Cyfraddau Yswiriant Gwladol i’r Hunangyflogedig

Mae’r dosbarth rydych yn ei dalu’n dibynnu ar eich elw.

Rydych yn cyfrifo’ch elw trwy ddidynnu’ch treuliau o’ch incwm hunangyflogedig (yn agor tudalen Saesneg).

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Os yw’ch elw yn £6,725 neu’n fwy y flwyddyn

Caiff cyfraniadau Dosbarth 2 eu trin fel pe baent wedi’u talu er mwyn diogelu eich cofnod Yswiriant Gwladol. Mae hyn yn golygu nad oes rhaid i chi dalu cyfraniadau Dosbarth 2.

Os yw’ch elw yn fwy na £12,570 y flwyddyn, mae’n rhaid i chi dalu cyfraniadau Dosbarth 4.

Ar gyfer y flwyddyn dreth 2024 i 2025, byddwch yn talu:

  • 6% ar elw rhwng £12,570 a £50,270  

  • 2% ar elw dros £50,270

Os yw’ch elw yn llai na £6,725 y flwyddyn

Nid oes angen i chi dalu unrhyw beth, ond gallwch ddewis talu cyfraniadau Dosbarth 2 gwirfoddol (yn agor tudalen Saesneg).

Y gyfradd Dosbarth 2 ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025 yw £3.45 yr wythnos.

Sut i dalu

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 a Dosbarth 4 drwy Hunanasesiad (yn agor tudalen Saesneg).

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) pan fyddwch yn hunangyflogedig fel unig fasnachwr (yn agor tudalen Saesneg) neu fel partneriaeth (yn agor tudalen Saesneg).

Rheolau arbennig ar gyfer swyddi penodol

Nid yw rhai pobl hunangyflogedig yn talu Yswiriant Gwladol drwy Hunanasesiad, ond efallai y byddant am dalu cyfraniadau gwirfoddol (yn agor tudalen Saesneg). Mae’r swyddogaethau hyn fel a ganlyn:

  • arholwyr, safonwyr, goruchwylwyr a phobl sy’n gosod cwestiynau arholiad

  • pobl sy’n rhedeg busnes sy’n ymwneud â thir neu eiddo

  • gweinidogion yr efengyl nad yw’n cael cyflog na thâl

  • pobl sy’n gwneud buddsoddiadau drostynt eu hunain neu eraill - ond nid fel busnes a heb gael ffi na chomisiwn