Apelio yn erbyn penderfyniad budd-dal
Beth sy'n digwydd yn y gwrandawiad
Cyflwynwch unrhyw dystiolaeth cyn gynted â phosibl cyn y gwrandawiad fel bod gan y tribiwnlys amser i’w darllen. Fel arfer, bydd tystiolaeth yn cael ei rhannu gyda’r holl bartïon, gan gynnwys eich cynrychiolydd (os ydych yn defnyddio un).
Bydd barnwr ac un neu ddau o arbenigwyr yn gwneud penderfyniad am yr achos. Mae pwy yw’r arbenigwyr yn dibynnu ar ba fudd-dal rydych yn apelio yn ei erbyn. Mae’r barnwr a’r arbenigwyr yn ddiduedd ac yn annibynnol ar y llywodraeth.
Mae’n rhaid i’r tribiwnlys ddilyn y rheolau yn Rheolau Trefniadaeth Tribiwnlys (Tribiwnlys Haen Gyntaf) (Siambr Hawliau Cymdeithasol) 2008.
Os ydych yn mynychu’r gwrandawiad
Bydd cyfle i chi egluro’ch apêl.
Bydd y barnwr neu’r arbenigwyr yn gofyn cwestiynau i chi am eich cyflwr neu’ch amgylchiadau.
Efallai y bydd yr adran a wnaeth y penderfyniad gwreiddiol hefyd yn y gwrandawiad. Efallai y byddant yn gofyn cwestiynau, ond nid ydynt yn rhan o’r tribiwnlys ac nid ydynt yn penderfynu canlyniad yr apêl.
Os ydych chi neu eich cynrychiolydd y tu allan i’r DU ac eisiau rhoi tystiolaeth trwy gyswllt fideo neu sain byw, cysylltwch â’r tribiwnlys i wneud cais am hyn. Dywedwch wrth y tribiwnlys ym mha wlad ydych chi neu’ch cynrychiolydd a pha fath o dystiolaeth sy’n cael ei rhoi. Mae’n rhaid i chi wneud hyn cyn gynted â phosibl.
Gallwch gael cymorth yn ystod y gwrandawiad, er enghraifft cyfieithydd, dolen clyw neu ystafell dribiwnlys hygyrch. Gallwch ofyn am gymorth pan fyddwch yn apelio.
Ni allwch ddefnyddio’ch cyfieithydd eich hun yn ystod y gwrandawiad.
Hawlio costau
Efallai y gallwch hawlio am gostau rhesymol am fynd i’r tribiwnlys, er enghraifft:
- costau teithio i dalu am eich tocyn os byddwch yn cyrraedd yno gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus
- costau teithio o 12c y filltir os ydych yn gyrru, ynghyd â 2c y filltir ar gyfer hyd at 2 deithiwr
- prydau bwyd - £4.25 os ydych i ffwrdd am fwy na 5 awr, £9.30 am fwy na 10 awr neu £13.55 am fwy na 12 awr
- colli enillion - £38.96 os ydych i ffwrdd o’r gwaith am hyd at 4 awr neu £75.59 am 4 awr neu fwy
- costau gofal hyd at yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, er enghraifft ar gyfer gwarchodwr plant
Bydd y clerc yn eich helpu i lenwi ffurflen hawlio pan ewch i’r gwrandawiad.
Bydd angen i chi gynnwys prawf, er enghraifft:
- derbynebau
- llythyr gan eich cyflogwr oherwydd colli enillion
Gwneud cais am recordiad sain o’r gwrandawiad
Gallwch chi neu’ch cynrychiolydd gael recordiad sain o’ch gwrandawiad os cafodd ei gynnal wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu drwy fideo.
Mae recordiadau ar gael yn rhad ac am ddim.
Gwnewch gais am gopi o’r recordiad sain o fewn 18 mis i ddyddiad y gwrandawiad.
Gallwch ddefnyddio’r cyfrif a ddefnyddiwyd gennych i reoli eich apêl ar-lein i wneud cais, os oes gennych un.
Os na allwch wneud cais ar-lein, ysgrifennwch i’r cyfeiriad sydd ar y ddogfen dalen flaen a anfonwyd gyda’ch hysbysiad o benderfyniad. Cofiwch gynnwys cyfeirnod eich apêl.