Helpu ffrindiau neu aelodau o’r teulu gyda’u treth
Cofrestrwch ar-lein fel ‘Cynorthwyydd Dibynadwy’ er mwyn helpu ffrind neu aelod o’ch teulu i wneud y canlynol:
- gwirio ei fod yn talu’r swm cywir o Dreth Incwm
- gwirio neu ddiweddaru ei gyfrif treth personol
- gwirio neu ddiweddaru ei fuddiannau trethadwy (ceir cwmni neu yswiriant meddygol yn unig)
Mae’n rhaid i’r person yr ydych yn ei helpu ddefnyddio’r gwasanaeth i dderbyn eich cofrestriad. Os na all fynd ar-lein, mae’n bosibl y byddwch yn gallu ffonio Cyllid a Thollau EF (CThEF) ar ei ran. Mae’n rhaid i chi fod yn yr un ystafell â’r person yr ydych yn ei helpu pan fyddwch yn ffonio.
Gallwch fod yn gynorthwyydd dibynadwy ar gyfer hyd at 5 person.
Bydd y person rydych yn ei helpu yn parhau i fod yn gyfrifol yn gyfreithiol am ei dreth ei hunan.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Bydd angen i chi fewngofnodi er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, byddwch yn gallu eu creu.
Cewch wybod pan rydych yn mewngofnodi a oes angen i chi brofi pwy ydych. Mae hyn er mwyn cadw’ch manylion yn ddiogel ac, fel arfer, bydd angen i chi ddefnyddio ID ffotograffig fel pasbort neu drwydded yrru i wneud hynny.
Ffonio CThEF ar ran rhywun arall
Os nad yw’r person rydych yn ei helpu yn gallu mynd ar-lein, gallwch ffonio CThEF ar ei ran er mwyn trafod unrhyw faterion treth
Mae’n rhaid i chi fod yn yr un ystafell â’r person yr ydych yn ei helpu. Bydd CThEF yn cadarnhau pwy ydyw ac yn gwirio’i fod yn hapus i chi ei gynrychioli.
Mae’n rhaid bod gennych ei rif Yswiriant Gwladol neu gyfeirnod treth wrth law pan fyddwch yn ffonio.
Mae’n rhaid i chi fod dros 16 oed os ydych yn cyfieithu ar y pryd ar gyfer rhywun nad yw’n siarad Cymraeg na Saesneg. Mae gan linellau cymorth CThEF wasanaethau ieithoedd tramor hefyd.
Darllenwch yr arweiniad ar wasanaethau CThEF os oes gennych chi, neu’r person rydych yn ei helpu, anabledd.