Gwirio a ydych yn gymwys i gael gofal plant sy’n rhad ac am ddim os ydych yn gweithio

Mae’n bosibl y gallwch gael gofal plant yn rhad ac am ddim i’ch plentyn 9 mis i 4 oed os ydych yn byw yn Lloegr.

Mae faint o ofal plant rhad ac am ddim y gallwch ei gael yn dibynnu ar y canlynol:

  • oedran eich plentyn a’i amgylchiadau
  • p’un a ydych yn gweithio (yn gyflogedig, yn hunangyflogedig, neu’n gyfarwyddwr)
  • eich incwm (ac incwm eich partner, os oes gennych un)
  • eich statws mewnfudo

Os ydych wedi cofrestru’n barod, gallwch fewngofnodi i’ch cyfrif gofal plant.

Os ydych yn hawlio rhai budd-daliadau penodol, gallech fod yn gymwys i gael addysg a gofal plant sy’n rhad ac am ddim i blant 2 oed o dan gynllun ar wahân.

Mae:

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (in English).

Oedran eich plentyn a’i amgylchiadau

Mae nifer yr oriau o ofal plant sy’n rhad ac am ddim a gewch yn dibynnu ar oedran eich plentyn. Os yw eich plentyn yn:

  • 9 mis i 2 oed, gallwch gael 15 awr o ofal plant yn rhad ac am ddim yr wythnos
  • 3 i 4 oed, gallwch gael 30 awr o ofal plant yn rhad ac am ddim yr wythnos

Ni fyddwch yn gymwys os nad yw’ch plentyn yn byw gyda chi fel arfer.

Gofalwyr maeth

Os ydych yn maethu eich plentyn, gallwch hawlio gofal plant yn rhad ac am ddim os ydych yn gweithio, cyn belled â bod y canlynol yn berthnasol:

Ni allwch ddefnyddio’r ffurflen gais ar-lein i gael gofal plant sy’n rhad ac am ddim. Siaradwch â’ch gweithiwr cymdeithasol a’ch awdurdod lleol (yn agor tudalen Saesneg) os ydych am wneud cais.

Os ydych yn gweithio

Fel arfer, gallwch gael gofal plant sy’n rhad ac am ddim i rieni sy’n gweithio os ydych chi (a’ch partner, os oes gennych un):

  • yn gweithio neu’n dechrau swydd newydd
  • ar absenoldeb salwch neu wyliau blynyddol
  • ar absenoldeb ar y cyd i rieni, absenoldeb mamolaeth, absenoldeb tadolaeth neu absenoldeb mabwysiadu

​​Os ydych yn dechrau swydd newydd neu ar absenoldeb ar y cyd i rieni, absenoldeb mamolaeth, absenoldeb tadolaeth neu absenoldeb mabwysiadu

Bydd y dyddiad y byddwch yn dechrau swydd newydd neu’n dychwelyd i’r gwaith yn effeithio ar bryd y gallwch gael gofal plant sy’n rhad ac am ddim.

Dyddiad dechrau gweithio neu ddychwelyd i’r gwaith Pryd gallwch gael eich oriau
1 Mai i 30 Medi Tymor yn dechrau ar 1 Medi neu ar ôl hynny
1 Hydref i 31 Ionawr Tymor yn dechrau ar 1 Ionawr neu ar ôl hynny
1 Chwefror i 30 Ebrill Tymor yn dechrau ar 1 Ebrill neu ar ôl hynny

Os nad ydych yn gweithio ar hyn o bryd

Gallwch fod yn gymwys o hyd os yw’ch partner yn gweithio a’ch bod ar absenoldeb gofalwr neu os ydych yn cael unrhyw un o’r canlynol:

  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Lwfans Anabledd Difrifol
  • Lwfans Gofalwr
  • Budd-dal Gallu Cyfyngedig i Weithio
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail cyfraniadau

Eich incwm

Dros y 3 mis nesaf mae’n rhaid i chi a’ch partner (os oes gennych un) ddisgwyl ennill o leiaf:

  • £2,380 cyn treth os ydych chi’n 21 oed neu’n hŷn (yn gyfwerth â £183 yr wythnos)
  • £1,788 cyn treth os ydych chi’n 18 i 20 oed (yn gyfwerth â £137 yr wythnos)
  • £1,331 cyn treth os ydych chi’n 18 oed neu’n brentis (yn gyfwerth â £102 yr wythnos)

Dyma’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu’r Cyflog Byw Cenedlaethol am 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd.

Gallwch ddefnyddio cyfartaledd o faint rydych yn disgwyl ei ennill dros y flwyddyn dreth bresennol os yw’r canlynol yn wir:

  • rydych yn gweithio drwy’r flwyddyn ond nid ydych yn cael eich talu’n rheolaidd
  • rydych yn hunangyflogedig ac nid ydych yn disgwyl ennill digon yn ystod y 3 mis nesaf

Enghraifft

Rydych yn gymwys os ydych yn 21 oed neu’n hŷn a heb incwm rheolaidd, ond rydych yn ennill £9,518 y flwyddyn. Mae hyn yr un fath ag ennill £2,379 bob 3 mis ar gyfartaledd.

Os ydych yn hunangyflogedig, a wnaethoch ddechrau’ch busnes lai na 12 mis yn ôl

Gallwch ennill llai a dal i fod yn gymwys i gael gofal plant sy’n rhad ac am ddim i rieni sy’n gweithio.

Os oes gennych fwy nag un swydd

Gallwch ddefnyddio cyfanswm eich enillion i gyfrifo a ydych yn cyrraedd y trothwy. Mae hyn yn cynnwys:

  • enillion o unrhyw gyflogaeth
  • enillion o unrhyw hunangyflogaeth

Os ydych yn gyflogedig ac yn hunangyflogedig, os hoffech, gallwch ddefnyddio’ch incwm o hunangyflogaeth yn unig os byddai hynny’n eich gwneud chi’n gymwys.

Enghraifft

Os ydych yn disgwyl y bydd eich enillion cyfartalog o hunangyflogaeth dros y flwyddyn dreth yn uwch na’r hyn y byddwch yn ei gael yn ystod y 3 mis nesaf fel cyflogai.

Incwm nad yw’n cyfrif tuag at isafswm eich enillion

Ni fydd rhai mathau o incwm yn cyfrif tuag at yr isafswm y mae’n rhaid i chi ei ennill i fod yn gymwys.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • difidendau
  • llog
  • incwm o fuddsoddi mewn eiddo
  • taliadau pensiwn

Os oes gennych chi neu’ch partner incwm net wedi’i addasu (yn agor tudalen Saesneg) disgwyliedig o dros £100,000 yn y flwyddyn dreth bresennol, ni fyddwch yn gymwys.

Eich statws mewnfudo

I fod yn gymwys ar gyfer gofal plant sy’n rhad ac am ddim i rieni sy’n gweithio, mae’n rhaid i chi (a’ch partner os oes gennych un) feddu ar rif Yswiriant Gwladol.

Mae’n rhaid i’r person sy’n gwneud cais hefyd feddu ar o leiaf un o’r canlynol: