Cwyno am CThEF ar-lein
Cysylltwch â Chyllid a Thollau EF (CThEF) cyn gynted â phosibl os oes gennych gŵyn am ei wasanaeth.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Gallwch wneud cwyn os ydych yn anfodlon â’r gwasanaeth a gawsoch, er enghraifft oherwydd y canlynol:
-
cawsoch wasanaeth gwael
-
roedd oedi afresymol
Dylech ddilyn proses wahanol i wneud y canlynol:
Dylech barhau i dalu treth tra bo’ch cwyn yn cael sylw. Os byddwch yn rhoi’r gorau i’ch taliadau neu’n oedi cyn eu gwneud, gallwn godi llog neu gosb arnoch.
Sut i gwyno
Cwyno ar-lein
Os ydych yn mewngofnodi i’r gwasanaeth am y tro cyntaf, bydd angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth arnoch – os nad oes gennych ID, gallwch greu un pan fyddwch yn defnyddio’r gwasanaeth
Gallwch wneud y canlynol:
Os ydych yn mewngofnodi am y tro cyntaf fel unigolyn, bydd angen eich rhif Yswiriant Gwladol arnoch yn ogystal â dau o’r canlynol:
-
pasbort dilys y DU
-
trwydded yrru cerdyn-llun y DU, a gyhoeddwyd gan y DVLA (neu’r DVA yng Ngogledd Iwerddon)
-
slip cyflog o’r tri mis diwethaf, neu ffurflen P60 (yn Saesneg) gan eich cyflogwr ar gyfer y flwyddyn dreth ddiwethaf
-
manylion hawliad am gredyd treth, os gwnaethoch un
-
manylion Ffurflen Dreth Hunanasesiad, os gwnaethoch un
-
gwybodaeth sy’n cael ei chadw ar eich cofnod credyd, os oes un gennych (megis benthyciadau, cardiau credyd, neu forgeisi)
Ni allwch gwyno ar-lein os ydych yn asiant.
Cwyno dros y ffôn neu drwy’r post
Gallwch hefyd gwyno dros y ffôn neu drwy’r post (yn Saesneg). Bydd angen y canlynol arnoch:
-
eich rhif Yswiriant Gwladol, eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR), neu’ch rhif TAW
-
eich enw llawn, cyfeiriad a rhif ffôn
-
manylion beth ddigwyddodd a pha bryd
-
sut yr hoffech i ni ddelio â’ch cwyn
Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch gyda’ch cwyn
Rhowch wybod i CThEF pan fyddwch yn cwyno a oes angen cymorth ychwanegol arnoch gyda’ch cwyn oherwydd cyflwr iechyd neu’ch amgylchiadau personol.
Os oes angen i rywun cwyno ar eich rhan
Gallwch ofyn i rywun arall gwyno ar eich rhan. Bydd angen i chi roi’r awdurdod i’r person hwnnw gael delio â CThEF ar eich rhan (yn Saesneg) cyn y gall gwyno ar eich rhan.
Beth fydd yn digwydd pan fyddwch yn cwyno wrth CThEF
Bydd CThEF yn adolygu’ch cwyn. Gelwir hyn yn adolygiad ‘haen gyntaf’.
Bydd CThEF yn rhoi gwybod i chi:
-
enw a manylion cyswllt y person a fydd yn delio â’ch cwyn
-
pa gam o’r broses gwyno rydych arni a beth yw’r cam nesaf
Ar ôl i CThEF adolygu’ch cwyn, cewch wybod canlyniad yr adolygiad haen gyntaf.
Ni fydd CThEF yn eich trin yn wahanol gan eich bod wedi gwneud cwyn. Bydd CThEF yn delio â’ch cwyn mewn ffordd deg a chyfrinachol ac yn ymchwilio i’r materion yn drwyadl.
Bydd CThEF yn ystyried ad-dalu unrhyw gostau rhesymol a achosir yn uniongyrchol drwy ei gamgymeriadau neu oedi. Gall costau gynnwys y canlynol:
-
costau postio
-
costau ffonio
-
ffioedd proffesiynol
Cadwch afael ar dderbynebau os ydych am gael ad-daliad.
Os byddwch yn anghytuno â chanlyniad yr adolygiad haen gyntaf
Gallwch ofyn i’ch cwyn gael ei adolygu am yr eildro. Gelwir hyn yn adolygiad ‘ail haen’. Bydd CThEF yn rhoi gwybod i chi sut i wneud hyn.
Bydd person gwahanol yn adolygu’ch cwyn ac yn rhoi gwybod i chi beth yw’r canlyniad.
Os byddwch yn anghytuno â chanlyniad yr adolygiad ail haen
Gallwch ofyn i Swyddfa’r Dyfarnwr adolygu’ch cwyn. Bydd CThEF yn rhoi gwybod i chi sut i wneud hyn.
Mae’r gwasanaeth hwn ar gael yn rhad ac am ddim, ac mae’n annibynnol ar CThEF.
Gallwch ond ofyn i Swyddfa’r Dyfarnwr edrych ar eich cwyn os ydych wedi cael adolygiad haen gyntaf ac adolygiad ail haen gan CThEF.
Os byddwch yn anghytuno â Swyddfa’r Dyfarnwr
Gallwch ofyn i’ch Aelod Seneddol gyfeirio’ch cwyn at Ombwdsmon Seneddol a’r Gwasanaeth Iechyd.