Trosglwyddo’ch cofrestriad

Gallwch drosglwyddo rhif cofrestru TAW os oes newid mewn perchnogaeth busnes neu statws cyfreithiol.

Er enghraifft:

  • os byddwch yn cymryd busnes drosodd a’ch bod am barhau i ddefnyddio’i rif cofrestru TAW

  • os bydd eich busnes yn newid o fod yn bartneriaeth i fod yn unig fasnachwr

Mae hyn yn golygu y bydd y busnes yn cadw’r un rhif cofrestru TAW.

Gwneud cais am drosglwyddiad

Newid statws cyfreithiol eich busnes

I drosglwyddo’ch rhif cofrestru TAW pan fydd statws cyfreithiol eich busnes yn newid (a elwir hefyd yn ‘newid endid cyfreithiol’):

Gallwch wirio cynnydd eich cais.

Prynu busnes

I drosglwyddo’r rhif cofrestru TAW:

Bydd CThEF yn trin y ffurflen VAT68 fel y gwerthwr yn canslo ac yn trosglwyddo i chi. Nid oes angen i chi lenwi ffurflen TAW7.

Gallwch wirio cynnydd eich cais.

Yr hyn sy’n digwydd nesaf

Os ydych yn gwerthu’ch busnes:

  • canslwch fynediad eich cyfrifydd at eich cyfrif TAW ar-lein – er enghraifft, os gwnaethoch ei awdurdodi i ddelio â’ch TAW

  • canslwch unrhyw Ddebydau Uniongyrchol ar eich cyfrif TAW ar-lein

Hefyd, mae’n rhaid i chi roi’ch cofnodion i’r prynwr os ydych yn pasio’ch rhif TAW ymlaen.

Os ydych yn prynu busnes:

  • cysylltwch â CThEF cyn pen 21 diwrnod i’r cais i drosglwyddo os ydych am gadw cyfrifydd y gwerthwr

  • newidiwch unrhyw drefniadau hunan-filio (yn agor tudalen Saesneg) am rai newydd

  • trefnwch Ddebydau Uniongyrchol newydd ar eich cyfrif TAW ar-lein

Os yw’n well gennych gael rhif TAW newydd 

Os ydych am gael rhif TAW newydd yn hytrach na chadw’r un presennol, mae angen i chi ganslo’r cofrestriad TAW presennol a chofrestru ar gyfer TAW.