Gwneud cais i gael gofal plant sy’n rhad ac am ddim os ydych yn gweithio

Os ydych yn byw yn Lloegr, defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wneud cais am god er mwyn cael gofal plant sy’n rhad ac am ddim.

Gallwch gael y canlynol:

  • 15 awr yr wythnos os yw’ch plentyn rhwng 9 mis a 2 flwydd oed
  • 30 awr yr wythnos os yw’ch plentyn rhwng 3 a 4 oed

I wneud cais, bydd yn rhaid i chi greu cyfrif gofal plant.

Mae cynlluniau gwahanol yng Nghymru, yn yr Alban, ac yng Ngogledd Iwerddon.

Os ydych yn talu am ofal plant, a’ch bod am ddefnyddio Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth er mwyn cael help gyda chostau, gallwch hefyd wneud cais gan ddefnyddio’r gwasanaeth hwn.

Os byddwch yn gwneud cais am ofal plant sy’n rhad ac am ddim a bod rhywun arall eisoes yn hawlio Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth ar gyfer y plentyn hwnnw, ni fydd eich cais yn llwyddiannus.

Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Pryd i wneud cais am 15 awr o ofal plant sy’n rhad ac am ddim

Gallwch wneud cais o’r adeg pan fydd eich plentyn yn 23 wythnos oed.

Pryd bydd eich plentyn yn 9 mis oed O ba bryd y gallwch gael eich oriau Pryd i wneud cais
1 Medi i 31 Rhagfyr Tymor yn dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr Y tymor cyn 1 Ionawr
1 Ionawr i 31 Mawrth Tymor yn dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill Y tymor cyn 1 Ebrill
1 Ebrill i 31 Awst Tymor yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi Y tymor cyn 1 Medi

Holwch eich darparwr gofal plant i gael gwybod yn union pryd bydd eich gofal plant sy’n rhad ac am ddim yn dechrau.

Pryd i wneud cais am 30 awr o ofal plant sy’n rhad ac am ddim

Gallwch wneud cais o’r adeg pan fydd eich plentyn yn 2 flwydd a 36 wythnos oed.

Pen-blwydd eich plentyn yn 3 oed O ba bryd y gallwch gael eich oriau Pryd i wneud cais
1 Medi i 31 Rhagfyr Tymor yn dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr Y tymor cyn 1 Ionawr
1 Ionawr i 31 Mawrth Tymor yn dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill Y tymor cyn 1 Ebrill
1 Ebrill i 31 Awst Tymor yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi Y tymor cyn 1 Medi

Mae’n rhaid i chi wneud cais am god erbyn diwedd y mis cyn i’r tymor newydd ddechrau. Er enghraifft, os yw’r tymor yn dechrau ar 1 Medi mae’n rhaid i chi wneud cais erbyn 31 Awst. Gall darparwyr ofyn am god cyn y dyddiad cau hwn.

Holwch eich darparwr gofal plant i gael gwybod yn union pryd bydd eich gofal plant sy’n rhad ac am ddim yn dechrau.

Os ydych yn dychwelyd i’r gwaith neu’n dechrau swydd newydd

Bydd y dyddiad rydych yn dechrau neu’n dychwelyd i’r gwaith yn effeithio ar ba bryd y gallwch wneud cais am ofal plant sy’n rhad ac am ddim.

Dyddiad dechrau gweithio neu ddychwelyd i’r gwaith O ba bryd y gallwch gael eich oriau Pryd i wneud cais
1 Mai i 30 Medi Tymor yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 1 Ebrill i 31 Awst
1 Hydref i 31 Ionawr Tymor yn dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr 1 Medi i 31 Rhagfyr
1 Chwefror i 30 Ebrill Tymor yn dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 1 Ionawr i 31 Mawrth

Yr hyn sydd ei angen arnoch i wneud cais

Bydd angen eich manylion arnoch (a manylion eich partner, os oes gennych un), gan gynnwys eich:

  • rhif Yswiriant Gwladol
  • Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR), os ydych chi’n hunangyflogedig

Bydd angen y canlynol arnoch hefyd:

  • cyfeirnod tystysgrif geni’r DU (os oes gennych un) ar gyfer unrhyw blentyn rydych yn gwneud cais ar ei gyfer
  • y dyddiad y gwnaethoch ddechrau gweithio, neu’r dyddiad yr ydych yn bwriadu dechrau gweithio (gall y dyddiad hwn fod yn amcangyfrif os yw’n hirach na 3 mis yn ôl)

Os ydych yn gyfarwyddwr

Bydd angen i chi ddangos eich bod yn bodloni’r gofynion o ran isafswm incwm er mwyn bod yn gymwys. Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn ceisio gwirio hyn gan ddefnyddio’ch cofnodion TWE.

Os nad ydych yn cyflwyno gwybodaeth TWE yn rheolaidd, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi roi tystiolaeth i ddangos eich bod yn gweithio ac yn disgwyl bodloni’r gofynion o ran isafswm incwm am y 3 mis nesaf. Er enghraifft:

  • slipiau cyflog
  • cyfriflenni banc
  • datganiad gan eich cyfrifydd
  • copïau o anfonebau

Os nad ydych yn cael eich talu’n rheolaidd (er enghraifft, unwaith y flwyddyn) mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi anfon tystiolaeth arall i ddangos y byddwch yn bodloni’r gofynion o ran isafswm incwm, megis:

  • slipiau cyflog blynyddol
  • y gyflogres ar ddiwedd blwyddyn
  • llythyr gan eich asiant treth, neu’ch ymgynghorydd, yn cadarnhau bod eich cyflog wedi cael ei dalu a’i drethu

Bydd angen i chi wneud hyn pan fyddwch yn gwneud cais am y tro cyntaf, a phob tro y byddwch yn ail-gadarnhau eich bod yn gymwys.

Os oes gennych bartner

Mae’n rhaid i chi gynnwys eich partner yn eich cais os ydych naill ai:

  • yn briod neu mewn partneriaeth sifil ac yn byw gyda’ch gilydd
  • yn byw gyda’ch gilydd fel pe baech yn briod neu mewn partneriaeth sifil

Ni fydd ei gyflogaeth na’i incwm yn effeithio ar eich cymhwystra os yw’r naill neu’r llall o’r canlynol yn berthnasol:

  • mae’n absennol, neu mi fydd yn absennol, o’ch aelwyd am fwy na 6 mis
  • mae’n garcharor

Ni allwch chi a’ch partner fod â chod ar gyfer yr un plentyn.

Os ydych wedi gwahanu

Mae angen i chi a’ch cyn-bartner benderfynu pwy ddylai wneud cais os ydych chi’n gyd-gyfrifol am eich plentyn.

Os na allwch benderfynu, bydd angen i’r ddau ohonoch wneud cais ar wahân a bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn penderfynu pwy fydd yn cael cod gofal plant.

Gwneud cais am god

Fel arfer, mae’n cymryd 20 munud i wneud cais. Efallai y byddwch chi’n cael gwybod ar unwaith a ydych yn gymwys, ond mae’n gallu cymryd hyd at 7 diwrnod.

Ar ôl i’ch cais gael ei gymeradwyo, cewch god ar gyfer gofal plant sy’n rhad ac am ddim i’w roi i’ch darparwr gofal plant.

Dechrau nawr

Beth mae angen i chi wybod

Mae’n rhaid i chi ail-gadarnhau eich bod yn gymwys bob 3 mis. Os byddwch yn gwneud cais fwy na 3 mis cyn i’r tymor ddechrau, bydd yn rhaid i chi ail-gadarnhau eich bod yn gymwys yn eich cyfrif er mwyn cadw eich cod yn ddilys.

Sut y gallwch ddefnyddio eich gofal plant sy’n rhad ac am ddim

Os yw’ch plentyn rhwng 9 mis a 2 oed, efallai y gallwch gael 15 awr o ofal plant sy’n rhad ac am ddim bob wythnos am 38 wythnos y flwyddyn (yn ystod tymor yr ysgol).

Os yw’ch plentyn rhwng 3 a 4 oed, efallai y gallwch gael 30 awr o ofal plant sy’n rhad ac am ddim bob wythnos am 38 wythnos y flwyddyn (yn ystod tymor yr ysgol). 

Efallai y byddwch yn gallu cael gofal plant sy’n rhad ac am ddim am hyd at 52 wythnos y flwyddyn drwy ddewis llai o oriau dros fwy o wythnosau. Holwch eich darparwr gofal plant i weld a yw hyn yn rhywbeth mae’n ei gynnig.

Mae’r gofal plant:

  • yn gorfod bod gyda darparwr gofal plant cymeradwy
  • yn dod i ben pan fydd eich plentyn yn dechrau yn y dosbarth derbyn (neu’n cyrraedd oedran ysgol gorfodol, os yw’n hwyrach)

Costau ychwanegol

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am gostau ychwanegol megis: 

  • prydau bwyd
  • cewynnau
  • oriau ychwanegol
  • gweithgareddau ychwanegol, megis teithiau.

Ni ddylai’ch darparwr godi ffi arnoch ar gyfer cofrestru, na ffi atodol na ellir ei had-dalu.

Holwch eich darparwr ynghylch unrhyw gostau ychwanegol y bydd yn rhaid i chi eu talu.