Absenoldeb a Thâl ar y cyd i Rieni
Yr hyn a gewch
Gallwch rannu hyd at 50 wythnos o absenoldeb a hyd at 37 wythnos o dâl rhyngoch chi.
Mae’r swm gwirioneddol yn dibynnu ar faint o absenoldeb a thâl mamolaeth neu absenoldeb a thâl mabwysiadu (neu Lwfans Mamolaeth) rydych chi neu’ch partner yn ei gymryd. Os ydych chi neu’ch partner yn gymwys, gallwch wneud y canlynol:
- cymryd llai na’r 52 wythnos o absenoldeb mamolaeth neu absenoldeb mabwysiadu a defnyddio’r gweddill fel SPL
- cymryd llai na’r 39 wythnos o dâl mamolaeth neu dâl mabwysiadu (neu Lwfans Mamolaeth) a defnyddio’r gweddill fel ShPP
Gallwch wirio pryd y gallwch chi a’ch partner gymryd eich absenoldeb a faint o dâl statudol a gewch gan ddefnyddio’r offeryn cynllunio Absenoldeb a Thâl ar y Cyd i Rieni.
Faint o dâl a gewch
Telir ShPP ar y gyfradd o £184.03 yr wythnos, neu 90% o’ch enillion wythnosol cyfartalog, pa un bynnag sydd isaf.
Mae hyn yr un fath â Thâl Mamolaeth Statudol (SMP) ac eithrio bod SMP yn ystod y 6 wythnos gyntaf yn cael ei dalu ar 90% o’r hyn a enillwch (heb uchafswm).
Enghraifft
Mae merch yn penderfynu dechrau ei chyfnod mamolaeth 4 wythnos cyn y dyddiad y disgwylir i’r babi gael ei eni, ac mae hi’n rhoi rhybudd y bydd yn dechrau SPL o 10 wythnos ar ôl yr enedigaeth (gan gymryd cyfanswm o 14 wythnos o absenoldeb mamolaeth). Mae hi fel arfer yn ennill £200 yr wythnos.
Telir £180 iddi (90% o’i henillion wythnosol cyfartalog) fel SMP yn ystod 6 wythnos gyntaf ei habsenoldeb mamolaeth, yna £184.03 yr wythnos ar gyfer yr 8 wythnos nesaf. Unwaith y bydd hi’n trosglwyddo i SPL, bydd hi’n cael tâl o £184.03 yr wythnos o hyd.