Gwerthu neu symud nwyddau rhwng Gogledd Iwerddon a’r UE

Mae angen rhif cofrestru TAW arnoch sy’n dechrau gydag XI i fasnachu o dan Brotocol Gogledd Iwerddon.

Rydych yn gymwys i weithredu o dan delerau Protocol Gogledd Iwerddon os yw unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • mae’ch nwyddau wedi’u lleoli yng Ngogledd Iwerddon ar adeg eu gwerthu

  • rydych yn cael nwyddau yng Ngogledd Iwerddon gan fusnesau yn yr UE sydd wedi’u cofrestru ar gyfer TAW at ddibenion busnes

  • rydych yn gwerthu neu’n symud nwyddau o Ogledd Iwerddon i wlad yn yr UE

Gwiriwch a ydych eisoes wedi’ch adnabod fel masnachu o dan Brotocol Gogledd Iwerddon.

Bydd rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) yn ei helpu i nodi eich bod yn masnachu o dan Brotocol Gogledd Iwerddon. Bydd hyn yn golygu’r canlynol:

  • gallwch ddefnyddio symleiddiadau TAW wrth i chi fasnachu â’r UE

  • gall eich cyflenwyr godi tâl ar nwyddau y maent yn eu hanfon atoch o’r UE ar gyfradd sero

  • gall eich masnach â’r UE gael ei rhestru o hyd fel ‘caffaeliadau ac anfoniadau’ ar eich Ffurflen TAW

Rhoi gwybod i CThEF eich bod yn gymwys

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i roi gwybod i CThEF eich bod yn gymwys.

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • y Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’r cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth a ddefnyddioch wrth gofrestru ar gyfer TAW

  • eich rhif cofrestru TAW

  • enw’ch busnes

Ar ôl i chi roi gwybod i CThEF

Cewch e-bost gan CThEF i gadarnhau eich bod wedi cael eich cofnodi fel un sy’n gweithredu o dan Brotocol Gogledd Iwerddon.

Ar ôl i chi gael yr e-bost, bydd angen i chi ddechrau defnyddio’r rhagddodiad XI cyn eich rhif cofrestru TAW arferol – er enghraifft, XI 123456789 yn lle GB 123456789.

Defnyddio’ch rhif cofrestru TAW XI

Mae’n rhaid i chi ddefnyddio’ch rhif cofrestru TAW XI ar bob dogfen wrth gyfathrebu â chwsmeriaid neu gyflenwyr yn yr UE (er enghraifft, ar anfonebau).

Os ydych yn gwerthu nwyddau o Ogledd Iwerddon i gwsmeriaid sydd wedi’u cofrestru ar gyfer TAW yn yr UE, cwblhewch Restr Gwerthiannau yn y GE (yn agor tudalen Saesneg).

Os na fyddwch yn rhoi gwybod i CThEF neu’n defnyddio rhif cofrestru TAW XI, gallai olygu eich bod yn talu neu’n codi’r TAW anghywir ar nwyddau.

Os ydych wedi rhoi’r gorau i werthu neu symud nwyddau yng Ngogledd Iwerddon

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i roi gwybod i CThEF eich bod wedi rhoi’r gorau i werthu neu symud nwyddau yng Ngogledd Iwerddon.

Mae’n rhaid i chi gwblhau unrhyw rwymedigaethau sydd gennych ar gyfer y cynlluniau canlynol cyn i chi ddirymu’ch statws masnachwr yng Ngogledd Iwerddon:

  • Ffurflenni Treth cynllun undeb y Gwasanaeth Un Cam (GUC) ar gyfer TAW

  • rhestr gwerthiannau yn y GE

  • ad-daliadau TAW yr UE

Ni fyddwch yn gallu cwblhau unrhyw rwymedigaethau ar gyfer y cynlluniau hyn unwaith y byddwch wedi rhoi gwybod i CThEF eich bod yn dymuno dirymu’ch statws.