Os na allwch dalu’ch bil treth mewn pryd
Os na fyddwch yn cysylltu â CThEF neu os byddwch yn gwrthod talu
Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) bob amser yn ceisio cysylltu â chi os byddwch yn methu taliad treth. Gall hyn gynnwys anfon llythyrau a negeseuon testun atoch, ac ymweld â chi gartref neu yn y gwaith.
Os na fyddwch yn cysylltu â CThEF, neu os na allwch gytuno ar gynllun rhandaliadau, efallai y bydd CThEF yn:
- gofyn i asiantaeth casglu dyledion gasglu’r arian
- casglu’r hyn sydd arnoch yn uniongyrchol o’ch cyflog (yn agor tudalen Saesneg) neu o unrhyw daliadau pensiwn misol a gewch
- cymryd eich eiddo a’u gwerthu (os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon)
- mynd ag arian yn uniongyrchol o’ch cyfrif banc neu’ch cynilion cymdeithas adeiladu (os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon)
- mynd â chi i’r llys
- eich gwneud yn fethdalwr (yn agor tudalen Saesneg)
- cau eich cwmni (yn agor tudalen Saesneg) os mai treth busnes yw’r dreth
Ychwanegir unrhyw gostau, fel costau ocsiwn, at eich dyled fel arfer. Bydd CThEF yn rhoi gwybod i chi cyn cymryd y camau hyn ac yn esbonio’ch hawliau, y costau a’r opsiynau sydd ar gael i chi.
Gweler rhagor o wybodaeth am y camau gweithredu y gall CThEF eu cymryd i adennill y dreth.