Canllawiau

Gwirio a oes rhaid i chi gofrestru ar gyfer TAW os ydych yn derbyn ffioedd ysgolion preifat

Os ydych chi’n ddarparwr addysg, gwiriwch a oes angen i chi gofrestru ar gyfer TAW - a phryd y dylech wneud hynny - er mwyn paratoi ar gyfer talu TAW ar ffioedd ysgol a phreswylio.

Mae’r arweiniad hwn yn seiliedig ar yr ymgynghoriad technegol (yn agor tudalen Saesneg) a’r ddeddfwriaeth ddrafft a gyhoeddwyd yn natganiad ysgrifenedig y Gweinidog ar 29 Gorffennaf 2024 ynghylch y bwriad i gael gwared ar yr esemptiad rhag TAW ar gyfer ysgolion preifat.

Bydd yr arweiniad hwn yn cael ei ddiweddaru os bydd unrhyw newidiadau polisi neu ddeddfwriaethol yn cael eu cyhoeddi yng Nghyllideb 2024.

O 30 Hydref 2024 ymlaen, bydd ffioedd ysgol a phreswylio ar gyfer tymhorau ysgol sy’n dechrau ar 1 Ionawr 2025 yn drethadwy ar y gyfradd TAW safonol sef 20%.

Mae’n rhaid i ddarparwyr addysg sy’n codi ffioedd ysgol a phreswylio wirio a oes angen iddynt gofrestru ar gyfer TAW oherwydd y newidiadau hyn.

Pwy sy’n gorfod cofrestru ar gyfer TAW

Mae’n rhaid i chi gofrestru ar gyfer TAW os ydych yn ysgol breifat, neu’n berson cysylltiedig, sy’n darparu gwasanaethau addysg, hyfforddiant galwedigaethol neu wasanaethau preswylio, a bod y naill neu’r llall o’r canlynol yn wir:

  • mae cyfanswm eich trosiant trethadwy ar gyfer y 12 mis diwethaf dros £90,000
  • rydych yn disgwyl i gyfanswm eich trosiant trethadwy fynd dros £90,000 yn ystod y 30 diwrnod nesaf

Trosiant trethadwy yw cyfanswm gwerth popeth rydych chi’n ei werthu nad yw wedi’i esemptio rhag TAW neu sydd ‘y tu allan i gwmpas’.

Diffinnir ‘person cysylltiedig’ fel corff sydd wedi’i rhwymo’n agos i ysgol breifat drwy gysylltiadau ariannol, economaidd a sefydliadol. Gallant hefyd fod yn gysylltiedig at ddibenion adran 1122 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (yn agor tudalen Saesneg).

At ddibenion TAW, diffinnir ‘ysgol breifat’ fel unrhyw ysgol neu sefydliad sy’n darparu addysg amser llawn am ffi i’r naill neu’r llall o’r canlynol:

  • disgyblion sydd o oedran ysgol gorfodol
  • disgyblion 16 i 19 oed, lle mae’r sefydliad hwnnw’n ymwneud yn bennaf â darparu addysg sy’n addas ar gyfer yr oedrannau hyn

Mae hyn yn cynnwys:

  • ysgolion preifat
  • ysgolion annibynnol
  • colegau chweched dosbarth

Bydd dosbarthiadau ar gyfer plant o dan oedran ysgol gorfodol (er enghraifft, dosbarthiadau meithrin) wedi’u hesemptio rhag TAW. Os ydych yn ysgol sydd ond yn darparu’r dosbarthiadau hyn, ni fydd angen i chi gofrestru ar gyfer TAW.

Pryd y mae’n rhaid i chi gofrestru

Bydd darparwyr addysg yn gallu cofrestru ar gyfer TAW o 30 Hydref 2024 ymlaen.

Bydd yr union ddyddiad pan fydd angen i chi gofrestru ar gyfer TAW yn dibynnu ar:

  • gwerth y taliadau ffioedd ysgol a gewch ar gyfer tymhorau sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2025
  • y dyddiad y bydd y taliadau’n dod i law

Mae’r taliadau’n cynnwys ffioedd cofrestru a delir yn ystod y broses ymgeisio i fynychu ysgol.

Os ydych yn cael taliadau ymlaen llaw, mae’n bosibl y bydd angen i chi gofrestru cyn 1 Ionawr 2025, yn dibynnu ar pryd y daeth y taliad i law.

Os ydych yn cofrestru oherwydd eich bod wedi mynd dros y trothwy TAW sef £90,000 yn ystod y 12 mis blaenorol, mae’n rhaid i chi gofrestru cyn pen 30 diwrnod i ddiwedd y mis pan aethoch dros y trothwy. Y dyddiad y daw’ch cofrestriad i rym fydd diwrnod cyntaf yr ail fis ar ôl i chi fynd dros y trothwy.

Os ydych yn cofrestru oherwydd eich bod yn disgwyl mynd dros y trothwy TAW yn ystod y 30 diwrnod nesaf, mae’n rhaid i chi gofrestru yn ystod y 30 diwrnod nesaf. Y dyddiad y daw’ch cofrestriad i rym fydd y dyddiad pan wnaethoch sylweddoli y byddwch yn mynd dros y trothwy.

Ni ddylech godi TAW na pharatoi anfonebau TAW nes eich bod wedi cofrestru ar gyfer TAW.

Os oes angen i chi gofrestru ar gyfer TAW, ac os na fyddwch yn gwneud hynny, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cosb am gofrestru’n hwyr (yn agor tudalen Saesneg).

Taliadau a ddaeth i law cyn 29 Gorffennaf 2024

Bydd y ffordd y caiff taliadau a wnaed cyn 29 Gorffennaf 2024 eu trin yn dibynnu ar delerau penodol unrhyw gytundeb ar gyfer y taliad dan sylw.

Lle bo’r taliad yn creu pwynt treth at ddibenion TAW pan fydd y taliad hwnnw’n cael ei wneud, ni fydd TAW yn ddyledus. Bydd pwynt treth fel arfer yn cael ei greu pan fydd gwasanaeth yn cael ei ddarparu, neu pan fydd taliad yn cael ei gymryd am gyflenwi nwyddau neu wasanaethau.

I gael rhagor o wybodaeth am bwyntiau treth, darllenwch:

Taliadau a ddaeth i law rhwng 29 Gorffennaf 2024 a 29 Hydref 2024

Bydd unrhyw daliadau ffioedd a ddaeth i law rhwng 29 Gorffennaf 2024 a 29 Hydref 2024 ar gyfer tymhorau ysgol sy’n dechrau o 1 Ionawr 2025 ymlaen yn agored i TAW o’r naill neu’r llall o’r dyddiadau canlynol, p’un bynnag sydd hwyraf:

  • dyddiad cyntaf y tymor ysgol y talwyd y ffioedd amdano
  • 1 Ionawr 2025

Ni ddylech godi TAW na pharatoi anfonebau TAW nes eich bod wedi cofrestru ar gyfer TAW.

Enghraifft

Ar 28 Hydref 2024, cawsoch £100,000 ar gyfer addysg ysgol breifat ar gyfer y tymor ysgol sy’n dechrau ar 6 Ionawr 2025.

Gan nad yw hwn yn cael ei ystyried yn agored i TAW eto, nid oes angen i chi gofrestru ar gyfer TAW ar unwaith.

Bydd y taliadau hyn yn agored i TAW o 6 Ionawr 2025 ymlaen, pan fydd tymor yr ysgol yn dechrau. Mae hyn yn golygu, ar 8 Rhagfyr 2024 — 30 diwrnod cyn 6 Ionawr 2025 — eich bod yn ymwybodol y byddwch yn mynd dros y trothwy TAW sef £90,000 ar 6 Ionawr 2025, ac mae’n rhaid i chi gofrestru ar gyfer TAW.

Bydd gennych 30 diwrnod i gofrestru ar gyfer TAW o 8 Rhagfyr 2024 ymlaen, gan mai dyna’r dyddiad y daw’ch cofrestriad i rym.

Rhaid i chi hefyd godi TAW ar ffioedd a dalwyd o 8 Rhagfyr 2024 ymlaen, hyd yn oed os nad oes gennych eich rhif cofrestru TAW.

Taliadau a ddaw i law ar ac ar ôl 30 Hydref 2024

Bydd unrhyw ffioedd a ddaw i law o 30 Hydref 2024 ymlaen ar gyfer tymhorau ysgol o 1 Ionawr 2025 ymlaen yn agored i TAW o’r dyddiad hwnnw ymlaen.

Bydd angen i chi roi gwybod i CThEF cyn pen 30 diwrnod os ydych yn sylweddoli y bydd swm y rhagdaliadau a ddaw i law yn fwy na £90,000 yn ystod y 30 diwrnod nesaf.

Os na fyddant yn fwy na £90,000, bydd angen i chi roi gwybod i CThEF cyn pen 30 diwrnod i ddiwedd y mis bod cyfanswm y rhagdaliadau a ddaw i law — ynghyd ag unrhyw gyflenwadau trethadwy eraill y gallech fod yn eu gwneud — yn fwy na £90,000.

Enghraifft

Ar 5 Tachwedd 2024, rydych yn ymwybodol y byddwch yn cael taliadau ffioedd ysgol dros £90,000 yn ystod y 30 diwrnod nesaf, ar gyfer tymhorau sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2025.

Mae’n rhaid i chi gofrestru ar gyfer TAW, a rhaid i chi roi gwybod i CThEF erbyn diwedd y cyfnod 30 diwrnod hwnnw — hynny yw, erbyn 4 Rhagfyr 2024.

Y dyddiad y daw’ch cofrestriad i rym fydd 5 Tachwedd 2024, gan mai dyma’r dyddiad pan wnaethoch sylweddoli y byddech yn mynd dros y £90,000 cyn pen y 30 diwrnod nesaf.

Mae’n rhaid i chi godi TAW ar ffioedd a delir o 5 Tachwedd 2024 ymlaen, hyd yn oed os nad oes gennych eich rhif cofrestru TAW eto.

Cyfanswm y taliadau yn fwy na’r trothwy TAW yn ystod cyfnod treigl o 12 mis

Os ydych yn cael rhagdaliadau sy’n llai na £90,000 yn ystod y 30 diwrnod nesaf, ni fydd angen i chi gofrestru hyd nes bod cyfanswm eich cyflenwadau trethadwy yn mynd y tu hwnt i’r swm hwnnw, a hynny yn ystod cyfnod treigl o 12 mis.

Ni fydd rhagdaliadau a ddaw i law rhwng 29 Gorffennaf 2024 a 29 Hydref 2024 yn agored i TAW tan ddiwrnod cyntaf y tymor neu 1 Ionawr 2025, p’un bynnag sydd hwyraf. Ni ddylech godi TAW na pharatoi anfonebau TAW tan hynny.

Enghraifft

Mae’n 31 Ionawr 2025, ac rydych yn sylweddoli, ers y newid o ran triniaeth TAW ar 30 Hydref 2024, bod cyfanswm o £95,000 o ffioedd wedi dod i law ar gyfer tymhorau sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2025.

Gan eich bod wedi mynd dros y trothwy sef £90,000 yn ystod y 12 mis diwethaf, mae’n rhaid i chi gofrestru ar gyfer TAW gyda CThEF cyn pen 30 diwrnod i ddiwedd mis Ionawr (y mis pan aethoch dros y trothwy).

Y dyddiad y daw’ch cofrestriad i rym fydd 1 Mawrth 2025.

Mae hyn yn golygu y bydd angen i chi ddechrau codi TAW o 1 Mawrth 2025 ymlaen.

Cofrestru ar gyfer TAW yn wirfoddol

Os ydych yn ddarparwr addysg sydd eisoes yn darparu gwasanaethau neu nwyddau sy’n agored i TAW, ac os nad oes gofyn i chi gofrestru eto, gallwch gofrestru ar gyfer TAW ar unrhyw adeg.

Os ydych yn ddarparwr addysg nad yw’n darparu gwasanaethau neu nwyddau sy’n agored i TAW ar hyn o bryd, gallwch gofrestru ar gyfer TAW o 30 Hydref 2024 ymlaen os ydych yn darparu addysg breifat ar gyfer tymhorau sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2025, neu’n bwriadu gwneud hynny.

Os byddwch yn cofrestru’n wirfoddol, bydd angen i chi fodloni ymrwymiadau TAW o hyd, megis cyflwyno Ffurflenni TAW a chadw cofnodion TAW. Bydd angen i chi hefyd codi TAW ar nwyddau a gwasanaethau trethadwy a gyflenwir gennych.

Bydd pryd y bydd angen i chi godi TAW ar ffioedd ysgol yn dibynnu ar yr ‘amser cyflenwi’ (neu’r pwynt treth). Ceir rhagor o wybodaeth am yr ‘amser cyflenwi’ yn adran 14 o Hysbysiad TAW 700 (yn agor tudalen Saesneg).

Sut i gofrestru

Dysgwch sut i gofrestru ar gyfer TAW.

Pan fyddwch yn cofrestru, dylech wneud y canlynol:

  • nodi ‘Darparwr Addysg Breifat’ yn yr adran ‘Gweithgarwch busnes’ o’r cais ar-lein
  • defnyddio’r arweiniad sydd ar gael wrth i chi wneud y cais ar-lein i’ch helpu i ddewis y codau Dosbarthiad Diwydiannol Safonol sy’n berthnasol i chi

Cofrestru fel grŵp TAW

Os oes gan eich ysgol fwy nag un endid busnes (er enghraifft, yn ogystal â busnes sy’n darparu addysg mae busnes arall sef siop sy’n gwerthu offer chwaraeon yr ysgol) efallai y bydd yn gallu cofrestru fel grŵp TAW.

Ceir rhagor o wybodaeth yn:

Ar ôl i chi gofrestru

Byddwch yn cael llythyr gan CThEF sy’n cadarnhau’ch rhif cofrestru TAW ac yn esbonio’r hyn y mae’n rhaid i chi ei wneud nesaf.

Mae hyn yn cynnwys:

Byddwch hefyd yn gallu adhawlio TAW ar dreuliau busnes.

Cael rhagor o wybodaeth

Gwiriwch a yw TAW yn ddyledus ar nwyddau a gwasanaethau sy’n ymwneud â ffioedd ysgolion preifat, gan gynnwys yr hyn y gallwch adhawlio TAW ar ei gyfer.

Ceir rhagor o wybodaeth am:

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 10 October 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 10 October 2024 + show all updates
  1. The 'Who must register for VAT' section of the guidance has been updated to show private schools, independent schools and sixth form colleges will need to check if they must register for VAT.

  2. Added translation

Sign up for emails or print this page