Delio ag ystâd rhywun sydd wedi marw

Neidio i gynnwys y canllaw

Rheoli a gwerthu asedion

Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu trethi ar gyfer yr ystâd os oes unrhyw incwm newydd tra byddwch yn delio â hi, er enghraifft elw o werthu pethau fel cyfranddaliadau neu eiddo, neu ddifidendau o fuddsoddiadau.

Gwerthu cyfranddaliadau neu eiddo

Os ydych yn gwerthu cyfranddaliadau, buddsoddiadau neu eiddo sy’n perthyn i’r ystâd, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf arnynt naill ai:

  • os ydynt wedi cynyddu mewn gwerth ers i’r person farw
  • os ydynt wedi cynyddu mewn gwerth ers cael eu prisio ar gyfer Treth Etifeddiant

Nid ydych yn talu Treth Enillion Cyfalaf o’r ystâd os ydych yn trosglwyddo asedion yn uniongyrchol i fuddiolwr, er enghraifft eiddo.

Darllenwch arweiniad ar y canlynol:

Os oes arnoch ddyled o Dreth Enillion Cyfalaf ar eiddo preswyl, fel arfer mae’n rhaid i chi roi gwybod am hyn cyn pen 60 diwrnod.

Os ydych yn gwerthu tir neu eiddo, mae’n rhaid i chi hefyd diweddaru’r gofrestr eiddo gyda Chofrestrfa Tir EF.

Cynilion, difidendau neu incwm arall

Gall rhai asedion barhau i gynhyrchu incwm ar ôl y farwolaeth nes i chi eu trosglwyddo neu eu gwerthu. Gallai hyn gynnwys:

  • incwm rhent o eiddo
  • elw a thaliadau o fasnach neu fusnes y person a fu farw
  • taliadau llog neu ddifidend ar gynilion, cyfranddaliadau a buddsoddiadau eraill

Mae’n rhaid i chi gyfrifo a thalu Treth Incwm ar y swm llawn o incwm y mae’r ystâd yn ei gael rhwng y diwrnod ar ôl y farwolaeth a’r dyddiad y dosbarthwyd popeth.

Nid yw ystadau yn cael unrhyw lwfansau ar gynilion, incwm neu ddifidendau. Mae ystadau yn talu treth ar y cyfraddau sylfaenol o 8.75% ar ddifidendau ac 20% ar unrhyw incwm arall.