Cymharu categorïau trwydded yrru hen a newydd
Efallai y bydd y ‘grwpiau’ neu’r ‘categorïau’ ar eich trwydded yrru lawn wedi newid os cyhoeddwyd y drwydded cyn 2013.
Newidiwyd categorïau trwydded yrru ym mis Ionawr 2013 a hefyd sawl gwaith cyn hynny. Cyn Mehefin 1990, roedd y mathau o gerbydau y gallech eu gyrru yn cael eu galw’n ‘grwpiau’. Mae’r rhain bellach yn cael eu galw’n ‘gategorïau’.
Os cyhoeddwyd eich trwydded yrru lawn cyn Ionawr 2013, gallwch ddod o hyd i’r categori newydd cyfatebol a gwirio pa fathau o gerbydau y gallwch eu gyrru.
Mae categorïau trwydded yrru yn wahanol yng Ngogledd Iwerddon.
Trwyddedau a gyhoeddwyd rhwng 1976 a 1986
Cerbydau y gallwch eu gyrru | Grŵp cyn 2013 | Categori o 2013 |
---|---|---|
Cerbydau hyd at 3,500kg uchafswm màs awdurdodedig (MAM) sy’n cludo dim mwy nag 8 o deithwyr a gyrrwr, gydag ôl-gerbyd hyd at 750kg; ôl-gerbyd dros 750kg os nad yw pwysau cyfunol y cerbyd a’r ôl-gerbyd yn fwy na 3,500kg MAM | A | B |
Cerbydau categori B gydag ôl-gerbyd pan fod pwysau cyfunol y cerbyd a’r ôl-gerbyd dros 3,500kg | A | BE |
Cerbydau rhwng 3,500kg a 7,500kg yn cludo dim mwy nag 8 o deithwyr a gyrrwr, gydag ôl-gerbyd hyd at 750kg | A | C1 |
Cerbydau rhwng 3,500kg a 7,500kg yn cludo dim mwy nag 8 o deithwyr a gyrrwr gydag ôl-gerbyd dros 750kg, os nad yw pwysau cyfunol y cerbyd a’r ôl-gerbyd yn fwy nag 8,250kg | A | C1E (gyda chod cyfyngu 107) |
Cerbydau gyda hyd at 16 o seddau i deithwyr a gyrrwr, gydag ôl-gerbyd hyd at 750kg | A | D1 (gyda chod cyfyngu 101) |
Cerbydau gyda hyd at 16 o seddau i deithwyr a gyrrwr, gydag ôl-gerbyd dros 750kg | A | D1E (gyda chodau cyfyngu 101, 111 ac 119) |
Cerbydau mewn grwpiau B, C, E, f, k, l ac n isod | A | Gweler isod |
Cerbydau grŵp A | B | Categorïau uchod (gyda chod cyfyngu 78) |
Unrhyw dreic modur llai na 410kg (500kg gyda llwyth) | C | B1 (ac eithrio beiciau cwad) |
Beic modur | D | A1, A2 ac A (yn dibynnu ar faint y beic modur) |
Moped hyd at 50cc (cyflymder uchaf 50km/awr) | E | AM, p a Q |
’Cerbyd person anabl’ (cadeiriau olwyn modur a sgwteri symudedd) | J | B1 (wedi’i gyfyngu i ‘gerbydau pobl anabl’) |
Mae grwpiau f, G, H, k, l, M, n yn cadw’r un llythrennau categori.
Trwyddedau a gyhoeddwyd rhwng 1986 a Mehefin 1990
Cerbydau y gallwch eu gyrru | Grŵp cyn 2013 | Categori o 2013 |
---|---|---|
Cerbydau hyd at 3,500kg MAM sy’n cludo dim mwy nag 8 o deithwyr a gyrrwr, gydag ôl-gerbyd hyd at 750kg; ôl-gerbydau dros 750kg os nad yw pwysau cyfunol y cerbyd a’r ôl-gerbyd yn fwy na 3,500kg MAM | A | B |
Cerbydau categori B gydag ôl-gerbyd pan fod pwysau cyfunol y cerbyd a’r ôl-gerbyd dros 3,500kg | A | BE |
Cerbydau rhwng 3,500kg a 7,500kg yn cludo dim mwy nag 8 o deithwyr a gyrrwr, gydag ôl-gerbyd hyd at 750kg | A | C1 |
Cerbydau rhwng 3,500kg a 7,500kg yn cludo dim mwy nag 8 o deithwyr a gyrrwr, gydag ôl-gerbyd dros 750kg os nad yw pwysau cyfunol y cerbyd a’r ôl-gerbyd yn fwy nag 8,250kg | A | C1E (gyda chod cyfyngu 107) |
Cerbydau gyda hyd at 16 o seddau i deithwyr a gyrrwr, gydag ôl-gerbyd hyd at 750kg | A | D1 (gyda chod cyfyngu 101) |
Cerbydau gyda hyd at 16 o seddau i deithwyr a gyrrwr, gydag ôl-gerbyd dros 750kg | A | D1E (gyda chodau cyfyngu 101, 111 ac 119) |
Cerbydau mewn grwpiau B, C, E, f, k, l ac n isod | A | Gweler isod |
Cerbydau Grŵp A ac eithrio treiciau modur awtomatig | B | Categorïau uchod (gyda chod cyfyngu 78 ac eithrio B1) |
Cerbyd gyda 4 olwyn hyd at 450kg heb lwyth | C | B1 |
Beic modur | D | A1, A2 ac A (yn dibynnu ar faint y beic modur) |
Moped hyd at 50cc (cyflymder uchaf 50km/awr) | E | AM, p a Q |
Mae grwpiau f, G, H, k, l, M, n yn cadw’r un llythrennau categori.
Trwyddedau a gyhoeddwyd rhwng Mehefin 1990 a Rhagfyr 1996
Cerbydau y gallwch eu gyrru | Categori cyn 2013 | Categori o 2013 |
---|---|---|
Beic modur gydag uchafswm cyflymder o fwy na 50km/awr neu gydag injan dros 50cc | A | A1, A2 ac A (yn dibynnu ar faint y beic modur) |
Cerbyd gyda 4 olwyn hyd at 400kg heb lwyth, neu 550kg os bwriedir iddo gludo nwyddau | B1 | B1 |
Cerbyd hyd at 3,500kg MAM sy’n cludo dim mwy nag 8 o deithwyr a gyrrwr, gydag ôl-gerbyd hyd at 750kg (neu gydag ôl-gerbyd dros 750kg os nad yw pwysau cyfunol y cerbyd a’r ôl-gerbyd yn fwy na 3,500kg MAM) | B | B |
Cerbyd categori B gydag ôl-gerbyd, pan fod pwysau cyfunol y cerbyd a’r ôl-gerbyd dros 3,500kg | BE | BE |
Cerbyd dros 3,500kg MAM yn cludo dim mwy nag 8 o deithwyr a gyrrwr, gydag ôl-gerbyd hyd at 750kg | C | C |
Cerbyd dros 3,500kg MAM yn cludo dim mwy nag 8 o deithwyr a gyrrwr, gydag ôl-gerbyd dros 750kg | CE | C |
Cerbyd rhwng 3,500kg a 7,500kg yn cludo dim mwy nag 8 o deithwyr a gyrrwr, gydag ôl-gerbyd hyd at 750kg | C1 | C1 |
Cerbyd rhwng 3,500kg a 7,500kg yn cludo dim mwy nag 8 o deithwyr a gyrrwr, gydag ôl-gerbyd dros 750kg a phwysau cyfunol o dim mwy nag 8,250kg | C1E | C1E (gyda chod cyfyngu 107) |
Cerbyd rhwng 3,500kg a 7,500kg yn cludo dim mwy nag 8 o deithwyr a gyrrwr, gydag ôl-gerbyd dros 750kg a phwysau cyfunol o dim mwy na 12,000kg | C1E | C1E |
Bws gyda mwy nag 8 o seddau i deithwyr gydag ôl-gerbyd hyd at 750kg | D | D |
Bws gyda mwy nag 8 o seddau i deithwyr gydag ôl-gerbyd dros 750kg | DE | DE |
Cerbyd gyda hyd at 16 o seddau i deithwyr a gyrrwr, gydag ôl-gerbyd hyd at 750kg | D1 | D1 (gyda chod cyfyngu 101 a 111) |
Cerbyd gyda hyd at 16 o seddau i deithwyr a gyrrwr, gydag ôl-gerbyd hyd at 750kg | D1 | D1 |
Cerbyd gyda hyd at 16 o seddau i deithwyr a gyrrwr, gydag ôl-gerbyd dros 750kg | D1E | D1E (gyda chod cyfyngu 101, 111 ac 119) |
Cerbyd gyda hyd at 16 o seddau i deithwyr a gyrrwr, gydag ôl-gerbyd dros 750kg | D1E | D1E |
Tractor amaethyddol | f | f |
Rholer ffordd | G | G |
Cerbyd â thrac | H | H |
Peiriant lladd gwair neu gerbyd a reolir gan gerddwr | k | k |
Cerbyd a yrrir yn drydanol | l | l |
Moped hyd at 50cc (uchafswm cyflymder 50km/awr) | p | Am, p a Q |
Cerbydau sydd wedi’u cyfyngu i gerbydau troli | M | M |
Cerbydau (wedi’u heithrio rhag treth) | n | n |
Mae cerbydau categori M wedi’u cyfyngu i gerbydau troli. Mae cerbydau categori n (sydd wedi’u heithrio rhag treth) yn cadw’r un llythyren categori.
Cerbydau mwy ar drwydded ar wahân
Os cawsoch eich trwydded yrru cyn Mehefin 1990 efallai eich bod wedi cael trwydded ar wahân a ddangosodd eich hawl i yrru cerbydau mwy.
Cerbydau y gallwch eu gyrru | Grŵp cyn 2013 | Categori o 2013 |
---|---|---|
Cerbyd dros 3,500kg gydag ôl-gerbyd dros 750kg | HGV 1 | CE |
Cerbyd dros 3,500kg gydag ôl-gerbyd hyd at 750kg | HGV 2 neu 3 | C |
Cerbyd dros 3,500kg gydag ôl-gerbyd dros 750kg | HGV 2 neu 3 | CE (gyda chod cyfyngu 102) |
Cerbyd cludo teithwyr (PCV) (mwy nag 8 o seddau i deithwyr) gydag ôl-gerbyd dros 750kg | PSV 1 neu 2 | DE |
PCV (mwy nag 8 o seddau i deithwyr) gydag ôl-gerbyd hyd at 750kg | PSV 3 | D |
PCV (mwy nag 8 o seddau i deithwyr) a llai na 5.5 metr o hyd | PSV 4 | D (gyda chod cyfyngu 105) |
Cerbydau yng ngrŵp HGV 1-3 yn unig | HGV 1-3A | C neu CE (gyda chod cyfyngu 78) |
Cerbydau yng ngrŵp PSV 1-4 yn unig | PSV 1-4A | D neu DE (gyda chod cyfyngu 78) |
Cerbydau a gyhoeddwyd rhwng Ionawr 1997 a 14 Hydref 2012
Cerbydau y gallwch eu gyrru | Categori cyn 2013 | Categori o 2013 |
---|---|---|
Moped hyd at 50cc (uchafswm cyflymder 50km/awr) | p | AM, p a Q |
Cerbydau modur gyda maint injan hyd at 125cc, allbwn pŵer hyd at 11kW a chymhareb pŵer i bwysau hyd at 0.1kW/kg | A1 | A1 |
Beiciau modur gydag allbwn pŵer hyd at 25kW a chymhareb pŵer i bwysau hyd at 0.16kW/kg; beiciau modur gyda cherbyd ochr a chymhareb pŵer i bwysau hyd at 0.16kW/kg; unrhyw faint o feic modur, gyda neu heb gerbyd ochr os ydych wedi cwblhau’r cynllun mynediad uniongyrchol ar gyfer beiciau modur mawr | A | A |
Cerbydau 3 neu 4 olwyn hyd at 400kg heb lwyth neu 550kg os bwriedir iddynt gludo nwyddau | B1 | B ar gyfer cerbydau 4 olwyn; A (wedi’i gyfyngu i dreiciau) |
Cerbydau hyd at 3,500kg MAM a hyd at 8 o seddau i deithwyr gydag ôl-gerbyd hyd at 750kg; ôl-gerbydau dros 750kg os nad yw pwysau cyfunol y cerbyd a’r ôl-gerbyd dros 3,500kg | B | B |
Cerbydau categori B awtomatig – ni allwch yrru cerbydau â llaw categori B gyda’r hawl hon | B awto | B (gyda chod cyfyngu 78) |
Cerbydau categori B gydag ôl-gerbyd pan fod pwysau cyfunol y cerbyd a’r ôl-gerbyd dros 3,500kg | BE | BE |
Cerbydau sy’n pwyso 3,500 i 7,500kg MAM gydag ôl-gerbydau hyd at 750kg | C1 | C1 |
Cerbydau categori C1 gydag ôl-gerbydau dros 750kg; ni all pwysau cyfunol y cerbyd a’r ôl-gerbyd fod dros 12,000kg | C1E | C1E |
Cerbydau dros 3,500kg gydag ôl-gerbyd hyd at 750kg | C | C |
Cerbydau dros 3,500kg gydag ôl-gerbyd dros 750kg | CE | CE |
Cerbydau gyda hyd at 16 o seddau i deithwyr a gyrrwr, gydag ôl-gerbyd hyd at 750kg | D1 | D1 |
Cerbydau gyda hyd at 16 o seddau i deithwyr a gyrrwr gydag ôl-gerbyd hyd at 750kg, os nad yw pwysau cyfunol yr ôl-gerbyd a cherbyd dros 12,000kg | D1E | D1E |
Bws gyda mwy nag 8 o seddau i deithwyr, gydag ôl-gerbyd hyd at 750kg | D | D |
Bws gyda mwy nag 8 o seddau i deithwyr, gydag ôl-gerbyd dros 750kg | DE | DE |