Beth i’w wneud os yw eich cerbyd wedi cael ei ddwyn

Sgipio cynnwys

Riportio bod eich cerbyd wedi cael ei ddwyn

Dywedwch wrth yr heddlu a’ch cwmni yswiriant ar unwaith os yw eich cerbyd wedi cael ei ddwyn.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Ffonio eich gorsaf heddlu leol

Ffoniwch 101 a gofynnwch i gael eich trosglwyddo i’ch heddlu lleol.

Gwnewch yn siŵr bod gennych y canlynol:

  • rhif cofrestru eich cerbyd
  • gwneuthuriad a model eich cerbyd
  • lliw eich cerbyd

Byddwch yn derbyn cyfeirnod trosedd. Bydd angen hwn arnoch pan fyddwch yn ffonio’ch cwmni yswiriant.

Bydd yr heddlu yn dweud wrth DVLA am y lladrad ac os bydd y cerbyd yn cael ei ddarganfod.

Ffonio eich cwmni yswiriant

Bydd eich cwmni yswiriant yn dweud wrthych sut i wneud hawliad yswiriant.

Dweud wrth DVLA os yw eich cwmni yswiriant yn talu hawliad

Os yw eich cwmni yswiriant yn talu hawliad am eich cerbyd sydd wedi cael ei ddwyn, rhaid ichi ddweud wrth DVLA ei fod wedi cael ei werthu i’r cwmni yswiriant.

Os oedd gan eich cerbyd rif cofrestru personol rydych eisiau cadw, mae angen ichi ei gael yn ôl cyn ichi ddweud wrth DVLA nad ydych bellach yn berchen ar eich cerbyd.

Gallwch ddweud wrth DVLA ar-lein neu lenwi’r adran felen ‘gwerthu, trosglwyddo neu gyfnewid eich cerbyd yn rhannol i’r fasnach foduro’ yn llyfr log eich cerbyd. Anfonwch yr adran dyllog i DVLA, gyda llythyr yn nodi pryd y derbyniwyd y taliad a manylion eich cwmni yswiriant.

Bydd angen ichi roi gweddill eich llyfr log i’ch cwmni yswiriant.

Os bydd eich cwmni yswiriant yn gofyn am y llyfr log cyfan yna bydd angen ichi anfon llythyr i DVLA gan gynnwys:

  • manylion eich cwmni yswiriant
  • dyddiad y cais
  • eich rhif cofrestru
  • gwneuthuriad, model a lliw eich cerbyd
  • eich llofnod

Anfonwch eich llythyr i:


DVLA
Abertawe
SA99 1BD