Cael help gan CThEF os oes angen cymorth ychwanegol arnoch
Os oes angen gwybodaeth arnoch mewn fformat gwahanol
Mae gwybodaeth Cyllid a Thollau EF (CThEF) ar gael mewn fformatau hygyrch. Efallai y bydd angen fformat arall arnoch os yw’r canlynol yn wir:
- mae gennych nam ar eich golwg
- mae gennych ddyslecsia neu awtistiaeth
- mae gennych gyflwr arall sy’n gwneud print safonol yn anodd
Cysylltwch â CThEF os oes angen ffurflen, taflen neu wybodaeth arall arnoch yn unrhyw un o’r fformatau canlynol:
- Braille
- print bras
- ar sain ar CD
- testun ar CD (mewn print safonol neu brint bras)
- fformatau eraill, er enghraifft papur lliw
Ffoniwch Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF a rhoi gwybod pa help sydd ei angen arnoch. Er enghraifft, gallwch ffonio Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF i ofyn am Ffurflen Dreth mewn print bras. Byddant yn eich trosglwyddo i dîm cymorth ychwanegol CThEF, pe bai angen.
Gallwch hefyd gysylltu â thîm cymorth ychwanegol CThEF drwy sgwrs dros y we (yn Saesneg).