd-daliadau
  • ar gyfer atal a chanfod troseddau

Mae’n bosibl y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon am unrhyw un o’r rhesymau hyn.

Mae’n bosibl y cawn wybodaeth amdanoch gan eraill, neu efallai y byddwn yn rhoi gwybodaeth iddynt. Os gwnawn hynny, bydd yn unol â’r hyn y mae’r gyfraith yn ei ganiatáu yn unig, a hynny er mwyn gwneud y canlynol:

  • gwirio cywirdeb gwybodaeth
  • atal neu ganfod troseddau
  • diogelu arian cyhoeddus

Efallai y byddwn yn cymharu gwybodaeth a gawn amdanoch yn erbyn yr hyn sydd eisoes yn ein cofnodion. Gall hyn gynnwys gwybodaeth a ddarperir gennych chi, a chan eraill, megis:

  • adrannau neu asiantaethau eraill o’r llywodraeth
  • awdurdodau trethi a thollau tramor

Ni fyddwn yn rhoi gwybodaeth amdanoch i unrhyw un y tu allan i CThEF oni bai bod y gyfraith yn caniatáu i ni wneud hynny.

Darllenwch am ddiogelu data (yn agor tudalen Saesneg).

Gwybodaeth bwysig am eich cofrestriad GIG

Os byddwch yn mynd dramor, gall yr Adran Gwaith a Phensiynau (yr Adran Cymunedau yng Ngogledd Iwerddon) drosglwyddo’r wybodaeth hon i’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Gallai hyn olygu eich bod wedi eich dadgofrestru o’r GIG.

Darllenwch yr adran ‘Mynediad i’r GIG’, am ragor o wybodaeth.

Costau galwadau

Darllenwch wybodaeth am gostau galwadau a rhifau ffôn.