Cofrestru ar gyfer TAW
Sut i gofrestru ar gyfer TAW
Fel arfer, gallwch gofrestru ar gyfer TAW ar-lein.
Gallwch ddechrau codi TAW ar eich gwerthiannau ac adennill TAW ar eitemau a brynoch o’r dyddiad y daw’ch cofrestriad i rym.
Yr hyn y bydd ei angen arnoch i gofrestru ar gyfer TAW
Mae’r wybodaeth y bydd ei hangen arnoch i gofrestru ar gyfer TAW yn dibynnu ar eich math o fusnes.
Cofrestru cwmni cyfyngedig
Bydd angen y canlynol arnoch:
-
rhif cofrestru eich cwmni
-
manylion cyfrif banc eich busnes
-
eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR)
-
manylion eich trosiant blynyddol
Bydd angen gwybodaeth arnoch hefyd am y canlynol:
-
eich Hunanasesiad
-
eich Treth Gorfforaeth
-
Talu Wrth Ennill (TWE)
Cofrestru fel unigolyn neu fel partneriaeth
Bydd angen y canlynol arnoch:
- eich rhif Yswiriant Gwladol
- dogfen adnabod, megis pasbort neu drwydded yrru
- manylion eich cyfrif banc
- eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR), os oes un gennych
- manylion eich trosiant blynyddol
Bydd angen gwybodaeth arnoch hefyd am y canlynol:
-
eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad
-
slipiau cyflog
-
P60
Cofrestru ar gyfer TAW ar-lein
Mae angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair Porth y Llywodraeth arnoch er mwyn cofrestru ar gyfer TAW. Os nad oes gennych ID Defnyddiwr eisoes, gallwch greu un pan fyddwch yn mewngofnodi am y tro cyntaf.
Nid oes rhaid i chi gwblhau’ch cofrestriad cyfan ar un tro. Gallwch gadw’ch cofnod a mynd yn ôl ato’n ddiweddarach os oes angen.
Bydd angen i chi lenwi ffurflenni ychwanegol yn ystod eich cofrestriad ar-lein, yn dibynnu ar y math o fusnes sydd gennych.
Pan na allwch gofrestru ar-lein
Mae’n rhaid i chi gofrestru drwy’r post gan ddefnyddio VAT1 os ydych:
-
am wneud cais am ’eithriad rhag cofrestru’ oherwydd bod eich trosiant trethadwy wedi mynd dros y trothwy dros dro
-
yn ymuno â’r Cynllun Cyfradd Unffurf Amaethyddol (yn agor tudalen Saesneg)
-
yn gwmni partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig sy’n cofrestru fel aelod cynrychiadol o grŵp TAW
-
yn cofrestru adrannau neu unedau busnes corff corfforaethol o dan rifau cofrestru TAW gwahanol
-
yn gwneud cais i gofrestru partneriaeth tramor
-
yn awdurdod lleol, yn gyngor plwyf neu’n gyngor dosbarth
Defnyddio asiant
Gallwch benodi cyfrifydd (neu asiant) (yn agor tudalen Saesneg) i gyflwyno’ch Ffurflenni TAW a delio â CThEF ar eich rhan.
Os ydych yn defnyddio asiant, byddwch yn dal i allu cofrestru ar gyfer cyfrif TAW ar-lein pan fyddwch yn cael eich rhif TAW.
Ar ôl i chi gofrestru
Ar ôl i chi gofrestru ar gyfer TAW byddwch yn cael y canlynol:
-
rhif cofrestru TAW 9 digid y mae’n rhaid i chi ei gynnwys ar bob anfoneb a godwch
-
gwybodaeth am sut i drefnu’ch cyfrif treth busnes (os nad oes gennych un eisoes) - bydd angen hyn arnoch i gael mynediad i’r gwasanaeth TAW ar-lein
-
gwybodaeth am pa bryd y bydd angen i chi gyflwyno’ch Ffurflen TAW gyntaf a’ch taliad cyntaf
-
cadarnhad o’ch dyddiad cofrestru (y cyfeirir ato fel y ‘dyddiad y daw’r cofrestriad i rym’)
Byddwch yn cael yr wybodaeth hon drwy’r post.
Cofrestru ar gyfer cyfrif TAW ar-lein
Pan fyddwch wedi cael eich gwybodaeth TAW drwy’r post, mae angen i chi gofrestru ar gyfer cyfrif TAW ar-lein.
-
Mewngofnodi i gyfrif Porth y Llywodraeth.
-
Dewiswch ‘Ychwanegu treth, toll neu gynllun nawr’.
-
Dewiswch ‘TAW a Gwasanaethau TAW’.
-
Dewiswch o’r rhestr o wasanaethau.
Os ydych eisoes wedi cofrestru ar gyfer TAW a’ch bod yn aros i glywed yn ôl am hynny, gwiriwch pryd y gallwch ddisgwyl ateb.
Rhoi cyfrif am TAW tra ydych yn aros am eich rhif cofrestru TAW
Ni allwch gynnwys TAW ar eich anfonebau hyd nes eich bod yn cael eich rhif cofrestru TAW, ond gallwch godi’ch prisiau i roi cyfrif am y TAW y bydd angen i chi ei thalu i CThEF.
Enghraifft
Ar 1 Mai, rydych yn trefnu contract gwerth £100,000 i ddarparu gwasanaethau i gwsmer newydd. Rydych yn cofrestru ar gyfer TAW gan eich bod yn gwybod y byddwch yn mynd dros y trothwy yn ystod y 30 diwrnod nesaf.
1 Mai yw’r dyddiad y daw’ch cofrestriad i rym. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i chi dalu TAW i CThEF ar unrhyw anfonebau a godwch o’r dyddiad hwnnw.
I roi cyfrif am y TAW y bydd angen i chi ei thalu, rhowch wybod i’ch cwsmer y byddwch yn ychwanegu 20% at swm gwreiddiol y contract o £100,000 ac yna codwch anfoneb am £120,000.
Ar ôl i chi gael eich rhif cofrestru TAW, ailanfonwch yr anfoneb gan ddangos y swm llawn gan gynnwys y TAW o £20,000. Nid oes angen i’ch cwsmer wneud taliad ychwanegol ond mae bellach yn gallu adennill yr £20,000 ychwanegol oddi wrth CThEF ar ei Ffurflen TAW nesaf.