Gwneud, cofrestru neu roi terfyn ar atwrneiaeth arhosol

Sgipio cynnwys

Newidiadau y mae angen i chi roi gwybod amdanynt

Mae’n rhaid i chi (os oes gennych chi alluedd meddyliol) neu un o’ch atwrneiod roi gwybod i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus am y canlynol:

  • os ydych chi neu atwrnai yn newid enw neu gyfeiriad

  • os bydd atwrnai yn marw

Os ydych chi neu atwrnai yn newid enw neu gyfeiriad

Rhaid i chi roi gwybod i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus os byddwch chi neu’ch atwrnai yn newid enw ac anfon copi o’r dystysgrif priodas neu’r ddogfen gweithred newid enw sy’n dangos yr enw newydd. Peidiwch ag anfon unrhyw ddogfennau gwreiddiol.

Rhaid i chi ddweud wrth Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus os byddwch chi neu’ch atwrnai yn newid cyfeiriad, ond nid oes angen i chi anfon unrhyw ddogfennau ategol.

Peidiwch â gwneud newidiadau i’r ddogfen atwrneiaeth arhosol ei hun, gan y gallai hyn achosi iddi fod yn annilys.

Os bydd un o’ch atwrneiod yn marw

Rhaid i chi roi gwybod i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ac anfon yr LPA wreiddiol a phob copi ardystiedig iddynt.

Os bu farw’r atwrnai tu allan i’r Deyrnas Unedig, rhaid i chi hefyd anfon copi o’r dystysgrif marwolaeth.

Beth fydd yn digwydd i’r LPA bresennol

Bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn canslo’r LPA os bydd y rhoddwr yn marw, neu os bydd atwrnai’n marw a naill ai:

  • roedd rhaid i’r atwrneiod wneud pob penderfyniad gyda’i gilydd - gelwir hyn yn ‘gweithredu ar y cyd’
  • dim ond un atwrnai oedd yna

Bydd LPA sydd wedi’i chanslo hefyd yn cael ei dinistrio. Ond os hoffech i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ei hanfon yn ôl yn hytrach na’i dinistrio, dylech gynnwys nodyn yn gofyn iddi gael ei dychwelyd a chynnwys cyfeiriad dychwelyd.

Os bydd atwrnai’n marw a bod yr atwrneiod yn gallu gwneud unrhyw benderfyniadau ar wahân (a elwir yn ‘gweithredu ar y cyd ac yn unigol’), bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad yn diweddaru’r LPA yn hynny o beth. Mae’n rhaid i chi gynnwys cyfeiriad dychwelyd pan fyddwch yn anfon yr LPA.

Cysylltu â Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
customerservices@publicguardian.gov.uk
Ffôn (yn Saesneg yn unig): 0300 456 0300
Ffôn testun (yn Saesneg yn unig): 0115 934 2778
Dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau, dydd Gwener, 9am tan 5pm
Dydd Mercher, 10am tan 5pm
Gwybodaeth am gost galwadau
Os hoffech siarad Cymraeg, anfonwch ebost i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus / Office of the Public Guardian
PO Box 16185
Birmingham
B2 2WH

Os byddwch yn anfon e-bost neu’n ysgrifennu at Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, dylech gynnwys:

  • eich enw llawn, eich cyfeiriad a’ch dyddiad geni
  • nodi’n glir ai chi yw’r atwrnai neu’r rhoddwr
  • enw llawn y rhoddwr, ei gyfeiriad a’i ddyddiad geni (os mai chi yw’r atwrnai)
  • y cyfeirnod ar eich atwrneiaeth arhosol