Profi'r gwasanaeth Rhybuddion Argyfwng
Yn dilyn prawf cenedlaethol llwyddiannus system Rhybuddion Argyfwng y DU ar 23 Ebrill 2023, bydd y llywodraeth a gweithredwyr rhwydweithiau symudol yn cynnal profion 'gweithredwr' achlysurol.
Mae hyn er mwyn asesu gwelliannau sydd wedi'u gwneud i'r gwasanaeth Rhybuddion Argyfwng.
Gallwch gael y rhybudd hwn os oes gennych ffôn Android sydd â rhybuddion prawf gweithredwr wedi'u troi ymlaen.
Nid yw'r profion gweithredwr hyn yn eich rhybuddio am berygl gwirioneddol. Bydd gan y rhybuddion hyn 'weithredwr' bob amser yn y teitl a byddant yn cadarnhau nad oes angen gweithredu.
Os cewch rybudd prawf gweithredwr, gall eich ffôn wneud sain debyg i seiren uchel am tua 10 eiliad, oni bai ei fod ar ddull tawel.
Optio allan o hysbysiadau prawf gweithredwr
I atal derbyn rhybuddion profion gweithredwyr, chwiliwch osodiadau eich ffôn am 'rybuddion argyfwng' a diffoddwch 'rybuddion prawf' a 'rhybuddion gweithredwyr'.
Os na allwch weld rhybuddion neu hysbysiadau gan y gweithredwr:
- agorwch eich ap galw ffôn
- defnyddiwch y bysellbad i fynd i mewn *#*#2627#*#*
- chwiliwch eich gosodiadau am 'rybuddion argyfwng' a diffoddwch 'rybuddion prawf' a 'rhybuddion gweithredwyr'
Os ydych chi'n parhau i gael rhybuddion prawf gweithredwr, cysylltwch â'ch gwneuthurwr ffôn am help.