Cael help gan CThEF os oes angen cymorth ychwanegol arnoch
Help y gallwch ei gael
Gallwch gael cymorth ychwanegol os yw’ch cyflwr iechyd neu’ch amgylchiadau personol yn ei gwneud yn anodd wrth i chi gysylltu â Chyllid a Thollau EF (CThEF). Er enghraifft:
- mae gennych ddyslecsia, awtistiaeth neu anawsterau gwybyddol
- mae gennych anawsterau symud neu anableddau corfforol
- mae gennych anableddau synhwyraidd, megis nam ar y golwg, clyw neu leferydd
- mae gennych gyflyrau iechyd meddwl, megis iselder, straen neu orbryder
- rydych yn profi caledi ariannol – er enghraifft, ni allwch fforddio hanfodion megis bwyd, biliau neu rent
- rydych yn dioddef cam-drin domestig, gan gynnwys cam-drin economaidd
- rydych yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch, gallwch gael apwyntiad dros y ffôn neu fideo gyda’r tîm cymorth ychwanegol. Gofynnwch i’ch ymgynghorydd pan fyddwch yn ffonio llinell gymorth CThEF neu defnyddiwch wasanaeth sgwrsio dros y we (yn Saesneg) y tîm cymorth ychwanegol.
Cysylltwch â gwasanaethau ar-lein CThEF os ydych yn cael problemau wrth fewngofnodi neu ddefnyddio gwasanaeth ar-lein CThEF.
Mae gwahanol ffyrdd o gysylltu â CThEF os oes angen: