Lwfans Priodasol
Sut i wneud cais
Gallwch wneud cais am Lwfans Priodasol ar-lein. Mae’n rhad ac am ddim i wneud cais.
Os nad oes gan y ddau ohonoch incwm ar wahân i’ch cyflog, yna dylai’r person sy’n ennill y lleiaf wneud yr hawliad.
Os bydd y naill neu’r llall ohonoch yn cael incwm arall, fel difidendau neu gynilion, mae’n bosibl y bydd angen i chi gyfrifo pwy ddylai hawlio. Gallwch ffonio Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEM os ydych yn ansicr.
Bydd newidiadau i’ch Lwfansau Personol yn cael eu hôl-ddyddio i ddechrau’r flwyddyn dreth (6 Ebrill) os bydd eich cais yn llwyddiannus.
Ffyrdd eraill o wneud cais
Os na allwch wneud cais ar-lein, gallwch wneud cais:
-
drwy Hunanasesiad os ydych eisoes wedi cofrestru ac yn anfon Ffurflenni Treth
-
drwy lenwi ffurflen Lwfans Priodasol MATCF a’i hanfon i’r cyfeiriad ar y ffurflen
Sut mae eich Lwfansau Personol yn newid
Bydd Cyllid a Thollau EM (CThEM) yn rhoi’r lwfans rydych wedi’i drosglwyddo i’ch partner naill ai:
- drwy newid ei god treth - gall hyn gymryd hyd at 2 fis
- pan fydd yn anfon ei Ffurflen Dreth Hunanasesiad
Os yw’ch Lwfans Personol newydd yn is na’ch incwm ar ôl i chi wneud hawliad, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu rhywfaint o dreth incwm. Fodd bynnag, mae’n bosibl y byddwch yn dal i elwa fel cwpl.
Sut bydd eich cod treth yn newid
Byddwch chi a’ch partner yn cael codau treth newydd sy’n adlewyrchu’r lwfans a drosglwyddwyd. Bydd eich cod treth yn gorffen gyda’r canlynol:
- ‘M’ os ydych yn cael y lwfans
- ‘N’ os ydych yn trosglwyddo’r lwfans
Bydd eich cod treth hefyd yn newid os ydych yn gyflogedig neu’n cael pensiwn.