Beth i’w gynnwys yn eich Ffurflen TAW

Bydd angen i chi gynnwys:

  • cyfanswm eich gwerthiannau a phryniannau

  • swm y TAW sydd arnoch

  • swm y TAW y gallwch ei adhawlio

  • swm y TAW sy’n ddyledus i chi gan Gyllid a Thollau EF (CThEF) (os ydych yn adennill TAW ar dreuliau busnes)

Mae’n rhaid i chi gynnwys y TAW ar werth llawn yr hyn a werthwch, hyd yn oed os:

  • ydych yn cael nwyddau neu wasanaethau yn lle arian - er enghraifft os ydych yn cael rhywbeth mewn rhan-gyfnewid

  • nad ydych wedi codi unrhyw TAW ar y cwsmer - caiff pa bynnag bris y codwch ei drin fel pe bai’n cynnwys TAW

Darllenwch yr arweiniad am lenwi eich Ffurflen TAW (yn agor tudalen Saesneg).

Os ydych wedi cofrestru ar gyfer TAW yng Ngogledd Iwerddon, mae’n rhaid i chi gynnwys gwerthiannau yn yr UE ar eich Ffurflen TAW a llenwi Rhestr Gwerthiannau yn y GE (yn agor tudalen Saesneg).

Bydd CThEF yn gallu codi cosb hyd at 100% o unrhyw dreth a danddatganwyd neu a or-hawliwyd os ydych yn anfon Ffurflen TAW anghywir.

Rhoi cyfrif am TAW mewnforio

Gallwch roi cyfrif am TAW mewnforio ar eich Ffurflen TAW drwy ddefnyddio ‘cyfrifyddu TAW gohiriedig’. Mae hyn yn eich galluogi i ddatgan TAW mewnforio a’i hadennill fel traul busnes ar yr un Ffurflen TAW.

Defnyddio ffigurau wedi’u hamcangyfrif

Gofynnwch i CThEF am ganiatâd i ddefnyddio ffigurau wedi’u hamcangyfrif. Bydd angen rheswm da arnoch pam na allwch roi ffigurau cywir ar eich Ffurflen TAW.

Os oes caniatâd gennych, ni chodir cosb arnoch oni bai eich bod yn methu’r dyddiad cau neu’n gwneud gwall esgeulus neu fwriadol. Fel arfer, bydd angen i chi roi’r ffigurau cywir yn eich Ffurflen TAW nesaf.

Hawlio rhyddhad ar ddrwgddyledion

Os nad yw cwsmer yn eich talu ar gyfer nwyddau neu wasanaethau, gallwch ddileu’r anfoneb fel ‘drwgddyled’. Os ydych yn y sefyllfa hon, mae’n bosibl y bydd modd i chi hawlio rhyddhad rhag TAW.

Er mwyn bod yn gymwys am y rhyddhad:

  • rhaid bod y ddyled yn hŷn na 6 mis

  • rhaid i chi gyflwyno’ch hawliad cyn pen 4 blynedd a 6 mis o ddyddiad yr oedd y taliad yn ddyledus neu’r dyddiad cyflenwi (p’un bynnag oedd yn hwyrach)

  • rhaid eich bod heb werthu’r ddyled yn ei blaen

  • rhaid eich bod heb godi mwy na’r pris arferol am yr eitem

Mae’n rhaid i chi gadw cofnodion o’r ddyled. Cyflwynwch eich hawliad am ad-daliad yn eich Ffurflen TAW.