Deall codau treth eich cyflogeion
Newidiadau yn ystod y flwyddyn dreth
Fel arfer, mae cod treth rhywun yn newid os bydd ei incwm rhydd o dreth (Lwfans Personol) yn codi neu’n gostwng. Er enghraifft, os yw’n dechrau cael buddiant trethadwy megis car cwmni, neu’n peidio â’i gael mwyach.
-
Bydd Cyllid a Thollau EM (CThEF) yn anfon rhybudd e-bost atoch os yw cod treth un o’ch cyflogeion yn newid.
-
Gallwch gyrchu’r cod treth newydd yn TWE Ar-lein (o dan ‘hysbysiadau codau treth’), yn y rhaglen Gwyliwr Bwrdd Gwaith TWE, neu yn eich meddalwedd cyflogres (os oes ganddi’r nodwedd hon). Gwiriwch fod cyflog a threth flaenorol eich cyflogai wedi’u cynnwys gyda’r cod treth newydd. Os ydynt wedi’u cynnwys, nodwch y ffigurau hyn.
-
Cyn gynted ag y bo modd, a chyn y tro nesaf i chi dalu’ch cyflogai, dylech ddiweddaru’i gofnod y gyflogres gan ddefnyddio’i god treth newydd. Ychwanegwch gyflog a threth flaenorol eich cyflogai, os cawsoch y ffigurau hyn gyda’r cod treth newydd.
Weithiau, gelwir hysbysiad cod treth yn ffurflen P6.
Os ydych yn cael cod treth newydd y cyflogai pan fo’n rhy hwyr i’w ddefnyddio yn y flwyddyn dreth, dylech ei ddefnyddio yn y flwyddyn dreth newydd.