TWE Ar-lein i Gyflogwyr

Sgipio cynnwys

Defnyddio TWE Ar-lein

Fel cyflogwr, mae angen i chi ddefnyddio gwasanaeth TWE Ar-lein Cyllid a Thollau EF (CThEF) i wneud y canlynol:

  • gwirio’r hyn sydd arnoch i CThEF

  • talu’ch bil

  • bwrw golwg dros hanes eich taliadau

  • cael mynediad at godau treth a hysbysiadau ynghylch eich cyflogeion

  • apelio yn erbyn cosb

  • cael rhybuddion gan CThEF pan fyddwch yn anfon adroddiad neu’n talu’n hwyr, neu pan na fyddwch yn anfon y nifer disgwyliedig o adroddiadau yn ystod y mis

  • anfon datganiadau treuliau a buddiannau, megis P46 (car), P11D a P11D(b)

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Cyn i chi ddechrau

Er mwyn defnyddio TWE Ar-lein, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol: 

  • cofrestru fel cyflogwr 

  • ymrestru ar gyfer TWE Ar-lein 

  • actifadu’r gwasanaeth 

Os ydych wedi cofrestru ar-lein fel cyflogwr 

Rydych yn ymrestru’n awtomatig ar gyfer TWE Ar-lein pan fyddwch yn cofrestru fel cyflogwr ar-lein. 

Ar ôl i chi gofrestru, bydd CThEF yn gyrru cod actifadu o fewn 10 diwrnod i chi drwy’r post. Mae’n rhaid i chi actifadu eich cyfrif o fewn 28 diwrnod i’r dyddiad sydd ar y llythyr.  

Os nad ydych yn actifadu eich cyfrif o fewn y terfyn amser, bydd yn rhaid i chi ymrestru ar gyfer TWE ar-lein unwaith eto.  

Os ydych wedi cofrestru fel cyflogwr dros y ffôn neu drwy’r post 

Bydd angen i chi ymrestru ar gyfer TWE Ar-lein cyn i chi allu defnyddio’r gwasanaeth.

Mewngofnodi i TWE Ar-lein

Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf yn ystod adegau prysur. Gwiriwch a oes problemau gyda’r gwasanaeth hwn (yn agor tudalen Saesneg).

Mewngofnodi

Codau treth a hysbysiadau 

Mae CThEF yn anfon gwybodaeth ynghylch eich cyflogeion atoch drwy ddefnyddio TWE Ar-lein. Gallwch fewngofnodi i fwrw golwg dros y canlynol:

Gallwch gyrchu’r rhain drwy rai mathau o feddalwedd gyflogres, neu drwy’r Gwyliwr Bwrdd Gwaith TWE.