Canllawiau

Cydymffurfio â'r Cynllun Labelu Cig Eidion Gorfodol

Mae'n rhaid i chi roi'r cig eidion a'r cig llo rydych yn eu gwerthu mewn batshys a'u labelu yn ôl rheolau penodol sy'n amrywio o gynnyrch i gynnyrch.

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Mae rheolau’r Cynllun Labelu Cig Eidion Gorfodol yn berthnasol i unrhyw un sy’n gwerthu neu’n cyflenwi cig eidion neu gig llo ffres neu wedi’i rewi yn unrhyw ran o’r gadwyn gyflenwi.

Mae’n rhaid i bob busnes bwyd sy’n gwerthu neu’n cyflenwi’r cigoedd hyn sefydlu system olrhain (a elwir hefyd yn system rheoli olrhain). Mae’r cofnodion sy’n rhan o’r system olrhain yn cynnwys rhifau cyfeirnod sy’n cysylltu’r wybodaeth olrhain â’r labeli ar y cig. Mae hyn yn sicrhau y gellir olrhain tarddiad y cig eidion neu gig llo, lle bynnag y caiff ei werthu.

I bwy y mae’r cynllun yn gymwys?

Mae rheolau’r cynllun yn berthnasol i bob un o’r canlynol:

  • lladd-dy (ni waeth faint o anifeiliaid y mae’n eu lladd)
  • safleoedd torri cig
  • storfeydd oer
  • canolfannau ailbecynnu
  • siopau cigyddion
  • siopau symudol
  • stondinau marchnad
  • archfarchnadoedd
  • siopau fferm
  • y sawl sy’n cyflenwi gwestai, bwytai a chyfleusterau arlwyo eraill

Nid yw’r rheolau yn berthnasol i fusnesau sy’n ymwneud â chig eidion wedi’i goginio yn unig.

Pa gynhyrchion y mae’r rheolau yn berthnasol iddynt?

Mae’n rhaid i chi gymhwyso’r rheolau labelu i gynnyrch cig eidion ffres ac wedi’i rewi, gan gynnwys:

  • carcasau cyfan
  • chwarteri carcas
  • toriadau cig eidion ffres neu wedi’u rhewi ar yr asgwrn neu sydd heb asgwrn, gan gynnwys golwython, steciau a chig wedi’i ddeisio
  • briwgig (sy’n cynnwys llai nag 1% o halen)
  • byrgyrs cig eidion heb eu coginio sydd heb gynhwysion ychwanegol (fel protein soia neu rwymwyr grawnfwyd)
  • cig llo

Nid yw’r rheolau yn berthnasol i’r canlynol:

  • cig heb ei goginio sydd wedi’i flasuso, naill ai yn drylwyr neu ar hyd wyneb cyfan y cig, fel y gellir ei weld neu ei flasu yn amlwg
  • cig eidion a chig llo mewn cynnyrch sydd wedi’i brosesu ac offal - e.e. byrgyrs cig eidion a phastai stêc ac aren wedi’u prosesu

Beth sydd yn rhaid i chi ei roi ar y labeli

Os ydych yn labelu cig eidion (ac eithrio briwgig neu drimins) mae’n rhaid i chi gynnwys y dangosyddion hyn:

  1. rhif cyfeirnod neu god
  2. enw’r aelod-wladwriaeth neu wlad nad yw’n aelod o’r UE lle y cafodd yr anifail neu’r grŵp o anifeiliaid eu geni
  3. enw’r aelod-wladwriaeth neu wlad nad yw’n aelod o’r UE lle y cafodd yr anifail neu’r grŵp o anifeiliaid eu magu
  4. y geiriau ‘Lladdwyd yn: [enw’r aelod-wladwriaeth neu wlad nad yw’n aelod o’r UE]’
  5. rhif trwydded y lladd-dy - nid yw hyn yn berthnasol i gig eidion a gaiff ei werthu yn rhydd dros y cownter
  6. y geiriau ‘Torrwyd yn: [enw’r aelod-wladwriaeth neu wlad nad yw’n aelod o’r UE]’
  7. rhif(au) trwydded y safle(oedd) torri cig - nid yw hyn yn berthnasol i gig eidion a gaiff ei werthu yn rhydd dros y cownter

Gallwch lawrlwytho canllawiau mwy manwl ynglŷn â’r canlynol:

Os ydych chi’n gwneud unrhyw honiadau ychwanegol ar eich labeli, efallai y bydd angen i’r Asiantaeth Taliadau Gwledig eu cymeradwyo. Darllenwch ganllawiau’r Cynllun Labelu Cig Eidion Cymeradwy am ragor o fanylion.

Lawrlwythwch examples of beef and veal labelling (PDF, 567 KB, 5 pages).

Canllawiau ar farciau iechyd ac adnabod

Gallwch ddarllen mwy am y marciau iechyd ac adnabod y mae’n rhaid eu rhoi ar gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid megis cig, cynhyrchion wyau, pysgod, caws a llaeth yn Canllawiau ar farciau iechyd ac adnabod sy’n berthnasol o 1 Ionawr 2021.

Lle i roi’r wybodaeth labelu

Mae’n rhaid i chi labelu cig eidion sydd wedi’i lapio eisoes ar y deunydd pacio allanol - naill ai ar bob pecyn cig unigol neu ar y carton allanol os byddwch yn gwerthu mwy nag un pecyn mewn carton.

Os byddwch yn gwerthu cig eidion sydd heb ei lapio eisoes, mae’n rhaid i chi arddangos y wybodaeth labelu yn glir fel y gall cwsmeriaid weld pa wybodaeth sy’n berthnasol i ba ddarn o gig. Mae pedair ffordd o wneud hyn:

  • ar y cig
  • ar y cynhwysydd sy’n dal y cig
  • yn y siop - e.e. ar docyn sy’n agos i’r cig
  • ar arwydd ar y wal y gall eich cwsmeriaid ei weld

Yn ogystal â’r labeli penodol hyn, mae’n rhaid i chi gymhwyso rheolau’r Cynllun Labelu Cig Eidion Gorfodol i’r holl wybodaeth ysgrifenedig am y cig y byddwch yn ei rhoi i’r cwsmer ar yr adeg gwerthu, e.e:

  • hysbysebion
  • posteri
  • cyhoeddiadau
  • taflenni

Diffiniadau

Mae’n rhaid i chi gymhwyso’r rheolau labelu cig eidion yn unol â’r diffiniadau a nodir yn neddfwriaeth yr UE. Pan fo diffiniad yn cyfeirio’n benodol at fath o gynnyrch, caiff ei nodi yn yr adran sy’n ymwneud â’r cynnyrch hwnnw isod. Mae pedwar diffiniad mwy cyffredinol y dylid bod yn ymwybodol ohonynt. Maent wedi eu nodi isod.

Batsh

Caiff batsh ei ddiffinio’n gyfreithiol fel cig, naill ai ar yr asgwrn neu heb asgwrn e.e. carcasau, chwarteri neu ddarnau o gig heb asgwrn, wedi’u torri, eu briwo neu eu pacio gyda’i gilydd o dan fwy neu lai yr un amodau.

Cig wedi’i dorri

Caiff cig wedi’i dorri ei ddiffinio’n gyfreithiol fel a ganlyn:

  • wedi’i dorri’n giwbiau bach, sleisiau neu ddarnau unigol eraill
  • nid oes angen iddo gael ei dorri ymhellach gan weithredwr cyn y caiff ei brynu gan y defnyddiwr terfynol
  • gall gael ei ddefnyddio’n uniongyrchol gan y defnyddiwr terfynol

Manwerthu

Caiff manwerthu ei ddiffinio’n gyfreithiol fel ymdrin â chig, a/neu ei brosesu, a’i gadw ar yr adeg gwerthu neu wrth ei gyflwyno i’r defnyddiwr terfynol, gan gynnwys arlwywyr, ffreuturau cwmnïau, arlwywyr sefydliadol, bwytai a gweithrediadau gwasanaeth bwyd tebyg, siopau, canolfannau dosbarthu archfarchnadoedd ac allfeydd cyfanwerthu.

Y defnyddiwr terfynol

Caiff y defnyddiwr terfynol ei ddiffinio’n gyfreithiol fel defnyddiwr terfynol y cig sydd wedi’i dorri, nad yw’n ei ddefnyddio fel rhan o weithrediad neu weithgarwch busnes bwyd.

Cig wedi’i dorri sydd wedi’i bacio ymlaen llaw

Caiff cig wedi’i dorri sydd wedi’i bacio ymlaen llaw ei ddiffinio’n gyfreithiol fel y pecyn unigol a gaiff ei gynnig heb ei newid i’r defnyddiwr terfynol neu i sefydliad sy’n ymwneud â manwerthu yn unig, sy’n cynnwys cig wedi’i dorri a’r deunydd pacio a oedd amdano cyn iddo fynd ar werth, p’un a yw’r deunydd pacio yn ei orchuddio’n llawn neu’n rhannol, sy’n sicrhau na ellir newid y cynnwys heb agor neu newid y deunydd pacio.

Rheolau’n ymwneud â batshys

Wrth gynhyrchu cig wedi’i dorri, mae gennych hawl i greu batshys gan ddefnyddio cig o anifeiliaid a laddwyd mewn hyd at dri lladd-dy gwahanol. Gallwch hefyd greu batshys o garcasau a dorrwyd mewn hyd at dri safle torri cig gwahanol.

Mae’n rhaid i unrhyw fatsh o gig wedi’i dorri a gynhyrchir o hyd at dri lladd-dy/safle torri cig gwahanol gael ei roi mewn deunydd pacio manwerthu yn syth.

Rheolau labelu

Wrth labelu cig wedi’i dorri sydd wedi’i bacio ymlaen llaw o hyd at dri lladd-dy neu dri safle torri cig, mae’n rhaid i chi gynnwys y canlynol:

  • rhif cyfeirnod neu god
  • enw’r aelod-wladwriaeth neu wlad nad yw’n aelod o’r UE lle y cafodd yr anifeiliaid eu geni
  • enwau’r aelod-wladwriaeth neu wlad nad yw’n aelod o’r UE lle y cafodd yr anifeiliaid eu magu
  • y geiriau ‘Lladdwyd yr anifeiliaid yn y grŵp yn: [enw’r aelod-wladwriaeth neu wlad nad yw’n aelod o’r UE lle y lladdwyd yr anifeiliaid]’
  • rhif(au) trwydded y lladd-dy/lladd-dai sydd dan sylw
  • y geiriau ‘Torrwyd y cig mewn batsh yn: [enw’r aelod-wladwriaeth neu wlad nad yw’n aelod o’r UE lle y torrwyd y cig]’
  • rhif(au) trwydded y safle(oedd) torri cig

Cig wedi’i dorri sydd heb ei bacio ymlaen llaw

Caiff cig wedi’i dorri sydd heb ei bacio ymlaen llaw ei ddiffinio’n gyfreithiol fel cig wedi’i dorri sy’n cael ei werthu i’r defnyddiwr terfynol heb ei bacio ymlaen llaw mewn allfeydd, a phob darn o gig sy’n cael ei arddangos i’w werthu heb ei bacio i’r defnyddiwr terfynol mewn allfeydd, gyda’r bwriad o’i dorri ar gais y defnyddiwr terfynol.

Wrth arddangos cig wedi’i dorri sydd heb ei bacio ymlaen llaw, mae’n rhaid i chi gadw cig anifeiliaid sydd wedi’u geni a/neu eu magu a/neu eu lladd mewn gwledydd gwahanol ar wahân i’w gilydd.

Mae’n rhaid i chi labelu pob grŵp o gig gan nodi’r gwledydd lle y digwyddodd y canlynol:

  • geni
  • magu (os cafodd yr anifeiliaid eu magu mewn mwy nag un wlad, mae’n rhaid i chi restru pob gwlad)
  • lladd
  • torri’r carcas

Os byddwch yn gwerthu cig eidion wedi’i dorri sydd heb ei bacio ymlaen llaw gyda’i gilydd, bydd rhaid i chi nodi’r canlynol bob dydd, ynghyd â’r dyddiad:

  • rhif(au) trwydded y lladd-dy/lladd-dai
  • rhif(au) trwydded y safle(oedd) torri cig

Mae’n rhaid i chi roi’r wybodaeth hon i unrhyw gwsmer sy’n gofyn amdani.

Briwgig eidion

Caiff briwgig ei ddiffinio’n gyfreithiol fel unrhyw gig sydd:

Rheolau’n ymwneud â batshys

Wrth friwo cig, mae’n rhaid i chi lanhau’r peiriant briwo rhwng batshys os cafodd yr anifeiliaid yn y batsh cyntaf eu lladd mewn gwlad wahanol i’r anifeiliaid yn yr ail.

Mae’n rhaid i bob batsh o friwgig hanu o’r un wlad. Ni ddylech gymysgu briwgig eidion amrwd a laddwyd mewn dwy wlad neu fwy.

Os ydych yn gwerthu briwgig cymysg a bod y rhan fwyaf ohono yn gig eidion - e.e. 60% o gig eidion a 40% o borc - mae’n rhaid i chi ddilyn y rheolau labelu gofynnol ar gyfer briwgig eidion.

Gallwch gymysgu offal â chyfran fwyafrifol o friwgig eidion amrwd o’r un wlad. Os ydych yn gwneud hyn, mae’n rhaid i chi ddilyn y rheolau labelu ar gyfer briwgig eidion.

Rheolau labelu

Wrth labelu briwgig eidion, mae’n rhaid i chi gynnwys y canlynol o leiaf:

  • rhif cyfeirnod neu god - rhif cyfeirnod neu god olrhain sy’n cysylltu’n ôl i’r anifail, grŵp o anifeiliaid neu fatshys o gig eidion a ddefnyddiwyd wrth friwo
  • enw’r aelod-wladwriaeth neu wlad nad yw’n aelod o’r UE lle y lladdwyd yr anifail - mae’n rhaid i chi gynnwys y geiriau ‘Lladdwyd yn: [enw’r aelod-wladwriaeth neu wlad nad yw’n aelod o’r UE]’
  • enw’r aelod-wladwriaeth neu wlad nad yw’n aelod o’r UE lle y briwyd y cig - mae’n rhaid i chi gynnwys y geiriau ‘Briwyd yn [enw’r aelod-wladwriaeth neu wlad nad yw’n aelod o’r UE]’
  • enw’r aelod-wladwriaeth(au) neu wlad nad ydynt yn aelodau o’r UE (neu wledydd) lle y bu’r anifail/anifeiliaid yn byw o’u genedigaeth hyd at eu lladd, os yw’n wahanol i’r wlad lle y briwyd y cig - mae’n rhaid i chi gynnwys y geiriau ‘Tarddiad: [enw’r aelod-wladwriaeth neu wlad nad yw’n aelod o’r UE]’, neu ‘Tarddiad: Glad nad yw’n aelod o’r UE’ os yw’r wlad y tu allan i’r UE

Yn ogystal, os dymunwch, gallwch hefyd gynnwys y canlynol:

  • rhif(au) trwydded y lladd-dy/lladd-dai
  • y geiriau ‘Torrwyd yn: [enw’r aelod-wladwriaeth neu wlad nad yw’n aelod o’r UE]’
  • rhif(au) trwydded y safle(oedd) torri cig
  • dyddiad briwo

Trimins

Caiff trimins eu diffinio’n gyfreithiol fel tameidiau bychain o gig sy’n addas i’w bwyta gan bobl sy’n cael eu cynhyrchu yn arbennig yn ystod gweithrediadau trimio wrth ddiesgyrnu carcas a/neu dorri’r cig.

Wrth gynhyrchu batshys, dylech drin trimins yn yr un modd â briwgig eidion, ond dim ond y rheol sy’n ymwneud ag anifeiliaid a laddwyd mewn un wlad sydd angen ei dilyn.

Wrth labelu’r trimins, mae’n rhaid i chi gynnwys y canlynol:

  • rhif cyfeirnod neu god
  • enw’r wlad/enwau’r gwledydd lle cafodd yr anifeiliaid yn y grŵp eu geni a’u magu - mae’n rhaid i chi gynnwys y geiriau ‘Ganed a magwyd yn: [enwau’r gwledydd lle cafodd yr anifeiliaid eu geni a’u magu]’
  • enw’r wlad lle lladdwyd yr anifeiliaid - mae’n rhaid i chi gynnwys y geiriau ‘Lladdwyd yn: [enw’r aelod-wladwriaeth neu wlad nad yw’n aelod o’r UE lle y lladdwyd yr anifeiliaid]’; os cafodd yr holl anifeiliaid yn y grŵp eu geni, eu magu a’u lladd yn yr un wlad, gallwch ddefnyddio’r geiriau ‘Gwlad tarddiad: [enw’r aelod-wladwriaeth neu wlad nad yw’n aelod o’r UE lle y ganed, magwyd a lladdwyd yr anifeiliaid]
  • enw’r wlad lle cynhyrchwyd y trimins - mae’n rhaid i chi gynnwys y geiriau ‘Cynhyrchwyd yn: [enw’r aelod-wladwriaeth neu wlad nad yw’n aelod o’r UE lle cynhyrchwyd y trimins]’
  • rhif cymeradwyaeth y safle lle cynhyrchwyd y trimins

Cig o anifeiliaid buchol sy’n llai na 12 mis oed

Ar adeg eu lladd, dylech ddosbarthu’r holl anifeiliaid buchol sy’n llai na 12 mis oed i un o ddau gategori:

  • Categori V: anifeiliaid buchol sy’n llai nag 8 mis oed
  • Categori Z: anifeiliaid buchol sydd rhwng 8 mis oed a llai na 12 mis oed - yn benodol, anifeiliaid buchol o’r diwrnod maent yn cyrraedd 8 mis oed tan y diwrnod cyn y maent yn troi yn 12 mis oed

Wrth wneud y penderfyniad hwn, dylech ddefnyddio’r wybodaeth ym mhasbort yr anifeiliaid. Os nad yw hyn yn bosibl, dylech ddefnyddio’r data yn y System Olrhain Gwartheg.

Rheolau labelu ar gyfer carcasau

Mae’n rhaid i chi ddynodi’r llythrennau nodi categori ‘V’ neu ‘Z’ yn syth ar ôl lladd yr anifeiliaid, gan eu labelu neu eu stampio ar wyneb allanol y carcas.

Ni ddylai’r labeli fod yn llai na 50cm2 ac ni ddylai’r llythrennau sydd wedi’u stampio fod yn llai na 2cm o uchder.

Mae’n rhaid i chi roi’r labeli neu’r stampiau ar y chwarteri ôl a’r chwarteri blaen:

  • ar y strip lwyn ar lefel y 4ydd fertebra meingefnol
  • ar y frisged rhwng 10cm a 30cm o ochr doredig y sternwm

Lawrlwythwch , gan gynnwys labeli carcasau.

Defnyddio’r disgrifiadau gwerthu a ganiateir

Ar bob cam o’r broses gynhyrchu a marchnata, mae’n rhaid i chi labelu’r cig yn glir er mwyn nodi oedran yr anifeiliaid pan gawsant eu lladd, a’i ddisgrifiad gwerthu. Ar yr adeg pan gaiff y cig ei werthu i’r defnyddiwr terfynol, mae’n rhaid i chi gyflwyno’r wybodaeth hon ar yr un label, fel y gall y defnyddiwr ei gweld i gyd ar unwaith.

Cyn y bydd y cig yn cyrraedd y cwsmer, gallwch naill ai ddefnyddio’r llythrennau sy’n nodi’r categori, ‘V’ neu ‘Z’, neu un o’r brawddegau canlynol:

  • ‘oedran pan laddwyd: llai nag 8 mis’
  • ‘oedran pan laddwyd: rhwng 8 mis a llai na 12 mis’

Pan gaiff y cig ei ryddhau i’r cwsmer terfynol, mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r frawddeg ‘oedran pan laddwyd’ addas yn hytrach na’r llythrennau sy’n nodi’r categori.

Ar gyfer gig a gaiff ei werthu yn y DU, mae’r disgrifiadau gwerthu’r fel a ganlyn:

  • ‘cig llo’ ar gyfer cig o anifeiliaid a laddwyd yn llai nag 8 mis oed
  • ‘cig eidion’ ar gyfer cig o anifeiliaid a laddwyd rhwng 8 mis oed a llai na 12 mis oed

Ar gyfer pob aelod-wladwriaeth arall yn yr UE, mae’n rhaid i chi labelu’r cig gyda’r disgrifiad gwerthu sy’n berthnasol i bob aelod-wladwriaeth lle caiff ei farchnata. Mae disgrifiadau gwerthu yn amrywio rhwng aelod-wladwriaethau. Maent wedi eu nodi yn Rhan III o Atodiad VII i Reoliad EUR 2013/1308.

Mae hyn yn golygu y gallai’r cig gael dau neu fwy o labeli gwahanol ar yr un pryd sy’n cwmpasu’r disgrifiadau gwerthu mewn aelod-wladwriaethau gwahanol.

Rheolau ar gymysgu cig o anifeiliaid buchol sy’n 12 mis oed neu lai

Heblaw am offal, ni chewch gymysgu cig o anifeiliaid buchol sy’n llai nag 8 mis oed a rhwng 8 mis a 12 mis oed. Diben y rheolau yw rhannu’r ddau fath o gig yn ôl oedran yn gig llo a chig eidion. Pan fo’r mathau hyn o gig mewn oerwyr, nid oes rhaid eu cadw ar wahân.

Gallwch gymysgu llwythi o offal o anifeiliaid buchol sy’n llai nag 8 mis oed a rhwng 8 a 12 mis oed, cyn belled â’ch bod yn gwneud y canlynol:

  • cynnwys y disgrifiadau gwerthu a’r ystod oedran ar y label
  • nodi’r oedrannau’n gyda naill ai’r llythyrau sy’n nodi categori ‘V’ neu ‘Z’ neu’r disgrifiadau oedran ar bob cam cynhyrchu a marchnata - ac eithrio pan fydd y cynnyrch yn cael ei werthu i’r cwsmer terfynol, pan fydd yn rhaid defnyddio’r disgrifiadau
  • defnyddio’r geiriau ‘iau llo’ ar gyfer iau anifail sy’n llai nag 8 mis yn unig

Lawrlwythwch , gan gynnwys labeli arddangos ar gyfer cig o anifeiliaid sy’n 12 mis oed neu lai.

Ychwanegu gwybodaeth ategol i labeli

Os ydych chi am ddefnyddio geiriad ychwanegol rhaid i chi sicrhau ei fod yn cwrdd â gofynion y ddeddfwriaeth labelu bwyd gyfredol. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am hyn o dan ‘labelu a phecynnu bwyd’.

Os ydych chi am ddefnyddio’r term ‘rosé veal’ eich labeli, gwiriwch y ddeddfwriaeth labelu bwyd gyfredol i weld beth sydd angen i chi ei wneud.

Cig eidion a fewnforir o Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel

Mae rheol arbennig ar gyfer labelu’r canlynol:

  • cig eidion a fewnforir o Ynys Manaw neu Ynysoedd y Sianel
  • cig eidion o wartheg a aned ac a fagwyd yn Ynys Manaw neu Ynysoedd y Sianel ond a laddwyd yn y DU

Er nad yw Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel yn rhan o’r DU, mae’r UE yn eu cydnabod fel rhan o aelod-wladwriaeth y DU at y dibenion hyn. Dylai cig eidion sy’n syrthio i’r categorïau hyn felly gael ei labelu gyda ‘DU’ o dan examples of beef and veal labelling (PDF, 567 KB, 5 pages).

Cig eidion a fewnforir o wlad nad yw’n aelod o’r UE

Os ydych yn mewnforio cig eidion o wlad nad yw’n aelod o’r UE ac nad ydych yn meddu ar y wybodaeth labelu ofynnol, mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r geiriau canlynol o leiaf:

  • ‘Tarddiad: Gwlad nad yw’n aelod o’r UE’
  • ‘Lladdwyd yn [enw’r wlad nad yw’n aelod o’r UE]’

Dylech hefyd ddarparu rhif cyfeirnod neu god pan gaiff y cig ei dorri neu’i ailbacio ar ôl ei fewnforio.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 1 Ebrill 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 22 Ionawr 2021 + show all updates
  1. Adding a link to 'Guidance on health and identification marks that apply from 1 January 2021'.

  2. Regulation (EC) 1760/2000 changed to EUR 2000/1760 and Regulation (EC) No 1308/2013 changed to EUR 2013/1308

  3. First published.

Print this page