Atwrneiaeth arhosol: gweithredu fel atwrnai
Trosolwg
Gallwch wneud penderfyniadau ar ran rhywun os byddant yn eich penodi gan ddefnyddio atwrneiaeth arhosol (LPA).
Gallwch gysylltu â GOV.UK i wneud cais am yr arweiniad hwn mewn fformat arall, er enghraifft mewn print bras neu braille.
Enw’r sawl sy’n eich penodi yw’r ‘rhoddwr’. Chi yw ei ‘atwrnai’.
Nid oes angen unrhyw brofiad cyfreithiol arnoch i weithredu fel atwrnai.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Cyn y byddwch yn dechrau gweithredu fel atwrnai
Paratowch drwy siarad â’r rhoddwr fel eich bod yn barod i wneud penderfyniadau er eu lles gorau. Er enghraifft, gofynnwch am eu cynlluniau ar gyfer eu harian neu sut y maent am gael gofal os ydynt yn mynd yn ddifrifol wael.
Gwnewch yn siŵr bod yr atwrneiaeth arhosol wedi’i chofrestru – ni allwch ddechrau gweithredu hyd nes y bydd wedi’i chofrestru. Gall gymryd hyd at 16 wythnos i gofrestru atwrneiaeth arhosol. Bydd atwrneiaeth arhosol gofrestredig yn cael ei stampio gyda ‘wedi’i dilysu gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus’.
Edrychwch ar y mathau o benderfyniadau y gallwch eu gwneud a phryd y gallwch ddechrau gweithredu fel:
Ar ôl i chi ddechrau gweithredu fel atwrnai
Mae’n rhaid i chi:
- ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau a gynhwyswyd gan y rhoddwr yn yr LPA
- ystyried unrhyw ddewisiadau a gynhwyswyd gan y rhoddwr yn yr LPA
- helpu’r rhoddwr i wneud ei benderfyniadau eu hun gymaint ag y gall wneud hynny
- gwneud unrhyw benderfyniadau er lles gorau’r rhoddwr
- parchu ei hawliau dynol a’i hawliau sifil
Rhaid i chi wneud y penderfyniadau eich hun - ni allwch ofyn i rywun eu gwneud ar eich rhan.
Darllenwch fwy am sut i wneud penderfyniadau ar ran rhywun arall gan gynnwys sut i gael help i wneud penderfyniadau anodd. Mae modd gwirio eich penderfyniadau.
Os nad chi yw’r unig atwrnai
Gwiriwch yr LPA. Bydd yn dweud wrthych a oes rhaid i chi wneud penderfyniadau:
-
‘ar y cyd’ - mae hyn yn golygu bod rhaid i’r holl atwrneiod gytuno
-
‘ar y cyd ac yn unigol’ - mae hyn yn golygu y gallwch wneud penderfyniadau gyda’ch gilydd neu ar eich liwt eich hun
Efallai y bydd yr LPA yn dweud wrthych am wneud rhai penderfyniadau ‘ar y cyd’ a phenderfyniadau eraill ‘ar y cyd ac yn unigol’.
Darllenwch fwy am beth i’w wneud os byddwch yn gwneud penderfyniadau ar y cyd â rhywun sy’n rhoi’r gorau i weithredu fel atwrnai.