Penodi rhywun i ddelio â CThEF ar eich rhan
Gallwch awdurdodi rhywun arall i ddelio â Chyllid a Thollau EF (CThEF) ar eich rhan, er enghraifft cyfrifydd, ffrind neu berthynas.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Os bydd yn rhaid i chi lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad, bydd CThEF yn anfon pob gohebiaeth, oni bai am filiau treth ac ad-daliadau, at y person yr ydych wedi’i awdurdodi. Fel arall, bydd CThEF yn parhau i ysgrifennu atoch chi.
Os oes angen i rywun eich helpu gyda’ch Hunanasesiad yn y byr dymor, ffoniwch CThEF. Mae’n rhaid i’r person sy’n eich help fod wrth eich ymyl pan fyddwch yn ffonio – bydd CThEF yn cadarnhau pwy ydyw a sicrhau ei fod yn hapus i’ch cynrychioli chi.
Awdurdodi asiant i ddelio â’ch materion treth
Gall asiant sy’n cael ei dalu fod yn un o’r canlynol:
-
cyfrifydd proffesiynol
-
ymgynghorydd treth
Mae’n rhaid iddo fodloni safon CThEF ar gyfer asiantau.
Mae’n rhaid i chi awdurdodi’ch asiant cyn iddo allu delio â CThEF ar eich rhan. Bydd CThEF yn rhoi gwybod i chi sut i wneud hyn.
Os ydych yn asiant, gallwch gael gwybod sut i gael awdurdod gan eich cleient (yn agor tudalen Saesneg).
Yn dibynnu ar ba fath o awdurdod yr ydych wedi’i roi, bydd eich asiant yn gallu delio â’ch materion treth, megis cyflwyno’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
Gall cynghorydd cyfreithiol neu gyfreithiwr (yn agor tudalen Saesneg) hefyd eich helpu gyda materion fel Treth Etifeddiant a threthi sy’n gysylltiedig â phrynu a gwerthu eiddo.
Awdurdodi ffrind neu berthynas i ddelio â’ch treth ar-lein
Gallwch ofyn i ffrind neu aelod o’ch teulu gofrestru er mwyn delio â’ch treth ar-lein – yr enw ar hyn yw ‘Cynorthwyydd Dibynadwy’.
Gall eich Cynorthwyydd Dibynadwy wneud y canlynol:
-
gwirio eich bod yn talu’r swm cywir o Dreth Incwm
-
gwirio neu ddiweddaru eich cyfrif treth personol
-
gwirio neu ddiweddaru eich buddiannau trethadwy (ceir cwmni neu yswiriant meddygol yn unig)
-
gwirio’ch Pensiwn y Wladwriaeth
-
bwrw golwg dros eich cofnod Yswiriant Gwladol
Ni all eich Cynorthwyydd Dibynadwy ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i helpu chi gyda’ch Hunanasesiad neu’ch hawliadau credydau treth.
Byddwch yn dal i fod yn gyfrifol yn ôl y gyfraith am eich treth eich hunan.
Awdurdodi ffrind, perthynas neu sefydliad gwirfoddol i weithredu fel cyfranogwr
Gallwch drefnu i gael ‘cyfranogwr’ i ddelio â CThEF ar eich rhan. Efallai y byddech am wneud hyn os ydych yn sâl, os oes anabledd gennych, neu ni allwch siarad Cymraeg na Saesneg
Gall cyfranogwr wneud y canlynol:
-
siarad â CThEF ac ateb unrhyw gwestiynau ar eich rhan
-
eich helpu i lenwi ffurflenni
Ni fydd gan gyfranogwr fynediad at eich treth ar-lein.
Bydd yn rhaid i chi ysgrifennu at CThEF er mwyn awdurdodi cyfranogwr i’ch helpu i ddelio â’ch treth.
Swyddfa Cyfraniadau Yswiriant Gwladol a Chyflogwyr
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST
Mae’n rhaid i’r llythyr gynnwys y canlynol:
-
eich enw a’ch cyfeiriad
-
eich cyfeirnod treth, er enghraifft eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR)
-
enw a chyfeiriad y person neu sefydliad yr hoffech ei awdurdodi
-
eich llofnod
Os ni allwch lofnodi’r llythyr, bydd angen i chi gysylltu â CThEF neu gael rhywun arall i wneud hynny ar eich rhan.
Rhoi pŵer atwrnai i rywun ar gyfer eich materion treth
Gallwch roi pŵer atwrnai i rywun ar gyfer eich materion treth, er enghraifft drwy sefydlu pŵer atwrnai arhosol.
Yn dibynnu ar sut rydych yn penderfynu sefydlu’r pŵer atwrnai, efallai y bydd y person yn gallu:
-
gwneud penderfyniadau treth ar eich rhan
-
eich helpu i wneud penderfyniadau treth
Os daw adeg yn y dyfodol pan na allwch wneud eich penderfyniadau eich hun, ond nad ydych wedi rhoi pŵer atwrnai i unrhyw un, gall person arall sefydlu dirprwyaeth ar gyfer eiddo a materion ariannol. Yna bydd yn gallu rheoli’ch materion treth.
Ar ôl i’r pŵer atwrnai cofrestredig ddod i law’r person sy’n eich helpu, bydd angen i’r person hwnnw roi gwybod i CThEF, fel bod CThEF yn gallu diweddaru ei gofnodion.
Rhoi gwybod i CThEF am y pŵer atwrnai dros y ffôn
Gall y person sy’n eich helpu roi gwybod i CThEF dros y ffôn, os yw pob un o’r canlynol yn wir:
-
cofrestrwyd y pŵer atwrnai arhosol ar neu ar ôl 1 Ionawr 2016 yng Nghymru neu Loegr
-
mae gan y person gyfrif ar-lein ar gyfer pŵer atwrnai arhosol
-
mae’n gallu gwneud penderfyniadau ynghylch eiddo a materion ariannol
Bydd angen i’r person sy’n eich helpu gysylltu â CThEF (yn agor tudalen Saesneg), gan ddefnyddio’r llinell gymorth berthnasol.
Pan fydd y person sy’n eich helpu yn ffonio CThEF, bydd angen iddo ddarparu cod mynediad, fel bod CThEF yn gallu gwirio bod y pŵer atwrnai arhosol yn ddilys.
Er mwyn cael cod mynediad, bydd angen i’r person sy’n eich helpu fewngofnodi i’w gyfrif ar-lein ar gyfer pŵer atwrnai arhosol. Mae cod mynediad yn 13 o gymeriadau ac yn dechrau gyda V, er enghraifft V-AB12-CD34-EF56.
Rhoddir codau mynediad dros y ffôn yn unig – ni ellir eu hanfon drwy’r post.
Ar ôl cadarnhau bod y pŵer atwrnai arhosol yn ddilys, bydd CThEF yn gallu diweddaru ei gofnodion treth a thrafod ymholiadau treth gyda’r person sy’n eich helpu.
Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen i CThEF weld naill ai copi gwreiddiol neu gopi ardystiedig o’r pŵer atwrnai arhosol. Bydd yn rhoi gwybod i chi os mai dyma’r achos.
Rhoi gwybod i CThEF am y pŵer atwrnai drwy’r post
Gall y person sy’n eich helpu roi gwybod i CThEF drwy anfon y naill neu’r llall o’r canlynol:
-
copi gwreiddiol o’r pŵer atwrnai arhosol
-
copi ardystiedig o’r pŵer atwrnai arhosol
Dysgwch sut i ardystio copi o bŵer atwrnai arhosol neu sut i ardystio mathau eraill o bŵer atwrnai (yn agor tudalen Saesneg).
Os yw’r person yn y DU a’ch bod am iddo reoli’ch credydau treth, gall anfon y copi gwreiddiol neu’r copi ardystiedig i:
Swyddfa Credydau Treth
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST
Os yw’r person yn y DU a’ch bod am iddo reoli unrhyw faterion treth eraill, gall anfon y copi gwreiddiol neu’r copi ardystiedig i:
Talu Wrth Ennill a Hunanasesiad
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST
Y Deyrnas Unedig
Os yw’r person y tu allan i’r DU a’ch bod am iddo reoli unrhyw faterion treth, gall anfon y copi gwreiddiol neu’r copi ardystiedig i:
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST
Caiff y copi ei ddychwelyd iddo. Ar ôl hynny, os gwnaeth anfon llythyr ynghyd â’r copi, dylai gael llythyr oddi wrth CThEF mewn ymateb. Ni ddylai fod angen iddo anfon copi eto, oni bai bod manylion y pŵer atwrnai yn newid.