Atwrneiaeth arhosol: gweithredu fel atwrnai
Atwrneiod ar gyfer eiddo a materion ariannol
Fel atwrnai ar gyfer eiddo a materion ariannol, rydych yn gwneud (neu’n helpu’r rhoddwr i wneud) penderfyniadau am bethau fel:
- arian, treth a biliau
- cyfrifon banc a chyfrifon cymdeithasau adeiladu
- eiddo a buddsoddiadau
- pensiynau a budd-daliadau
Gallwch ddechrau gwneud penderfyniadau tra bo’r rhoddwr yn dal i fod â galluedd meddyliol os yw’r:
-
atwrneiaeth arhosol yn dweud y cewch wneud hynny
-
mae’r rhoddwr yn rhoi caniatâd i chi
Fel arall, dim ond pan nad oes ganddynt alluedd meddyliol y gallwch ddechrau gwneud penderfyniadau.
Gallwch ddefnyddio arian y rhoddwr i edrych ar ôl ei gartref a phrynu unrhyw beth y mae arno ei angen o ddydd i ddydd (er enghraifft, bwyd).
Trafodwch benderfyniadau sy’n effeithio ar drefniadau byw’r rhoddwr, ei ofal meddygol neu ei drefn ddyddiol gyda’i atwrnai iechyd a lles, os oes ganddo un.
Enghraifft
Os byddwch yn penderfynu gwerthu cartref y rhoddwr, trafodwch ble y bydd y rhoddwr yn byw gyda’i atwrnai iechyd a lles.
Edrych ar ôl arian ac eiddo
Mae’n rhaid i chi gadw arian y rhoddwr ar wahân i’ch arian chi, oni bai bod gennych rywbeth gyda’ch gilydd fel cyfrif banc ar y cyd neu eich bod yn berchen ar gartref gyda’ch gilydd.
Rheoli arian a chyfrifon y rhoddwr
Bydd banciau a sefydliadau eraill (fel cwmnïau cyfleustodau a darparwyr pensiynau) yn gofyn am brawf eich bod yn atwrnai. Defnyddiwch eich atwrneiaeth arhosol i brofi y gallwch weithredu ar ran y rhoddwr.
Efallai y bydd angen i chi brofi manylion eraill, megis:
-
eich enw, eich cyfeiriad a’ch dyddiad geni
-
enw neu gyfeiriad y rhoddwr
Efallai y bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth arall hefyd, fel rhif cyfrif.
Gwario arian ar anrhegion a rhoddion
Oni bai bod yr LPA yn dweud fel arall, gallwch wario arian ar:
- anrhegion i ffrind, aelod o deulu neu rai a fo’n adnabod y rhoddwr ar adeg pan fyddech fel arfer yn rhoi anrhegion (fel pen-blwyddi neu unrhyw ddathliad arall)
- rhoi rhoddion i elusen na fyddai’r rhoddwr yn ei gwrthwynebu, er enghraifft elusen y maent wedi rhoi rhoddion iddi o’r blaen
Mae’n rhaid i chi wneud cais i’r Llys Gwarchod am unrhyw fath arall o rodd, hyd yn oed os yw’r rhoddwr wedi eu rhoi o’r blaen. Mae’r rhain yn cynnwys:
- talu ffioedd ysgol neu brifysgol rhywun
- gadael i rywun fyw yn eiddo’r rhoddwr heb dalu rhent y farchnad (mae unrhyw beth y maent yn ei dalu islaw rhent y farchnad yn cyfrif fel rhodd)
- benthyciadau di-log
Mae’n rhaid i chi wirio bod y rhoddwr yn gallu fforddio rhoi’r anrheg neu rodd, hyd yn oed os yw wedi gwario arian ar y mathau hyn o bethau o’r blaen. Er enghraifft, ni allwch roi ei arian i ffwrdd pe bai hynny’n golygu na allai fforddio talu ei gostau gofal.
Darllenwch y canllawiau i gael rhagor o wybodaeth am roi anrhegion neu roddion.
Prynu a gwerthu eiddo
Bydd angen i chi gael cyngor cyfreithiol:
- os yw’r gwerthiant yn is na gwerth y farchnad
- os ydych am brynu’r eiddo eich hun
- os ydych yn ei roi i rywun arall
Gwneud ewyllys
Gallwch wneud cais am ewyllys statudol os oes angen i’r rhoddwr wneud ewyllys ond na all ei wneud ei hun.
Ni chewch newid ewyllys y rhoddwr.
Gellir eich gorchymyn i ad-dalu arian y rhoddwr os ydych yn ei gamddefnyddio neu’n gwneud penderfyniadau er lles eich hun.