Pryd i lenwi Ffurflen TAW

Mae Ffurflen TAW yn ffurflen rydych yn ei llenwi er mwyn rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) faint o TAW rydych wedi ei chodi a faint rydych wedi ei dalu i fusnesau eraill.

Fel arfer, mae angen i chi anfon Ffurflen TAW i CThEF bob 3 mis. Gelwir hyn eich ‘cyfnod cyfrifyddu’.

Os ydych wedi cofrestru ar gyfer TAW, mae’n rhaid i chi gyflwyno Ffurflen TAW hyd yn oed os nad oes gennych TAW i’w thalu neu ei hadennill.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Dyddiadau cau

Fel arfer, y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’ch Ffurflen TAW ar-lein yw un mis calendr a 7 diwrnod ar ôl diwedd cyfnod cyfrifyddu. Dyma’r dyddiad cau ar gyfer talu CThEF hefyd. Dylech ganiatáu digon o amser i’r taliad gyrraedd cyfrif CThEF.

Gallwch ddefnyddio eich cyfrif ar-lein er mwyn:

  • cael gwybod pryd mae dyddiadau cau eich Ffurflenni TAW

  • cael gwybod pryd mae’n rhaid i’r taliad glirio cyfrif CThEF

  • gwirio ac apelio yn erbyn cosbau

Os ydych yn defnyddio’r Cynllun Cyfrifyddu Blynyddol TAW (yn agor tudalen Saesneg), gallwch drefnu e-bost atgoffa bob tro y bydd angen cyflwyno’ch Ffurflen TAW drwy eich cyfrif ar-lein.