Help gyda threth

Gallwch gael help os nad ydych yn deall rhywbeth am eich treth, er enghraifft Ffurflenni Treth, lwfansau a chodau treth.

Gallwch hefyd gael help a chymorth gyda Hunanasesiad.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Cael help gan CThEF

Ar gyfer ymholiadau syml, gallwch gysylltu â Chyllid a Thollau EF (CThEF). Dylech hefyd gysylltu â nhw yn y lle cyntaf os yw’r canlynol yn wir:

Os ydych ar incwm isel

Os na all CThEF helpu a’ch bod ar incwm isel (hyd at tua £380 yr wythnos), mae’n bosibl y gallwch gael cyngor proffesiynol rhad ac am ddim. Mae hyn yn cynnwys help gyda llenwi ffurflenni a beth i’w wneud os oes arnoch arian i CThEF. Cyswllt:

Cael help gan deulu neu ffrindiau

Gallwch roi caniatâd i ffrind neu aelod o’r teulu (‘cynorthwyydd dibynadwy’) penodi rhywun i ddelio â CThEF ar eich (yn agor tudalen Saesneg) am bethau fel bwrw golwg ar eich amcangyfrif Treth Incwm, siarad â CThEF neu’ch helpu i lenwi ffurflenni.

Cyflogi gweithiwr proffesiynol

Mae’n bosibl y bydd cyfrifydd neu gynghorydd treth yn gallu eich helpu gyda’ch treth. Bydd angen i chi awdurdodi cyfrifydd neu gynghorydd treth (yn agor tudalen Saesneg) i ddelio â CThEF ar eich rhan.