Help a chyngor

Os ydych yng Nghymru neu Loegr, gall Helpwr Arian roi rhagor o wybodaeth i chi am reoli dyledion a lle i gael cyngor ar ddyledion yn rhad ac am ddim.

Os ydych yn yr Alban, gallwch gael cyngor ar ddyledion yn rhad ac am ddim gan Scotland Debt Solutions (yn agor tudalen Saesneg).

Os ydych yng Ngogledd Iwerddon, gallwch gael cyngor ar ddyledion yn rhad ac am ddim gan Advice NI (yn agor tudalen Saesneg).

Gwneud cwyn

Ni allwch apelio yn erbyn penderfyniad Cyllid a Thollau EF (CThEF), ond gallwch wneud cwyn os ydych yn anfodlon ar sut y cawsoch eich trin.