Canllawiau

Codi ac adhawlio TAW ar nwyddau a gwasanaethau sy’n gysylltiedig â ffioedd ysgolion preifat

Gwiriwch a yw TAW yn ddyledus ar daliadau ac amgylchiadau sy’n gysylltiedig â ffioedd ysgolion preifat, a chael gwybod beth allwch chi adhawlio TAW arno.

Mae’r arweiniad hwn yn seiliedig ar yr ymgynghoriad technegol (yn agor tudalen Saesneg) a’r ddeddfwriaeth ddrafft a gyhoeddwyd yn natganiad ysgrifenedig y Gweinidog ar 29 Gorffennaf 2024 ynghylch y bwriad i gael gwared ar yr esemptiad rhag TAW ar gyfer ysgolion preifat.

Bydd yr arweiniad hwn yn cael ei ddiweddaru os bydd unrhyw newidiadau polisi neu ddeddfwriaethol yn cael eu cyhoeddi yng Nghyllideb 2024.

Trosolwg

O 30 Hydref 2024 ymlaen, bydd ffioedd ysgol a phreswylio ar gyfer tymhorau ysgol sy’n dechrau ar 1 Ionawr 2025 yn drethadwy ar y gyfradd TAW safonol sef 20%.

Mae’r arweiniad hwn yn esbonio sut y bydd rhai taliadau a sefyllfaoedd sy’n ymwneud ag addysg yn cael eu trin o ran TAW.

Bydd TAW yn ddyledus ar gyfanswm popeth sy’n dod i law yn gyfnewid am roi addysg i’r myfyriwr. Er enghraifft, gall hyn gynnwys y swm a dalwyd gan y rhiant, yn ogystal ag unrhyw fwrsariaeth allanol y gellir ei thalu am addysg y myfyriwr hwnnw.

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth gyffredinol am:

TAW ar nwyddau, gwasanaethau a thaliadau

Cyflenwi gwasanaethau addysg sy’n cynnwys elfennau eraill (fel prydau ysgol a chludiant)

Os ydych yn cyflenwi nifer o nwyddau a gwasanaethau gyda’i gilydd, mae’n bwysig gwybod ble mae TAW yn berthnasol i’r naill neu’r llall o’r canlynol:

  • y trafodiad cyfan
  • pob rhan o’r cyflenwad yn unigol

Pan fyddwch chi’n cyflenwi mwy nag un nwydd neu wasanaeth gyda’i gilydd fel pecyn, bydd hyn fel arfer yn cael ei ystyried fel un cyflenwad. Yn yr un modd, lle darperir gwasanaeth ynghyd â nwyddau neu wasanaethau sy’n ategol i (hynny yw, yn ychwanegol at) y prif wasanaeth, bydd hyn fel arfer yn cael ei ystyried fel un cyflenwad.

Ni ddylech rannu’r pecyn yn artiffisial i greu cyflenwadau ar wahân gyda rhwymedigaethau TAW gwahanol. Bydd y pecyn sengl yn cael ei drin fel un peth ar gyfer TAW.

Lle bo nifer o nwyddau neu wasanaethau ar wahân yn cael eu cyflenwi gyda’i gilydd, a phan fo pob un yn cynrychioli nod gwahanol i’r cwsmer, ystyrir bod y rhain yn gyflenwadau ar wahân. Bydd pob cyflenwad yn cael ei drin ar wahân, a gall fod yn agored i TAW ar gyfradd wahanol.

Pan fyddwch yn darparu pecyn addysg am ffi unigol, bydd hyn fel arfer yn cael ei ystyried fel un cyflenwad at ddibenion TAW. Gall y pecyn hwn gynnwys nifer o elfennau (megis cludiant neu brydau bwyd) ynghyd â’r brif elfen, sef addysg. Bydd gan yr un cyflenwad hwn un rhwymedigaeth TAW.

Lle bo ysgol yn darparu addysg ac hefyd yn darparu elfennau eraill am ffi ar wahân, ystyrir bod y rhain yn gyflenwadau ar wahân. Er enghraifft, os bydd ysgol yn darparu addysg ac hefyd yn cynnig prydau ysgol am ffi ar wahân, bydd y rhain fel arfer yn cael eu hystyried fel 2 cyflenwad gwahanol. Mae’n bosibl y bydd gan y rhain rwymedigaethau TAW gwahanol. Er y bydd yr addysg yn agored i’r gyfradd TAW safonol, mae’n bosibl y bydd y prydau ysgol wedi’u hesemptio rhag y gyfradd hon os byddant yn bodloni’r amodau o ran bod yn wasanaethau cysylltiedig agos.

Ceir rhagor o wybodaeth yn VATSC11113 - llawlyfr mewnol CThEF o ran Cyflenwi a Chydnabyddiaeth TAW (yn agor tudalen Saesneg).

Cyflenwi gwasanaethau addysg a lles gyda’i gilydd

Os ydych chi’n darparu addysg ynghyd â gwasanaethau lles, mae’n bwysig penderfynu a yw’r cyflenwad yn gyflenwad o les neu addysg.

Gall rhai gwasanaethau sy’n cael eu darparu fod yn addas ar gyfer yr esemptiad o ran lles, gan eu bod yn cyflenwi lles yn hytrach na chyflenwi addysg.

Rhaid i brif elfen (elfen fwyaf) y cyflenwad fod yn lles.

Enghraifft o gyflenwad lles yw goruchwyliaeth ac arweiniad a ddarperir i berson bregus er mwyn datblygu’r gallu i fyw’n annibynnol a chyflawni tasgau bob dydd. Gall hyn gael ei restru mewn Cynllun Gofal Iechyd Addysg.

Os yw ysgol yn darparu addysg i ddisgybl — ac mae’r rhiant o’r farn mai dyna y mae’n ei brynu — bydd unrhyw les sy’n cael ei ddarparu i’r disgybl yn ystod y diwrnod ysgol yn eilaidd i’r addysg. Bydd hyn yn cael ei ystyried fel un cyflenwad addysg at ddibenion TAW.

Enghraifft o wasanaethau lles wedi’u hesemptio yw gwasanaethau gofal dydd, megis gwasanaethau a ddarperir gan feithrin, grŵp chwarae neu glwb ar ôl ysgol (ond nid clybiau ar sail gweithgaredd, megis dosbarthiadau dawnsio). Mae’r gwasanaethau hyn yn ymwneud â gofal a diogelu plant.

Ceir rhagor o wybodaeth am TAW ar gyflenwadau lles ac amodau cyflenwi lles yn Hysbysiad TAW 701/2 - Gwasanaethau a nwyddau lles (yn agor tudalen Saesneg).

Derbyn taliadau grant ar gyfer gwasanaethau addysg

Bydd p’un a yw taliad grant yn agored i TAW yn dibynnu ar union natur trefniadau’r grant.

Fel arfer, bydd cyllid grant bloc nad yw’n ymwneud â disgyblion unigol (er enghraifft, grantiau bloc gan yr Asiantaeth Ariannu Addysg a Sgiliau) y tu allan i gwmpas TAW.

Fodd bynnag, os byddwch yn cael grant i dalu ffioedd disgybl penodol, bydd y ffi gyfan yn agored i TAW oherwydd bod cysylltiad uniongyrchol rhwng y gwasanaeth rydych yn ei gyflenwi a’r taliad a gawsoch.

Ar gyfer pob taliad a gewch, bydd angen i chi benderfynu a oes ‘cydnabyddiaeth yn gyfnewid am gyflenwi’ ac a yw’n agored i TAW.

Ceir rhagor o wybodaeth am gyflenwi a chydnabyddiaeth a grantiau yn VATSC06310 - llawlyfr mewnol CThEF o ran Cyflenwi a Chydnabyddiaeth TAW (yn agor tudalen Saesneg).

Triniaeth TAW o ran taliadau bwrsariaeth ar gyfer ffioedd ysgol

Codir TAW ar gyfanswm y gwerth a dderbynnir yn gyfnewid am yr addysg y mae’r ysgol yn ei darparu i’r myfyriwr. Bydd yr ysgol yn rhoi cyfrif am y TAW ar gyfanswm y ffi a godir am yr addysg, hyd yn oed os yw hyn yn cynnwys taliad y rhiant yn ogystal â bwrsariaeth ar wahân a delir ar gyfer y plentyn hwnnw.

Er enghraifft, codir TAW ar 100% o’r ffi os yw’r canlynol yn wir:

  • mae ysgol yn derbyn taliad bwrsariaeth ar gyfer plentyn penodol sy’n cynrychioli 30% o gyfanswm y ffi drethadwy
  • mae rhiant y plentyn yn talu’r 70% sy’n weddill o’r ffi

Pan fydd ysgol yn darparu taliad bwrsariaeth iddi’i hun, bydd y taliad y tu allan i gwmpas TAW.

Lleoliadau mewn ysgolion preifat a ddarperir gan Awdurdod Lleol

Pan fo enw ysgol breifat yn cael ei nodi ar gynllun gofal iechyd addysg disgybl, a phan fo Awdurdod Lleol yn ariannu lle y disgybl hwnnw, bydd TAW yn ddyledus ar y ffioedd hynny.

Mae hyn yn golygu y bydd yr Awdurdod Lleol yn talu TAW ar gyflenwad addysg y disgybl.

Gall Awdurdodau Lleol adennill y TAW a ddelir gan ddefnyddio prosesau presennol ‘adran 33’.

I gael rhagor o wybodaeth am adran 33, darllenwch Awdurdodau Lleol a chyrff cyffelyb (Hysbysiad TAW 749) (yn agor tudalen Saesneg).

Cyflenwadau a ddarperir ar gyfer y dosbarthAnfonebau TAW

Os ydych yn anfonebu ar gyfer nwyddau a gwasanaethau sy’n agored i TAW ar wahanol gyfraddau, gallwch eu cynnwys ar yr un anfoneb.

Dylai’r anfoneb ddangos cyfradd y TAW a godir ar bob cyflenwad.

Ceir rhagor o wybodaeth yn adran 4 Hysbysiad TAW 700/21 - Cadw cofnodion (yn agor tudalen Saesneg).

Ffioedd ymgeisio a chofrestru a dalwyd yn ystod y broses ymgeisio

Os byddwch yn codi ffi gofrestru am gais y mae’n rhaid ei thalu er mwyn i fyfyriwr fynychu’ch ysgol, bydd yn agored i TAW – yn yr un modd â ffioedd ysgol arferol.

Dulliau eraill o dalu

Taliad yn gyfnewid am gyflenwi nwydd neu wasanaeth yw cydnabyddiaeth — er enghraifft, gwnaethoch daliad arian parod yn gyfnewid am werslyfr. Y gydnabyddiaeth yw’r taliad arian parod a’r nwydd yw’r llyfr.

Fel arfer, bydd taliad yn cael ei wneud ar ffurf arian, ond does dim rhaid iddo fod. Gellir talu cydnabyddiaeth ar ffurf nwyddau neu wasanaethau a gyflenwir yn gyfnewid (er enghraifft, cytundeb barter), neu gyfuniad o’r ddau.

Ceir rhagor o wybodaeth am gydnabyddiaeth TAW yn VATSC05000 - llawlyfr mewnol CThEF o ran Cyflenwi a Chydnabyddiaeth TAW (yn agor tudalen Saesneg).

Gweithgareddau elusennau sy’n rhedeg ysgolion preifat

Os yw elusen yn cynnal nifer o weithgareddau — gan gynnwys rhedeg ysgol — rhaid ystyried pob gweithgaredd ar wahân er mwyn penderfynu a yw’n weithgaredd busnes ac yn agored i TAW.

Mae gweithgaredd yn weithgaredd busnes os yw’n golygu gwneud cyflenwadau yn gyfnewid am gydnabyddiaeth gyda’r bwriad o gynhyrchu incwm, a bydd modd codi TAW arno. Nid oes angen i’r gweithgaredd wneud elw.

Cyflenwadau a ddarperir ar gyfer yr ystafell ddosbarth

Mae nwyddau neu wasanaethau a gyflenwir at ddefnydd uniongyrchol y disgybl, myfyriwr neu hyfforddai sy’n angenrheidiol ar gyfer darparu’r addysg a roddwyd gennych yn cael eu hystyried i fod â chysylltiad agos â chyflenwi addysg, a byddant yn parhau i fod wedi’u hesemptio rhag TAW.

Er mwyn elwa o’r esemptiad hwn, mae’n rhaid bod y nwyddau neu’r gwasanaethau yn cael eu cyflawni ar wahân i’r brif addysg. I gael rhagor o wybodaeth, gweler adran ‘Cyflenwi gwasanaethau addysg sy’n cynnwys elfennau eraill (fel prydau ysgol a chludiant)’ yr arweiniad hwn.

Er enghraifft, os ydych chi’n gwerthu deunydd ysgrifennu i ddisgybl i’w ddefnyddio yn y dosbarth, mae cysylltiad agos rhwng hyn â chyflenwi addysg, a bydd yn parhau i gael ei esemptio rhag TAW.

Bydd yr holl nwyddau a gwasanaethau eraill, sydd heb gysylltiad agos â chyflenwi’r addysg, yn agored i TAW.

Dosbarthiadau meithrin a ddarperir gan ysgolion preifat

Mae dosbarthiadau meithrin sydd ond yn cynnwys plant o dan oedran ysgol gorfodol yn parhau i fod wedi’u hesemptio rhag TAW.

Os yw’r feithrinfa’n cynnwys plant sydd o oedran ysgol gorfodol a’ch bod yn cael ffi amdanynt, bydd y dosbarth cyfan yn agored i TAW.

Goblygiadau TAW i golegau addysg bellach

Os mai’ch prif bwrpas yw darparu addysg sy’n addas i bobl ifanc 16 i 19 oed am ffi, bydd y newidiadau i TAW yn effeithio arnoch chi.

Bydd sut y byddwch yn cael eich effeithio yn dibynnu ar natur yr addysg rydych chi’n ei darparu a’ch cynulleidfa darged nodweddiadol.

Er enghraifft, ystyrir bod coleg chweched dosbarth sy’n darparu gwersi ‘Safon Uwch’ yn bennaf yn darparu addysg sy’n addas i bobl ifanc 16 i 19 oed. Bydd y coleg yn agored i TAW os yw’n darparu’r gwersi hynny am ffi.

Ni fydd addysg sydd fel arfer wedi’i thargedu at fyfyrwyr dros 19 oed (er enghraifft, addysg israddedig ac ôl-raddedig) yn cael ei heffeithio gan y newidiadau hyn.

Sut i ddiffinio ffioedd preswylio

Nid yw’r term ‘preswylio’ yn cael ei ddiffinio gan y ddeddfwriaeth.

Mae preswylio yn ymwneud â’r trefniant lle mae disgybl yn byw mewn llety ysgol yn ystod y tymor.

Bydd ffioedd preswylio yn agored i TAW ar gyfer ysgolion preifat.

Rhoddion a chyfraniadau gwirfoddol i ysgolion preifat

Ni chodir TAW ar rodd ariannol neu gyfraniad gwirfoddol os yw’r canlynol yn wir:

  • mae’r rhoddwr yn ei roi o’i ewyllys ei hun
  • nid yw’r rhoddwr na’i fuddiolwr yn derbyn unrhyw beth yn gyfnewid
  • nid yw’r rhodd yn amodol ar unrhyw delerau nac amodau

Ceir rhagor o wybodaeth am TAW a rhoddion yn VATSCO6110 - llawlyfr mewnol CThEF o ran Cyflenwi a Chydnabyddiaeth TAW (yn agor tudalen Saesneg).

Adhawlio TAW

Adennill TAW ar gyflenwadau  

Gallwch adhawlio TAW a godir ar y nwyddau a’r gwasanaethau a ddefnyddir i wneud cyflenwadau trethadwy, megis addysg a phreswylio.

Ni all y TAW a ddelir ar bryniannau a ddefnyddir at ddibenion nad ydynt yn ymwneud â busnes yn unig gael ei hadennill.

Fel arfer, ni allwch adhawlio TAW ar gyflenwadau esempt, megis nwyddau a gwasanaethau sydd â chysylltiad agos, a gyflenwir gydag addysg.

Mae’n debygol y bydd ysgolion preifat yn darparu cyflenwadau trethadwy ac esempt.

Mae hyn yn eu gwneud yn fusnesau sydd wedi’u hesemptio’n rhannol sy’n gorfod talu TAW ar gyflenwadau trethadwy ac esempt.

I gyfrifo faint o TAW y gallwch ei hadhawlio, bydd angen i chi gyflawni dosraniad. Gelwir hyn yn gyfrifiad esemptiad rhannol.

Mae dwy ffordd o gyfrifo a dosrannu:

  • y dull safonol
  • dull pwrpasol (a elwir yn ddull arbennig esemptiad rhannol)

Ceir rhagor o wybodaeth yn Hysbysiad TAW 706 - Esemptiad rhannol (yn agor tudalen Saesneg).

Talu TAW ar gyflenwadau cyn cofrestru ar gyfer TAW

O dan rai amgylchiadau, gellir adhawlio TAW a dalwyd mewn perthynas â chyflenwadau trethadwy cyn i fusnes gofrestru ar gyfer TAW.

VAT can be reclaimed for:

  • nwyddau a dderbyniwyd hyd at 4 blynedd cyn cofrestru ac sy’n dal i fod wrth law wrth gofrestru
  • gwasanaethau a dderbyniwyd hyd at 6 mis cyn cofrestru, sy’n ymwneud â gweithgareddau busnes a gynhelir ar ôl cofrestru

Efallai y bydd angen dosrannu’r TAW a dalwyd dros oes economaidd y nwyddau (5 mlynedd fel arfer), a bod yn seiliedig ar y canlynol:

  • cyfnod defnydd trethadwy
  • cyfnod defnydd esempt

Eitemau cyfalaf mawr ac adhawlio TAW

Mae TAW a godir ar eitemau cyfalaf mawr yn cael ei hadhawlio mewn ffordd wahanol i wariant bob dydd.

Er mwyn adlewyrchu’r ffaith y gall y defnydd o’r asedion hyn newid dros amser, mae’r Cynllun Nwyddau Cyfalaf yn caniatáu i’r TAW a adhawliwyd adlewyrchu’r defnydd newidiol hwn.

Er enghraifft, gallai hyn fod yn berthnasol lle mae asedion cyfalaf wedi’u caffael yn ystod y blynyddoedd diwethaf (pan na ellid ei hadhawlio pan y’i defnyddir ar gyfer addysg wedi’i hesemptio) a byddant bellach yn cael eu defnyddio ar gyfer addysg drethadwy.

Mae’r cynllun hwn yn berthnasol i:

  • tir, gwaith adeiladu a pheirianneg sifil gwerth £250,000 neu fwy
  • eitemau o offer cyfrifiadurol gwerth £50,000 neu fwy
  • awyrennau, llongau neu gychod eraill gwerth £50,000 neu fwy

Efallai y bydd gennych hawl i adhawlio TAW yr ydych wedi’i thalu ar eitemau cyfalaf sy’n llai na 10 oed. Ceir rhagor o wybodaeth yn Hysbysiad TAW 706/2 - Cynllun Nwyddau Cyfalaf (yn agor tudalen Saesneg).

Llogi neu osod cyfleusterau

Ni fydd y driniaeth TAW o ran llogi neu osod cyfleusterau yn newid.

Ceir rhagor o wybodaeth am sut a phryd i godi TAW wrth logi neu osod cyfleusterau yn adran 3.4 ac adran 5 o Hysbysiad TAW 742 - Tir ac eiddo (yn agor tudalen Saesneg).

Prynu teithio a llety i’w hailwerthu i ddisgyblion

Os bydd ysgol yn ‘prynu i mewn’ gwasanaethau teithio sy’n gysylltiedig â thaith ysgol (er enghraifft, cludiant neu lety) sydd wedyn yn cael eu hailwerthu i ddisgyblion, gellir ei thrin fel gweithredwr teithiau at ddibenion TAW.

Yn yr achosion hyn, mae’n rhaid i’r ysgol ddefnyddio’r Cynllun Gorswm Gweithredwyr Teithiau i roi cyfrif am y TAW ar y teithiau. Ceir rhagor o wybodaeth am weithredwyr teithiau a’r Cynllun Gorswm Gweithredwyr Teithiau yn:

Cael rhagor o wybodaeth

Gwybodaeth gyffredinol am:

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 10 October 2024

Sign up for emails or print this page