Budd-dal Plant os ydych yn gadael y DU
Rhowch wybod i’r Swyddfa Budd-dal Plant os ydych yn mynd dramor am fwy nag 8 wythnos.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Mynd dramor am gyfnod byr
Byddwch yn dal i gael Budd-dal Plant os ydych yn gadael y DU am gyfnod byr, er enghraifft i fynd ar wyliau neu ar gyfer triniaeth feddygol.
Rheswm dros adael | Pa mor hir y bydd eich taliadau Budd-dal Plant yn parhau |
---|---|
Marwolaeth aelod o’ch teulu | Hyd at 12 wythnos |
Triniaeth feddygol ar eich cyfer chi, neu ar gyfer aelod o’ch teulu | Hyd at 12 wythnos |
Unrhyw reswm arall, er enghraifft gwyliau neu fusnes | Hyd at 8 wythnos |
Mynd dramor am gyfnod hirach
Mae’n bosibl y gallwch barhau i gael Budd-dal Plant am gyfnod hirach os ewch i fyw mewn gwledydd penodol, neu os ydych yn was y Goron.
Byw yn yr UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein
Os gwnaethoch symud i wlad yn yr UE (yn Saesneg), y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein cyn 1 Ionawr 2021 (neu os ydych yn cael eich cwmpasu gan un o amodau eraill Cytundeb Ymadael â’r UE), mae’n bosibl y byddwch yn cael Budd-dal Plant am y plant sy’n byw gyda chi. Bydd angen i’r canlynol fod yn wir:
- rydych yn agored i dalu Yswiriant Gwladol yn y DU (yn Saesneg)
- rydych yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig
Mae’n bosibl y gallwch hefyd gael Budd-dal Plant os ydych yn cael un o’r budd-daliadau canlynol:
- Lwfans Ceisio Gwaith newydd
- Budd-dal Analluogrwydd
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Gyfraniadau
- Pensiwn y Wladwriaeth
- Lwfans Profedigaeth (Pensiwn Gweddwon)
- Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol
Os ydych chi a’ch partner yn byw mewn gwledydd gwahanol, mae’n bosibl eich bod yn gymwys i gael Budd-dal Plant, neu’r budd-dal cyfatebol, yn y ddwy wlad. Fel arfer, y wlad lle mae’r plentyn yn byw yw’r wlad sy’n talu’r budd-dal. Os yw’r budd-dal yn uwch yn y wlad arall, bydd y wlad honno yn talu swm ychwanegol i chi.
Byw mewn gwlad sydd â chytundeb nawdd cymdeithasol gyda’r DU
Mae’n bosibl y gallwch gael Budd-dal Plant os ydych yn byw yn un o’r gwledydd canlynol:
- Barbados
- Bosnia a Herzegovina
- Canada
- Ynysoedd y Sianel
- Israel
- Kosovo
- Mauritius
- Montenegro
- Seland Newydd
- Gogledd Macedonia
- Gweriniaeth Iwerddon
- Serbia
Cysylltwch â’r Swyddfa Budd-dal Plant i gael gwybod os gallwch wneud hawliad.
Gweision y Goron sydd wedi’u lleoli dramor
Gallwch gael Budd-dal Plant os ydych yn was y Goron ac yn gweithio unrhyw le y tu allan i’r DU – a hynny os yw’ch plentyn yn byw gyda chi neu beidio. Mae’n rhaid i chi naill ai fod wedi byw yn y DU, neu fod wedi cael eich lleoli yn y DU, cyn i chi gael eich lleoli dramor.
Rhowch wybod i’r Swyddfa Budd-dal Plant ar unwaith os ydych yn gadael y DU er mwyn cael eich lleoli dramor. Gallwch wneud hyn drwy naill ai:
- rhoi gwybod am newid ar-lein (yn Saesneg), neu
- ysgrifennu i’r Swyddfa Budd-dal Plant, neu ei ffonio