Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau

Mae angen i chi roi gwybod am newidiadau i’ch amgylchiadau fel eich bod yn parhau i gael y swm cywir bob mis.

Mae’n rhaid i chi roi gwybod am newidiadau mewn amgylchiadau wrth iddynt ddigwydd. Gall unrhyw oedi olygu eich bod yn cael gormod o arian a bydd yn rhaid i chi wneud ad-daliad.

Gall newidiadau yn eich amgylchiadau effeithio ar faint rydych yn cael eich talu am y cyfnod asesu gyfan – nid ond o’r dyddiad rydych yn rhoi gwybod.

Gall newidiadau gynnwys:

  • dod o hyd i neu orffen swydd
  • cael plentyn
  • symud i mewn gyda’ch partner
  • dechrau gofalu am blentyn neu berson anabl
  • eich plentyn yn stopio neu’n ail-ddechrau addysg neu hyfforddiant, os ydynt rhwng 16 ac 19 oed
  • newid eich rhif ffôn symudol neu’ch cyfeiriad e-bost
  • symud i gyfeiriad newydd
  • mynd y tu allan i Brydain Fawr am unrhyw gyfnod o amser, os ydych yn byw yno
  • mynd y tu allan i Ogledd Iwerddon am unrhyw gyfnod o amser, os ydych yn byw yno
  • newid eich manylion banc
  • eich rhent yn mynd i fyny neu i lawr
  • newidiadau i’ch cyflwr iechyd
  • dod yn rhy sâl i weithio neu i gyfarfod â’ch anogwr gwaith
  • os yw gweithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud eich bod yn agosàu at ddiwedd oes
  • newidiadau i’ch enillion (dim ond os ydych yn hunangyflogedig)
  • newidiadau i’ch cynilion, buddsoddiadau a faint o arian sydd gennych
  • newidiadau i’ch statws mewnfudo, os nad ydych yn ddinesydd Prydeinig.

Efallai bydd yn rhaid i chi fynd i’r llys neu orfod talu cosb os ydych yn rhoi gwybodaeth anghywir neu ddim yn rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau.

Sut i roi gwybod

Gallwch roi gwybod am newid mewn amgylchiadau drwy fewngofnodi i’ch cyfrif Credyd Cynhwysol.

Os byddwch yn cael swydd neu’n cynyddu’r oriau rydych yn eu gweithio

Defnyddiwch gyfrifiannell budd-daliadau neu siaradwch â’ch anogwr gwaith i gael gwybod am sut y gallai cael swydd neu gynyddu eich enillion effeithio’ch cais Credyd Cynhwysol.

Bydd y rhan fwyaf o gyflogwyr yn adrodd eich enillion ar eich cyfer. Fel arfer, bydd ond rhaid i chi roi gwybod am eich enillion misol os ydych yn hunangyflogedig.

Os oes gormod wedi ei dalu i chi

Efallai bydd yn rhaid i chi dalu’n ôl yr arian os ydych:

  • wedi methu rhoi gwybod am newid ar unwaith
  • wedi rhoi gwybodaeth anghywir
  • wedi cael eich gordalu mewn camgymeriad

Darganfyddwch sut i ad-dalu’r arian sy’n ddyledus gennych o ordaliad budd-dal.