Pryd i gofrestru ar gyfer TAW

Mae’n rhaid i chi gofrestru os yw naill neu’r llall o’r canlynol yn wir:

  • mae cyfanswm eich trosiant trethadwy ar gyfer y 12 mis diwethaf yn mynd dros £90,000 (y trothwy TAW)
  • rydych yn disgwyl i’ch trosiant trethadwy fod yn fwy nag £90,000 yn ystod y 30 diwrnod nesaf

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Mae’n rhaid i chi hefyd gofrestru (ni waeth beth fo’r trosiant trethadwy) os yw pob un o’r canlynol yn wir:

  • rydych wedi’ch lleoli y tu allan i’r DU
  • mae’ch busnes wedi’i leoli y tu allan i’r DU
  • rydych yn cyflenwi unrhyw nwyddau neu wasanaethau i’r DU (neu rydych yn disgwyl gwneud hynny yn ystod y 30 diwrnod nesaf)

Os nad ydych yn sicr a yw hyn yn berthnasol i chi, darllenwch yr arweiniad ar bersonau sy’n agored i TAW ond sydd heb eu sefydlu yn y DU (NETPs) – gwybodaeth sylfaenol (yn agor tudalen Saesneg).

Gallwch ddewis cofrestru ar gyfer TAW os yw’ch trosiant yn llai na £90,000 (‘cofrestriad gwirfoddol’).

Mae’n rhaid i chi dalu unrhyw TAW sydd arnoch i Gyllid a Thollau EF (CThEF) o’r dyddiad y mae’n eich cofrestru.

Nid oes rhaid i chi gofrestru os ydych ond yn gwerthu nwyddau a gwasanaethau sydd wedi’u heithrio rhag TAW neu sydd ‘y tu allan i gwmpas’ TAW.

Ni all ysgolion preifat y mae newidiadau TAW ar ffioedd ysgolion yn effeithio arnynt gofrestru ar gyfer TAW tan 30 Hydref 2024. Dysgwch sut a phryd y dylai ysgolion preifat gofrestru ar gyfer TAW.

Cyfrifo’ch trosiant

Trosiant trethadwy yw cyfanswm gwerth yr holl bethau rydych yn eu gwerthu nad ydynt yn nwyddau a gwasanaethau sydd wedi’u heithrio rhag TAW nac yn rhai sydd ‘y tu allan i gwmpas’ TAW.

Mae hefyd yn cynnwys:

Os aethoch y tu hwnt i’r trothwy yn ystod y 12 mis diwethaf

Mae’n rhaid i chi gofrestru os oedd cyfanswm eich trosiant trethadwy ar gyfer y 12 mis diwethaf yn mynd dros £90,000.

Mae’n rhaid i chi gofrestru cyn pen 30 diwrnod i ddiwedd y mis yr aethoch dros y trothwy. Y dyddiad y daw’ch cofrestriad i rym yw diwrnod cyntaf yr ail fis ar ôl i chi fynd dros y trothwy.

Enghraifft

Ar 15 Gorffennaf, cyfanswm eich trosiant trethadwy am y 12 mis diwethaf yw £100,000. Dyna’r tro cyntaf iddo fynd dros y trothwy TAW. Mae’n rhaid i chi gofrestru erbyn 30 Awst. 1 Medi yw’r dyddiad y daw’ch cofrestriad i rym.

Os ydych yn mynd i fynd y tu hwnt i’r trothwy yn ystod y 30 diwrnod nesaf

Mae’n rhaid i chi gofrestru os sylweddolwch fod cyfanswm eich trosiant trethadwy blynyddol yn mynd i fynd dros y trothwy £90,000 yn ystod y 30 diwrnod nesaf.

Mae’n rhaid i chi gofrestru erbyn diwedd y cyfnod 30 diwrnod hwnnw. Mae’r dyddiad y daw’r cofrestriad i rym yn cyfateb i’r dyddiad y gwnaethoch sylweddoli, nid y dyddiad yr aeth eich trosiant dros y trothwy.

Enghraifft

Ar 1 Mai, rydych yn trefnu contract gwerth £100,000 i ddarparu gwasanaethau. Cewch eich talu ar ddiwedd mis Mai. Mae’n rhaid i chi gyflwyno’ch cais i gofrestru ar gyfer TAW erbyn 30 Mai. 1 Mai yw’r dyddiad y daw’ch cofrestriad i rym.

Os ydych wedi’ch lleoli yng Ngogledd Iwerddon ac yn gwerthu nwyddau neu wasanaethau sydd wedi’u heithrio rhag TAW

Bydd yn rhaid i chi gofrestru os ydych dim ond yn gwerthu nwyddau neu wasanaethau sydd wedi’u heithrio rhag TAW neu sydd ‘y tu allan i gwmpas’ TAW, ond eich bod yn prynu nwyddau am fwy na £90,000 mewn unrhyw gyfnod o 12 mis i’w defnyddio yn eich busnes oddi wrth gyflenwyr sydd wedi’u cofrestru ar gyfer TAW yn yr UE.

Os ydych yn cymryd drosodd fusnes sydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW

Mae’n rhaid i chi gofrestru ar gyfer TAW os yw trosiant trethadwy cyfunol y busnes newydd a’ch busnes presennol dros y trothwy.

Cofrestru’n hwyr

Os ydych yn cofrestru’n hwyr, mae’n rhaid i chi dalu TAW ar unrhyw werthiannau rydych wedi’u gwneud ers y dyddiad y dylech fod wedi’ch cofrestru.

Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu cosb, yn dibynnu ar faint sydd arnoch a pha mor hwyr yw’ch cofrestriad.

Os byddwch yn mynd dros y trothwy dros dro

Gallwch wneud cais am ‘eithriad’ rhag cofrestru os bydd eich trosiant trethadwy yn mynd dros y trothwy dros dro.

Cysylltwch â CThEF i ofyn am y ffurflen gofrestru VAT1. Bydd angen i chi roi tystiolaeth sy’n dangos pam eich bod o’r farn na fydd eich trosiant trethadwy yn mynd dros y trothwy datgofrestru o £88,000 yn y 12 mis nesaf.

Bydd CThEF yn ystyried eich eithriad ac yn rhoi gwybod i chi’n ysgrifenedig os byddwch yn cael un. Os na fyddwch yn cael eithriad, bydd CThEF yn eich cofrestru ar gyfer TAW.

Eithriad rhag cofrestru

Os oes gan y rhan fwyaf o’ch nwyddau neu wasanaethau trethadwy gyfradd TAW o 0% (cyflenwadau cyfradd sero), mae’n bosibl na fydd angen i chi gofrestru ar gyfer TAW. Bydd angen i chi ofyn i CThEF am ganiatâd – gelwir hyn yn eithriad rhag cofrestru.

Os ydych chi’n berson sy’n agored i TAW, ond sydd heb ei sefydlu yn y DU, mae’n rhaid i’ch holl nwyddau neu wasanaethau trethadwy fod yn gyfradd sero er mwyn bod yn gymwys i gael eich eithrio rhag cofrestru.

Gwnewch gais am eithriad rhag cofrestru naill ai:

Os ydych yn gwaredu asedion ac wedi hawlio ad-daliad TAW arnynt, bydd angen i chi lenwi ffurflen VAT1C a y ffurflen gofrestru VAT1.

Yr hyn sy’n digwydd nesaf

Bydd CThEF yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi a yw eich cais i eithrio wedi’i gymeradwyo. Os gwrthodir eich cais, bydd CThEF yn eich cofrestru ar gyfer TAW.