Cael tystiolaeth o hanes cyflogaeth
Gallwch ofyn i Gyllid a Thollau EF (CThEF) am gofnod o hanes eich cyflogaeth, er enghraifft os ydych:
-
yn hawlio iawndal (er enghraifft am anaf diwydiannol, damwain traffig neu hawliad esgeulustod meddygol)
-
yn gwneud cais am fenthyciad
-
yn adnewyddu fisa gwaith
Gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth hon eich hun neu gael cynghorydd cyfreithiol (yn agor tudalen Saesneg) neu asiant treth (yn agor tudalen Saesneg) i wneud hynny ar eich rhan.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Sut i gael hanes eich cyflogaeth
Gallwch gael cofnod o’r gyflogaeth gyfredol a’r pum mlynedd diwethaf drwy ddefnyddio:
Unwaith y byddwch wedi mewngofnodi, bydd angen i chi lywio i’ch cofnodion Treth Incwm Talu Wrth Ennill (TWE) i gael hanes eich cyflogaeth.
Gwneud cais drwy ddefnyddio ffurflen bapur
Gallwch hefyd lenwi’r ffurflen gais (yn agor tudalen Saesneg) am gofnod o unrhyw flwyddyn a’i hanfon at CThEF. Mae’r cyfeiriad ar y ffurflen.
Os ydych yn gwneud cais drwy gynghorydd cyfreithiol neu asiant treth, yn gyntaf bydd angen i chi roi caniatâd ysgrifenedig iddynt. Defnyddiwch y ffurflen caniatâd hanes cyflogaeth. Byddant yn cynnwys eich caniatâd gyda’ch cais.
Gwneud cais am hanes cyflogaeth ar ran rhywun sydd wedi marw
Gallwch wneud cais i gael hanes cyflogaeth rhywun sydd wedi marw os oes gennych hawl gyfreithiol i hawlio iawndal ar ran eu hystâd:
-
fel rhan o hawliad am anaf personol neu ddamwain angheuol
Sut i wneud cais
Llenwch y cais am hanes cyflogaeth am ffurflen person ymadawedig a’i hanfon at CThEF. Mae’r cyfeiriad ar y ffurflen.
Os yw cynrychiolydd proffesiynol (er enghraifft cyfreithiwr neu grwner) wedi rhoi’r ffurflen i chi, llenwch hi a’i dychwelyd atynt.
Ar ôl i chi wneud cais
Cysylltwch â’r Gwasanaethau Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os nad ydych wedi clywed gan CThEF ar ôl 40 diwrnod.