Gwneud, cofrestru neu roi terfyn ar atwrneiaeth arhosol
Trosolwg
Mae atwrneiaeth arhosol (LPA) yn ddogfen gyfreithiol sy’n gadael i chi (y ‘rhoddwr’) benodi un neu fwy o bobl (a elwir yn ‘atwrneiod’) i’ch helpu i wneud penderfyniadau neu i wneud penderfyniadau ar eich rhan.
Mae hyn yn rhoi mwy o reolaeth i chi dros beth fydd yn digwydd i chi os cewch ddamwain neu salwch ac os na fyddwch yn gallu gwneud eich penderfyniadau eich hun (byddwch ‘heb alluedd meddyliol’).
Mae’n rhaid i chi fod yn 18 oed neu’n hŷn a bod â galluedd meddyliol (gallu gwneud eich penderfyniadau eich hun) pan rydych yn gwneud eich LPA.
Nid oes rhaid i chi fyw yn y DU na bod yn ddinesydd Prydeinig.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Mae 2 fath o atwrneiaeth arhosol:
- iechyd a lles
- eiddo a materion ariannol
Gallwch ddewis gwneud un math neu’r ddau.
Mae proses wahanol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Sut i wneud atwrneiaeth arhosol
-
Dewiswch eich atwrnai (gallwch gael mwy nag un).
-
Llenwch y ffurflenni i’w penodi fel atwrnai.
-
Cofrestrwch eich LPA gyda Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (gall hyn gymryd hyd at 16 wythnos).
Mae’n costio £82 i gofrestru LPA oni bai eich bod yn cael gostyngiad neu esemptiad.
Gallwch ganslo eich LPA os nad oes arnoch ei hangen mwyach neu os ydych eisiau gwneud un newydd.
Atwrneiaeth arhosol iechyd a lles
Defnyddiwch yr LPA hon i roi pŵer i atwrnai wneud penderfyniadau am bethau fel:
- eich trefn ddyddiol, er enghraifft, ymolchi, gwisgo, bwyta
- gofal meddygol
- symud i gartref gofal
- triniaeth cynnal bywyd
Dim ond pan nad ydych yn gallu gwneud eich penderfyniadau eich hun y bydd yn cael ei defnyddio.
Atwrneiaeth arhosol eiddo a materion ariannol
Defnyddiwch yr LPA hon i roi i atwrnai bŵer i wneud penderfyniadau am arian ac eiddo ar eich rhan chi, er enghraifft:
- rheoli cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu
- talu biliau
- casglu budd-daliadau neu bensiwn
- gwerthu eich cartref
Gellir ei defnyddio cyn gynted ag y mae wedi’i chofrestru, gyda’ch caniatâd chi.
Help i benderfynu a ddylech wneud atwrneiaeth arhosol
Cysylltwch â Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus os oes arnoch angen help.
Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
customerservices@publicguardian.gov.uk
Ffôn (yn Saesneg yn unig): 0300 456 0300
Ffôn testun (yn Saesneg yn unig): 0115 934 2778
Dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau, dydd Gwener, 9am tan 5pm
Dydd Mercher, 10am tan 5pm
Gwybodaeth am ffioedd galw
Os hoffech siarad Cymraeg, anfonwch ebost i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus