Cyflwyno Ffurflen TAW
Sut i anfon eich Ffurflen TAW
Mae’n rhaid i chi gyflwyno’ch Ffurflen TAW gan ddefnyddio meddalwedd sy’n cydweddu â’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol.
Gwiriwch pa feddalwedd y gallwch ei defnyddio i gyflwyno’ch Ffurflen TAW.
Mae gwahanol ffyrdd o anfon eich Ffurflen TAW os yw’r canlynol yn berthnasol:
-
rydych wedi canslo’ch cofrestriad TAW
-
rydych wedi’ch esemptio rhag Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
-
mae’ch busnes yn destun gweithdrefn ansolfedd
Os ydych wedi canslo’ch cofrestriad TAW
Ni allwch anfon Ffurflenni TAW gan ddefnyddio meddalwedd sy’n cydweddu â’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol os nad ydych bellach wedi cofrestru ar gyfer TAW. Bydd angen i chi anfon unrhyw ffurflenni gan ddefnyddio’ch cyfrif TAW ar-lein.
Os ydych wedi’ch esemptio rhag Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Gallwch gyflwyno’ch Ffurflen TAW drwy’r post neu drwy gyfrif TAW ar-lein dim ond os ydych wedi’ch esemptio rhag Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer TAW (yn agor tudalen Saesneg).
Er enghraifft, os yw’r canlynol yn wir:
-
rydych yn gwrthwynebu defnyddio cyfrifiaduron oherwydd rhesymau crefyddol
-
nid oes modd i chi ddefnyddio’r rhyngrwyd
Dysgwch sut i anfon ffurflenni TAW os ydych wedi’ch esemptio (yn agor tudalen Saesneg).
Gall Cyllid a Thollau EF godi cosb o hyd at £400 arnoch os byddwch yn cyflwyno Ffurflen TAW ar bapur ac nad ydych wedi’ch esemptio.
Os yw’ch busnes yn destun gweithdrefn ansolfedd
Mae’n rhaid i chi anfon Ffurflen TAW ar bapur (yn agor tudalen Saesneg) oni bai bod gennych y naill neu’r llall o’r canlynol:
Os oes gennych y naill drefniant neu’r llall, gallwch ddewis i anfon Ffurflen TAW ar bapur neu lenwi’r ffurflen gan ddefnyddio’ch cyfrif TAW ar-lein.
Ar ôl i chi anfon eich Ffurflen TAW
Mae’n rhaid i chi dalu’ch bil TAW erbyn y dyddiad dyledus a ddangosir ar eich Ffurflen TAW.