Codi, adennill a chofnodi TAW
Codi TAW
Dylai pob busnes sydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW fod wedi cofrestru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer TAW erbyn hyn. Nid oes angen i chi gofrestru’ch hun mwyach.
Fel busnes sydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW, mae’n rhaid i chi godi TAW ar y nwyddau a gwasanaethau yr ydych yn eu gwerthu oni bai eu bod wedi’u heithrio.
Mae’n rhaid i chi gofrestru ar gyfer TAW er mwyn dechrau codi TAW.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Sut i godi TAW
Pan fyddwch yn gwerthu nwyddau neu wasanaethau, bydd yn rhaid i chi wneud y canlynol:
- cyfrifo’r pris sy’n cynnwys TAW gan ddefnyddio’r gyfradd TAW gywir
- dangos yr wybodaeth TAW ar eich anfoneb – mae’n rhaid i anfonebau gynnwys eich rhif TAW a dangos y TAW ar wahân
- dangos y trafodyn yn eich cyfrif TAW – crynodeb o’ch TAW
- cofnodi’r swm ar eich Ffurflen TAW
Cyfraddau TAW
Mae 3 cyfradd TAW (cyfradd safonol, cyfradd is a chyfradd sero). Mae cyfraddau TAW yn gallu newid. Mae’n rhaid i chi ddefnyddio unrhyw newidiadau i’r cyfraddau yn syth – hynny yw, o’r dyddiad y maent yn newid.
Gwiriwch y cyfraddau TAW cyfredol (yn agor tudalen Saesneg).
Pryd i godi cyfradd TAW safonol
Fel arfer, byddwch yn codi cyfradd TAW safonol (20% ar hyn o bryd) ar y rhan fwyaf o nwyddau a gwasanaethau. Dylech fod yn defnyddio’r gyfradd safonol oni bai bod y nwyddau neu’r gwasanaethau wedi’u hystyried ar gyfradd is neu gyfradd sero.
Pryd i godi cyfradd TAW is
Byddwch yn codi cyfradd TAW is (5% ar hyn o bryd) yn hytrach na’r gyfradd safonol ar nwyddau neu wasanaethau penodol, neu pan fydd amgylchiadau’r gwerthiant yn bodloni rheolau penodol. Er enghraifft, gellir defnyddio’r gyfradd is ar y canlynol:
- seddi car i blant
- tanwydd neu bŵer domestig
- cymhorthion symud os maent ar gyfer rhywun sydd dros 60 oed, ac maent wedi’u gosod yn ei gartref
Mae rhestr o nwyddau a gwasanaethau ar gyfradd is (yn agor tudalen Saesneg) ar gael yma.
Pryd i godi cyfradd TAW sero
Byddwch yn codi cyfradd TAW sero ar nwyddau a gwasanaethau os ydych yn eu hallforio – a hynny’n dibynnu ar ble yn y DU y mae’r nwyddau’n cael eu cyflenwi, ac i ble y maent yn mynd.
Mae cyfradd sero yn golygu bod yn rhaid i chi godi TAW, a rhoi cyfrif amdani o hyd (er enghraifft, mae’n rhaid i chi ei chynnwys ar eich anfonebau), ond gan ddefnyddio cyfradd o 0%.
Codwch y gyfradd sero ar nwyddau y gwnaethoch eu hallforio o dan yr amgylchiadau canlynol:
- nwyddau o Brydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban) i rywle y tu allan i’r DU
- nwyddau o Ogledd Iwerddon i rywle y tu allan i’r DU a’r UE
- nwyddau yr ydych yn eu cyflenwi o Ogledd Iwerddon i fusnes yn yr UE sydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW – gallwch wirio os yw’r rhif TAW yn ddilys
Sut i gyfrifo prisiau sy’n cynnwys TAW a phrisiadau heb gynnwys TAW
Bydd angen i chi gyfrifo cyfanswm y pris gan gynnwys TAW (y ‘pris sy’n cynnwys TAW’) pan fyddwch yn gwerthu nwyddau a gwasanaethau.
Mae’n bosibl y bydd angen i chi hefyd gyfrifo faint o TAW rydych wedi’i thalu ar nwyddau a brynwyd gennych – er enghraifft, os ydych yn adhawlio TAW. Gallwch wneud hyn drwy gyfrifo’r pris y byddai’r nwyddau wedi bod os nad oedd TAW wedi cael ei hychwanegu (y ‘pris heb gynnwys TAW’).
Prisiau sy’n cynnwys TAW
I gyfrifo pris sy’n cynnwys cyfradd TAW safonol (20% ar hyn o bryd), lluoswch y pris heb gynnwys TAW ag 1.2.
Enghraifft
Rydych yn gwerthu cadair am £60 ac mae angen ychwanegu 20% o TAW i gael y pris sy’n cynnwys TAW.
60 x 1.2 = 72
Y pris sy’n cynnwys TAW yw £72.
I gyfrifo pris sy’n cynnwys cyfradd TAW is (5% ar hyn o bryd), lluoswch y pris heb gynnwys TAW ag 1.05.
Enghraifft
Rydych yn gwerthu sedd car i blant am £200 ac mae angen ychwanegu 5% o TAW i gael y pris sy’n cynnwys TAW.
200 x 1.05 = 210
Y pris sy’n cynnwys TAW yw £210.
Prisiau heb gynnwys TAW
I gyfrifo pris heb gynnwys cyfradd TAW safonol (20% ar hyn o bryd), rhannwch y pris sy’n cynnwys TAW ag 1.2.
Enghraifft
Gwnaethoch brynu bwrdd a chyfanswm y pris, yn cynnwys TAW o 20%, oedd £180.
180 ÷ 1.20 = 150
Y pris heb gynnwys TAW yw £150. Y swm y gallwch ei adhawlio yw’r gwahaniaeth rhwng y ddau rif, sef £30.
I gyfrifo pris heb gynnwys cyfradd TAW is (5% ar hyn o bryd), rhannwch y pris sy’n cynnwys TAW ag 1.05.
Enghraifft
Gwnaethoch brynu lifft risiau a chyfanswm y pris, yn cynnwys TAW o 5%, oedd £483.
483 ÷ 1.05 = 460
Y pris heb gynnwys TAW yw £460. Y swm y gallwch ei adhawlio yw’r gwahaniaeth rhwng y ddau rif, sef £23.