TWE Ar-lein i Gyflogwyr
Ymrestru os nad ydych wedi cofrestru ar-lein
Er mwyn defnyddio TWE Ar-lein, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:
-
ymrestru ar gyfer y gwasanaeth (bydd angen eich Cyfeirnod TWE a Chyfeirnod y Swyddfa Gyfrifon arnoch o’ch llythyr cofrestru)
-
actifadu’r gwasanaeth
Mae’r dull o ymrestru’n dibynnu a oes gennych gyfrif ar-lein eisoes ar gyfer trethi busnes eraill, e.e. Treth Gorfforaeth.
Ymrestru os oes gennych gyfrif eisoes
-
Dewiswch ‘Cyflogwyr neu gyfryngwyr, er enghraifft TWE i gyflogwyr neu CIS’ sydd yn y rhestr.
-
Dewiswch ‘TWE ar gyfer cyflogwyr’.
Ymrestru os nad oes gennych gyfrif
-
Dewiswch ‘Cyflogwyr neu gyfryngwyr, er enghraifft TWE i gyflogwyr neu CIS’ sydd yn y rhestr.
-
Dewiswch ‘TWE ar gyfer cyflogwyr’.
Ar ôl i chi ymrestru
Ar ôl i chi ymrestru bydd angen i chi actifadu eich cyfrif cyn y gallwch chi ddefnyddio TWE Ar-lein.
Byddwn yn anfon cod actifadu atoch o fewn 10 diwrnod gwaith. Mae’n rhaid i chi actifadu’r gwasanaeth o fewn 28 diwrnod i’r dyddiad sydd ar y llythyr.
Os nad ydych yn actifadu eich cyfrif o fewn y terfyn amser, bydd yn rhaid i chi ymrestru ar gyfer TWE ar-lein unwaith eto.