Trosolwg

Fel cynrychiolydd personol (ysgutor neu weinyddwr) rydych yn gyfrifol yn gyfreithiol am arian, eiddo a meddiannau’r person a fu farw (‘asedion yr ystâd’).

Rydych yn gyfrifol am yr asedion o ddyddiad y farwolaeth hyd nes y dyddiad mae bob dim wedi eu trosglwyddo i’r buddiolwyr. Gelwir hyn y ‘cyfnod gweinyddu’.

Efallai bydd yn rhaid i chi wneud cais am brofiant cyn eich bod yn gallu delio â rhai asedion.

Mae’n bosibl bydd yn rhaid i chi wneud y canlynol yn ystod y cyfnod gweinyddu:

  • talu unrhyw ddyledion a adawyd gan y person a fu farw
  • gwerthu asedion megis eiddo neu gyfranddaliadau
  • talu Treth Incwm ar bethau megis incwm rhent o eiddo, elw o fusnes neu log o fuddsoddiadau
  • talu Treth Enillion Cyfalaf ar elw o werthu cyfranddaliadau, buddsoddiadau neu eiddo
  • rhoi gwybod am werth ystâd, incwm a rhwymedigaeth treth i Gyllid a Thollau EF

Gallwch gael cyngor a help cyfreithiol proffesiynol (yn agor tudalen Saesneg), megis gan gyfreithiwr, er mwyn delio ag unrhyw ystâd. Dylech ystyried hyn os oes gan yr ystâd llawer o asedion neu mae’n cynnwys pethau fel ymddiriedolaethau.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Os ydych yn delio ag ystâd gyda rhywun arall

Os nad ydych yr unig gynrychiolydd personol dylech gytuno gyda’r lleill:

  • ble i gadw asedion ariannol - gallwch agor cyfrif banc a elwir yn ‘cyfrif ysgutoriaeth’ os oes angen
  • rheolau ar godi arian neu wneud taliadau o unrhyw cyfrif sy’n gysylltiedig â’r ystâd
  • pa asedion y mae angen i chi eu gwerthu a phryd