Lwfans Priodasol

Neidio i gynnwys y canllaw

Os yw’ch amgylchiadau’n newid

Mae’n rhaid i chi ganslo Lwfans Priodas os oes unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • mae’ch perthynas yn dod i ben - oherwydd eich bod wedi ysgaru, wedi gorffen (‘diddymu’) eich partneriaeth sifil neu wedi gwahanu’n gyfreithiol
  • mae’ch incwm yn newid ac nid ydych yn gymwys mwyach
  • nid ydych am hawlio mwyach

Os bydd eich incwm yn newid ac nad ydych yn siŵr a ddylech barhau i hawlio, ffoniwch Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEM.

Sut i ganslo

Gall y naill neu’r llall ohonoch ganslo os yw’ch perthynas wedi dod i ben.

Os ydych yn canslo am reswm arall, mae’n rhaid i’r person a wnaeth yr hawliad ganslo.

Ar-lein

Gallwch ganslo Lwfans Priodasol ar-lein. Gofynnir i chi i brofi pwy ydych gan ddefnyddio gwybodaeth sydd ym meddiant CThEM amdanoch chi.

Dros y ffôn

Cysylltwch ag ymholiadau Lwfans Priodasol i ganslo neu gael help.

Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEM
Ffôn: 0300 200 1900
Rhif ffôn o’r tu allan i’r DU: +44 300 200 1900
Dydd Llun i ddydd Gwener: 08:30 – 17:00
Rhagor o wybodaeth am gostau galwadau

Ar ôl i chi ganslo

Os byddwch yn canslo oherwydd newid mewn incwm, bydd y lwfans yn rhedeg hyd at ddiwedd y flwyddyn dreth (5 Ebrill).

Os yw’ch perthynas wedi dod i ben, gellir ôl-ddyddio’r newid i ddechrau’r flwyddyn dreth (6 Ebrill).

Gallai hyn olygu eich bod chi neu’ch partner yn tandalu treth am y flwyddyn.

Os yw’ch partner yn marw

Os yw’ch partner yn marw ar ôl i chi drosglwyddo rhywfaint o’ch Lwfans Personol iddo:

  • caiff ei ystâd ei drin fel bod ganddo’r Lwfans Personol sydd wedi’i gynyddu
  • bydd eich Lwfans Personol yn dychwelyd i’r swm arferol

Enghraifft

Mae’ch incwm yn £8,000 a gwnaethoch drosglwyddo £1,260 o’ch lwfans i’ch partner. Gwnaeth hyn eich lwfans yn £11,310 a lwfans eich partner yn £13,830.

Ar ôl ei farwolaeth, bydd Lwfans Personol yr ystâd yn parhau i fod yn £13,830 a’ch un chi’n dychwelyd i £12,570.

Os trosglwyddodd eich partner rywfaint o’i Lwfans Personol i chi cyn iddo farw:

  • bydd eich Lwfans Personol yn parhau ar y lefel uchaf tan ddiwedd y flwyddyn dreth (5 Ebrill)
  • caiff ei ystâd ei drin fel bod ganddo’r swm is

Enghraifft

Trosglwyddodd eich partner £1,260 i’ch Lwfans Personol, gan wneud ei lwfans yn £11,310 a’ch un chithau yn £13,830.

Ar ôl ei farwolaeth, mae’ch Lwfans Personol yn parhau i fod yn £13,830 hyd at 5 Ebrill ac yna’n dychwelyd i’r swm arferol. Caiff ei ystâd ei drin fel bod ganddo Lwfans Personol o £11,310.