Sgrapio eich cerbyd a cherbydau sydd wedi’u diddymu gan gwmni yswiriant

Sgipio cynnwys

Cerbydau sydd wedi’u datgan fel anadferadwy gan gwmni yswiriant

Pan fyddwch yn gwneud hawliad yswiriant oherwydd bod eich cerbyd wedi’i ddifrodi, bydd eich cwmni yswiriant yn dweud wrthych:

  • a yw eich cerbyd yn cael ei ‘ddiddymu’ (hynny yw, yn anadferadwy)
  • faint y byddant yn ei dalu ichi

Pan fydd eich cerbyd yn cael ei ddiddymu, bydd eich cwmni yswiriant yn talu gwerth cyfredol y cerbyd ichi, yn hytrach na chost i’w atgyweirio.

Bydd eich cwmni yswiriant yn penderfynu a ddylai’r cerbyd gael ei ddiddymu neu beidio.

Categorïau diddymu

Mae’r hyn a wnewch nesaf yn dibynnu ar ba gategori y mae eich cerbyd ynddo.

Categori Atgyweirio’r cerbyd Defnyddio’r cerbyd
A Ni ellir ei atgyweirio Rhaid malu’r cerbyd cyfan
B Ni ellir ei atgyweirio Rhaid malu’r corff, ond gallwch chi achub rhannau eraill ohono
C Gellir ei atgyweirio, ond byddai’n costio mwy na gwerth y cerbyd Gallwch ddefnyddio’r cerbyd eto os caiff ei atgyweirio i gyflwr addas i’r ffordd fawr
D Gellir ei atgyweirio a byddai’n costio llai na gwerth y cerbyd, ond mae costau eraill (fel cludo’ch cerbyd) yn mynd ag ef dros werth y cerbyd Gallwch ddefnyddio’r cerbyd eto os caiff ei atgyweirio i gyflwr addas i’r ffordd fawr
N Gellir ei atgyweirio yn dilyn difrod anstrwythurol Gallwch ddefnyddio’r cerbyd eto os caiff ei atgyweirio i gyflwr addas i’r ffordd fawr
S Gellir ei atgyweirio yn dilyn difrod strwythurol Gallwch ddefnyddio’r cerbyd eto os caiff ei atgyweirio i gyflwr addas i’r ffordd fawr

Beth sydd angen ichi ei wneud

Bydd eich cwmni yswiriant fel arfer yn delio â chael gwared ar y cerbyd ar eich rhan. Mae angen ichi ddilyn y camau hyn.

  1. Gwneud cais i dynnu’r rhif cofrestru oddi ar y cerbyd os ydych am ei gadw.

  2. Anfon y llyfr log cerbyd (V5CW) i’ch cwmni yswiriant, ond cadw’r adran felen ‘gwerthu, trosglwyddo neu gyfnewid eich cerbyd i’r fasnach foduro’ ohono.

  3. Dweud wrth DVLA bod eich cerbyd wedi cael ei ddiddymu.

Gallwch gael dirwy o £1,000 os na fyddwch yn dweud wrth DVLA.

Cadw’r cerbyd

Os ydych am gadw cerbyd yng nghategori C, D, N neu S, bydd y cwmni yswiriant yn rhoi taliad yswiriant ichi ac yn gwerthu’r cerbyd yn ôl ichi.

I gadw cerbyd categori C neu S, mae angen ichi hefyd:

  • anfon y llyfr log cyflawn at eich cwmni yswiriant
  • gwneud cais am lyfr log dyblyg am ddim gan ddefnyddio ffurflen V62W

Bydd DVLA yn cofnodi categori’r cerbyd yn y llyfr log.

Gallwch gadw’r llyfr log os ydych am gadw cerbyd categori D neu N.