Canllawiau

Defnyddio dull amgen o ddatrys anghydfod i setlo anghydfod treth

Sut i wneud cais am ddull amgen o ddatrys anghydfod a phryd y gallwch ei ddefnyddio i ddatrys anghytundeb treth gyda CThEF.

Gall unrhyw un wneud cais am ddull amgen o ddatrys anghydfod i helpu i ddatrys anghydfod gyda CThEF, neu i gael mwy o wybodaeth am faterion y mae angen eu cymryd ar gyfer dyfarniad cyfreithiol.

Mae hyn yn cynnwys:

  • unigolion sy’n ceisio datrys materion treth personol
  • sefydliadau sy’n ceisio datrys problemau treth busnes
  • asiantau sy’n cynrychioli cleientiaid treth personol neu fusnes

Sut mae dull amgen o ddatrys anghydfod yn gweithio

Bydd cyfryngwr CThEF sydd wedi’i hyfforddi mewn sgiliau a thechnegau cyfryngu yn gweithio gyda chi a swyddog CThEF sy’n delio â’ch achos.

Byddant yn eich helpu chi i archwilio ffyrdd o ddatrys eich anghydfod, gan gynnwys eich helpu i wneud y canlynol:

  • canolbwyntio ar y meysydd y mae angen eu datrys
  • ailsefydlu cyfathrebu, os oes angen

Ni fyddant yn cymryd cyfrifoldeb am yr anghydfod.

Am beth ellir defnyddio dull amgen o ddatrys anghydfod

Gellir defnyddio dull amgen o ddatrys anghydfod pan fydd gennych anghydfod gyda CThEF, gan gynnwys:

  • pan na allwch ddod i gytundeb gyda CThEF
  • yn ystod gwiriad cydymffurfio, lle mae’r cynnydd yn yr ymchwiliad wedi arafu
  • ar ddiwedd gwiriad cydymffurfio, pan fo penderfyniad wedi’i wneud y gallwch apelio yn ei erbyn

Nid yw dull amgen o ddatrys anghydfod yn effeithio ar eich hawl i apelio, nac i ofyn am adolygiad statudol.

Ystyrir pob cais fesul achos. Nid proses statudol yw dull amgen o ddatrys anghydfod ac mae CThEF yn cadw’r hawl i wrthod ceisiadau nad ydym yn ystyried eu bod yn briodol ar gyfer dull amgen o ddatrys anghydfod.

Gellir defnyddio dull amgen o ddatrys anghydfod pan fydd y canlynol yn wir:

  • mae cyfathrebu wedi chwalu rhyngoch chi a CThEF
  • mae anghydfodau ynghylch y ffeithiau
  • mae anghydfod yn ymddangos fel canlyniad camddealltwriaeth
  • rydych am wybod pam nad yw CThEF wedi cytuno ar dystiolaeth rydych wedi’i rhoi iddyn nhw, a pham maen nhw am ddefnyddio tystiolaeth arall
  • nid ydych yn glir pa wybodaeth y mae CThEF wedi’i defnyddio, ac rydych yn credu y gallent fod wedi gwneud rhagdybiaethau anghywir
  • rydych am i CThEF esbonio pam y mae angen mwy o wybodaeth gennych

Ni allwch ddefnyddio dull amgen o ddatrys anghydfod ar gyfer:

  • cwynion ac anghydfodau ynghylch oedi gan CThEF wrth ddefnyddio gwybodaeth neu ynghylch CThEF yn rhoi cyngor camarweiniol i chi — darganfyddwch sut i gwyno am CThEF
  • achosion y mae archwilwyr troseddol CThEF yn delio â nhw
  • achosion y mae’r Tribiwnlys Treth Haen Gyntaf wedi’u categoreiddio’n rhai ‘papur’ neu ‘sylfaenol’
  • materion adennill dyledion neu dalu — darganfyddwch beth i’w wneud os na allwch dalu’ch bil treth mewn pryd
  • anghydfodau am gredydau treth — darganfyddwch sut i apelio neu gwyno am gredydau treth (yn agor tudalen Saesneg)
  • anghydfodau ynghylch gordaliadau diffygdalu
  • cosbau awtomatig am dalu neu gyflwyno’n hwyr
  • hysbysiad cod TWE
  • Consesiynau All-statudol
  • cynlluniau cyrchu pensiwn yn gynnar
  • Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel
  • anghydfodau ynghylch yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol
  • taliadau cyflymedig a hysbysiadau dilynwr
  • cosbau osgoi sifil
  • fforffedu

Darllenwch y dull amgen o ddatrys anghydfod - taflen wybodaeth CC/FS21 os oes angen mwy o wybodaeth arnoch i benderfynu a yw dull amgen o ddatrys anghydfod yn iawn i chi.

Mae’n bosibl y byddwch yn dal i allu anghytuno â phenderfyniad treth (yn agor tudalen Saesneg) os na allwch ddefnyddio dull amgen o ddatrys anghydfod.

Pryd y gallwch wneud cais

Gallwch wneud cais am ddull amgen o ddatrys anghydfod pan fydd gennych anghydfod gyda CThEF.

Os yw CThEF wedi agor ymholiad i’ch materion treth, gallwch wneud cais ar unrhyw adeg o’r ymholiad ac ar unrhyw adeg o’r achos tribiwnlys.

Os ydych yn gwneud cais ar ôl i CThEF wneud penderfyniad, darllenwch yr adrannau sy’n dilyn.

Anghydfodau ynghylch trethi uniongyrchol ar ôl i CThEF wneud penderfyniad

Mae trethi uniongyrchol yn cynnwys:

  • Treth Incwm
  • Treth Gorfforaeth
  • Treth Etifeddiant

Gallwch wneud cais am ddull amgen o ddatrys anghydfod pan fo CThEF wedi gwneud penderfyniad ynghylch mater o ran treth uniongyrchol rydych wedi apelio yn ei erbyn ac wedi cymryd un o’r camau canlynol:

  • wedi derbyn yr apêl, ond heb gynnig adolygiad statudol i chi
  • wedi cynnig adolygiad statudol i chi ac rydych wedi ei dderbyn — cyn i chi wneud cais, mae’n rhaid i chi aros i’r adolygiad ddod i ben, apelio ar y tribiwnlys, a bod wedi cael llythyr cydnabyddiaeth
  • wedi cynnig adolygiad statudol i chi ac nid ydych wedi ei dderbyn — cyn i chi wneud cais, mae’n rhaid i chi apelio ar y tribiwnlys yn gyntaf, a bod wedi cael llythyr cydnabyddiaeth

Anghydfodau ynghylch trethi anuniongyrchol ar ôl i CThEF wneud penderfyniad

Mae trethi anuniongyrchol yn cynnwys:

  • TAW
  • toll ecséis
  • Toll Dramor

Gallwch wneud cais am ddull amgen o ddatrys anghydfod pan fo CThEF wedi gwneud penderfyniad ynghylch mater o ran treth anuniongyrchol, ac rydych wedi gwneud y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • wedi derbyn ein cynnig o adolygiad — cyn i chi wneud cais, mae’n rhaid i chi aros i’r adolygiad ddod i ben, apelio ar y tribiwnlys, a bod wedi cael llythyr cydnabyddiaeth
  • heb dderbyn ein cynnig o adolygiad — cyn i chi wneud cais, mae’n rhaid i chi apelio ar y tribiwnlys yn gyntaf, a bod wedi cael llythyr cydnabyddiaeth

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Bydd angen i chi roi rhywfaint o wybodaeth i ni am eich anghydfod. Mae’n bosibl y byddai’n ddefnyddiol cael unrhyw ohebiaeth a gawsoch gan CThEF gyda chi pan fyddwch yn llenwi’r ffurflen gais.

Bydd angen i chi hefyd gytuno i rai egwyddorion, gan gynnwys rhannu’r holl wybodaeth yn brydlon a bod ar gael ar gyfer cyfarfodydd i ddatrys yr anghydfod.

Os ydych yn asiant, bydd angen i chi hefyd gadarnhau bod eich cleient yn cytuno i’r egwyddorion hyn.

Sut i wneud cais

Ar-lein

Defnyddiwch y ffurflen ar-lein i wneud cais am ddull amgen o ddatrys anghydfod.

Os oes gennych asiant neu ymgynghorydd treth, gallant wneud cais ar eich rhan.

Ffôn

Os nad oes modd i chi ddefnyddio’r rhyngrwyd a bod angen cymorth ychwanegol arnoch, cysylltwch â ni ar 0300 200 1900.

Mae hwn yn wasanaeth peiriant ateb 24 awr. Gofynnir i chi rhoi’r canlynol i ni:

  • eich enw
  • eich rhif ffôn

Bydd cyfryngwr yn cysylltu â chi cyn pen 30 diwrnod i drafod eich cais.

Gwybodaeth am gostau galwadau (yn agor tudalen Saesneg).

Yr hyn sy’n digwydd nesaf

Bydd CThEF yn rhoi gwybod i chi cyn pen 30 diwrnod o gael eich cais os yw dull amgen o ddatrys anghydfod yn iawn ar gyfer datrys eich anghydfod.

Egwyddorion y bydd angen i chi eu dilyn

Mae’r ffurflen gais dull amgen o ddatrys anghydfod ar-lein yn manylu ar nifer o egwyddorion ynghylch holl gyfrifoldebau’r cyfranogwyr. Trwy gyflwyno’ch cais, rydych yn cadarnhau y byddwch yn ymrwymo i’r egwyddorion hyn ac yn cymryd rhan lawn yn y broses dull amgen o ddatrys anghydfod.

Gwiriwch daflen wybodaeth CC/FS21 am egwyddorion dull amgen o ddatrys anghydfod. Maent yn cynnwys chi yn gwneud y canlynol:

  • cytuno i roi mwy o wybodaeth os gofynnir
  • ymateb i unrhyw geisiadau cyn pen 15 diwrnod gwaith
  • ymrwymo i fynychu cyfarfod dros y ffôn, fideo neu wyneb yn wyneb, cyn pen 90 diwrnod o’r adeg y derbynnir eich cais

Os caiff y telerau hyn eu torri ar unrhyw adeg, gall CThEF ddileu eich anghydfod o’r broses dull amgen o ddatrys anghydfod.

Os gwrthodir eich cais

Mae’n rhaid i bob cais dull amgen o ddatrys anghydfod yr argymhellir ei wrthod ddilyn gweithdrefnau llywodraethu llym. Mae’n rhaid i unrhyw benderfyniad i wrthod cais gael ei gytuno gan banel sy’n cynnwys gweithwyr proffesiynol treth annibynnol.

Byddwn yn rhoi gwybod i chi os penderfynwn nad yw eich achos yn addas ar gyfer dull amgen o ddatrys anghydfod.

Os na ellir datrys eich anghydfod drwy ddefnyddio dull amgen o ddatrys anghydfod

Os na allwch ddod i gytundeb ar ddiwedd y broses dull amgen o ddatrys anghydfod, bydd eich cyfryngwr CThEF yn rhoi gwybod i chi beth allwch ei wneud nesaf.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 8 December 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 24 January 2024 + show all updates
  1. Information has been added about how to contact HMRC by phone.

  2. Large businesses no longer need to contact their Customer Compliance Manager or caseworker before applying for alternative dispute resolution (ADR). If you have made an appeal, you should apply for ADR after receiving an acknowledgement letter from the Tribunal.

  3. Guidance about what Alternative Dispute Resolution can be used for has been updated.

  4. Information about applying for an ADR after HMRC has made a decision has been added to the 'when to apply' section.

  5. Information about the principles and responsibilities that you must agree to when applying for Alternative Dispute Resolution (ADR) has been added.

  6. You can now apply for ADR at any stage of an enquiry and at any stage of tribunal proceedings.

  7. What you'll need section added and what happens next section updated to reflect change in process.

  8. Types of cases that can be accepted for Alternative Dispute Resolution has been updated.

  9. Contact details added to the How to ask for ADR section.

  10. First published.

Sign up for emails or print this page