Os bydd eich Credyd Cynhwysol yn cael ei adolygu

Efallai y bydd eich cais Credyd Cynhwysol yn cael ei adolygu i sicrhau eich bod yn cael y taliad a’r gefnogaeth gywir. Gallai hyn ddigwydd ar unrhyw adeg tra rydych yn hawlio Credyd Cynhwysol.

Efallai eich bod yn cael y swm anghywir o Gredyd Cynhwysol os nad yw eich manylion yn gyfredol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod am unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau pan maent yn digwydd.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English)

Beth sy’n digwydd mewn adolygiad

Os bydd eich cais yn cael ei adolygu, bydd asiant adolygu ceisiadau’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn cysylltu â chi yn eich dyddlyfr ar-lein. Byddant yn gofyn i chi wneud y canlynol:

  • anfon rhai dogfennau
  • cael cyfweliad ffôn

Yn ystod yr adolygiad, dim ond os bydd un o’r canlynol yn berthnasol y bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn cael ei stopio:

  • nid ydych yn darparu’r dogfennau
  • nid ydych yn mynychu eich apwyntiad ffôn
  • nid ydych yn gymwys ar gyfer Credyd Cynhwysol

Efallai y bydd yr adolygiad yn darganfod:

  • eich bod yn cael gormod o Gredyd Cynhwysol
  • bod gennych hawl i fwy o Gredyd Cynhwysol

Cysylltwch â’r asiant adolygu ceisiadau os oes angen cymorth arnoch gyda:

  • eich adolygiad cais Credyd Cynhwysol
  • darparu unrhyw dystiolaeth y gofynnwyd amdani
  • diweddaru eich manylion

Pa ddogfennau y bydd angen i chi eu hanfon

Byddwch yn cael neges yn eich dyddlyfr ar-lein yn gofyn i weld eich ID a’ch cyfriflenni banc.

Bydd edrych ar eich taliadau a thrafodion yn helpu eich asiant adolygu ceisiadau i ddeall a yw eich manylion yn gyfredol.

Efallai y bydd angen i chi hefyd rannu dogfennau am eich amgylchiadau a faint o Gredyd Cynhwysol rydych yn ei gael. Er enghraifft, efallai y bydd angen i chi ddarparu dogfennau am eich:

  • costau tai
  • enillion neu incwm arall
  • hunangyflogaeth
  • arbedion
  • costau gofal plant
  • plant
  • cyllid Myfyrwyr
  • cyfrifoldebau gofalu

Bydd angen i’r asiant adolygu ceisiadau weld eich cyfriflenni a’ch dogfennau heb unrhyw newidiadau na golygiadau.

Os oes gennych gwestiynau am sut i ddarparu’r dogfennau cywir yn y fformat cywir, gofynnwch i’r asiant adolygu ceisiadau am help yn eich dyddlyfr ar-lein.

Eich apwyntiad ffôn

Cewch eich gwahodd i apwyntiad dros y ffôn i drafod eich cais.

Cysylltwch â’r asiant adolygu ceisiadau yn eich dyddlyfr os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr apwyntiad ffôn.

Os nad ydych yn cael y swm cywir o Gredyd Cynhwysol

Efallai y bydd yr adolygiad yn darganfod eich bod yn cael gormod neu ddim digon yn eich taliad Credyd Cynhwysol.

Os oes angen i’ch Credyd Cynhwysol newid, byddwch yn cael neges yn eich dyddlyfr ar-lein. Bydd eich taliadau yn y dyfodol yn cael eu newid ac efallai y byddwch yn cael:

  • taliad ychwanegol i wneud yn iawn am yr hyn rydych heb ei gael
  • tynnu arian oddi ar eich taliadau

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad a wnaed yn ystod eich adolygiad, gallwch herio’r penderfyniad.