Gwneud penderfyniadau dros rywun

Sgipio cynnwys

Gwirio galluedd meddyliol

Efallai na fydd gan berson alluedd meddyliol oherwydd problem gyda’r ffordd y mae eu hymennydd yn gweithio, er enghraifft:

  • anaf difrifol i’r ymennydd
  • salwch fel dementia
  • anableddau dysgu difrifol

Gall galluedd meddyliol fynd a dod (er enghraifft gyda dementia a rhai mathau eraill o salwch meddwl). Gall person hefyd adennill eu galluedd meddyliol (er enghraifft, yn dilyn strôc ddrwg).

Beth y mae’n rhaid i chi ei wirio

Rhaid i chi wirio bod gan berson alluedd meddyliol i wneud penderfyniad ar yr adeg y mae angen gwneud y penderfyniad.

Medrant wneud y penderfyniad os ydynt:

  • yn deall y wybodaeth sydd ei angen arnynt – er enghraifft, beth fydd y canlyniadau
  • yn cofio’r wybodaeth am ddigon hir i wneud y penderfyniad
  • yn pwyso a mesur yr opsiynau ac yn gwneud dewis
  • yn cyfathrebu eu penderfyniad mewn unrhyw ffordd – er enghraifft, drwy wasgu llaw / blincio

Ni allwch benderfynu bod person heb alluedd oherwydd y credwch eu bod wedi gwneud penderfyniad gwael neu ryfedd.

Os na all y person wneud penderfyniad ar adeg benodol, medrant er hynny:

  • ei wneud rhywdro arall
  • gwneud penderfyniadau am bethau eraill

Peidiwch â gwneud penderfyniad drostynt os gall aros tan y medrant ei wneud eu hunain.

Cymorth i wirio galluedd meddyliol

Gallwch ofyn i feddyg y person neu i weithiwr meddygol proffesiynol arall asesu eu galluedd meddyliol.

Dylid dilyn cod ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol wrth wirio galluedd meddyliol rhywun.