Absenoldeb a Thâl ar y cyd i Rieni
Pryd y gallwch ddechrau
Dim ond ar ôl i’r plentyn gael ei eni neu ei leoli gyda’ch teulu i gael ei fabwysiadu y gallwch chi ddechrau Absenoldeb ar y Cyd i Rieni (SPL) neu Dâl Statudol ar y Cyd i Rieni (ShPP).
Gallwch wirio pryd y gallwch chi a’ch partner ddechrau’ch absenoldeb gan ddefnyddio’r offeryn cynllunio Absenoldeb a Thâl ar y Cyd i Rieni.
Er mwyn i SPL ddechrau
Mae’n rhaid i’r fam (neu’r unigolyn sy’n cael absenoldeb mabwysiadu) naill ai:
- dychwelyd i’r gwaith, sy’n dod ag unrhyw absenoldeb mamolaeth neu fabwysiadu i ben
- rhoi ‘hysbysiad rhwymol’ i’r cyflogwr o’r dyddiad y mae’n bwriadu dod â’r absenoldeb i ben (ni allwch fel arfer newid y dyddiad a roddwch mewn hysbysiad rhwymol)
Gallwch ddechrau SPL tra bydd eich partner yn dal i fod ar absenoldeb mamolaeth neu fabwysiadu, cyn belled â’i fod wedi rhoi hysbysiad rhwymol i’w derfynu.
Gallwch roi hysbysiad rhwymol a dweud pryd rydych yn bwriadu cymryd eich SPL ar yr un pryd.
Ni all mam ddychwelyd i’r gwaith cyn diwedd y 2 wythnos orfodol o absenoldeb mamolaeth yn dilyn yr enedigaeth (4 wythnos os yw’n gweithio mewn ffatri). Os ydych yn mabwysiadu, mae’n rhaid i’r person sy’n hawlio tâl mabwysiadu gymryd o leiaf 2 wythnos o absenoldeb mabwysiadu.
Os nad yw’r fam neu’r mabwysiadwr yn cael absenoldeb mamolaeth neu fabwysiadu
Mae’n rhaid i’r fam neu’r mabwysiadwr ddod ag unrhyw dâl mamolaeth, tâl mabwysiadu neu Lwfans Mamolaeth i ben fel y gall gael SPL, neu fel y gall y partner gael SPL.
Er mwyn i ShPP ddechrau
Mae’n rhaid i’r fam (neu’r unigolyn sy’n cael tâl mabwysiadu) roi hysbysiad rhwymol i’r cyflogwr o’r dyddiad y mae’n bwriadu dod ag unrhyw dâl mamolaeth neu fabwysiadu i ben.
Os yw’r unigolyn dan sylw yn cael Lwfans Mamolaeth, mae’n rhaid iddo roi rhybudd i’r Ganolfan Byd Gwaith yn lle hynny.
Ni all ailgychwyn tâl mamolaeth, Lwfans Mamolaeth na thâl mabwysiadu unwaith y bydd wedi dod i ben.
Gallwch ddechrau ShPP tra bydd eich partner yn dal i gael tâl mamolaeth, tâl mabwysiadu neu Lwfans Mamolaeth, cyn belled â’i fod wedi rhoi hysbysiad rhwymol i’w derfynu.
Gallwch roi hysbysiad rhwymol a dweud pryd rydych yn bwriadu cymryd eich ShPP ar yr un pryd.
Newid y penderfyniad i ddod ag absenoldeb mamolaeth neu fabwysiadu i ben
Efallai y bydd y fam neu’r mabwysiadwr yn gallu newid y penderfyniad i ddod â’r absenoldeb mamolaeth neu fabwysiadu i ben yn gynnar. Mae’n rhaid iddo roi gwybod i’r cyflogwr.
Gall ond newid y penderfyniad os yw’r canlynol yn wir:
- nid yw’r dyddiad gorffen arfaethedig wedi mynd heibio
- nid yw eisoes wedi dychwelyd i’r gwaith
Mae’n rhaid i un o’r canlynol fod yn berthnasol hefyd:
- rydych yn cael gwybod yn ystod y cyfnod hysbysu o 8 wythnos nad yw’r naill na’r llall ohonoch yn gymwys i gael SPL neu ShPP
- mae’r fam neu bartner y mabwysiadwr wedi marw
- mae’r fam yn dweud wrth ei chyflogwr llai na 6 wythnos ar ôl yr enedigaeth (a rhoddodd hysbysiad i’w chyflogwr cyn yr enedigaeth)