Cael help gan CThEF os oes angen cymorth ychwanegol arnoch
Os oes angen help arnoch i lenwi ffurflenni
Gall Cyllid a Thollau EF (CThEF) eich helpu i lenwi ffurflenni. Efallai y bydd angen help arnoch os yw’r canlynol yn wir:
- mae gennych gyflwr iechyd meddwl, megis iselder, straen neu orbryder
- mae gennych nam ar eich golwg, dyslecsia, awtistiaeth neu anawsterau gwybyddol
- mae gennych gyflwr arall sy’n ei gwneud hi’n anodd i chi lenwi ffurflenni
- rydych yn profi caledi ariannol – er enghraifft, ni allwch fforddio hanfodion megis bwyd, biliau neu rent
- rydych yn dioddef cam-drin domestig, gan gynnwys cam-drin economaidd
I gael help i lenwi ffurflenni, ffoniwch Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF a rhoi gwybod pa help sydd ei angen arnoch. Byddant yn eich trosglwyddo i dîm cymorth ychwanegol CThEF, pe bai angen.
Gallwch hefyd gysylltu â thîm cymorth ychwanegol CThEF drwy sgwrs dros y we (yn Saesneg).