Cymhorthdal Incwm
Cyfraddau Cymhorthdal Incwm
Ni allwch wneud cais newydd am Gymorth Incwm mwyach. Os ydych chi ar incwm isel ac angen help i dalu’ch costau, gallwch wneud cais am Credyd Cynhwysol yn lle.
Mae Cymhorthdal Incwm yn cynnwys:
- taliad sylfaenol (lwfans personol)
- taliadau ychwanegol (premiymau)
Gall eich incwm ac unrhyw gynilion (dros £5,999) effeithio ar faint rydych chi’n ei gael.
Lwfans personol
Eich sefyllfa | Taliad wythnosol |
---|---|
Sengl - 16 i 24 oed | £71.70 |
Sengl - 25 oed neu’n hŷn | £90.50 |
Rhiant unig - 16 i 17 oed | £71.70 |
Rhiant sengl - 18 oed neu’n hŷn | £90.50 |
Cyplau – o dan 18 oed | £71.70 |
Cyplau - y ddau o dan 18 oed yn cael ‘cyfradd uwch’ | £108.30 |
Cyplau – un o dan 18 oed, a’r llall 18 i 24 oed | £71.70 |
Cyplau – un o dan 18 oed, y llall 25 oed neu drosodd | £90.50 |
Cyplau – un o dan 18 oed, un dros gael ‘cyfradd uwch’ | £142.25 |
Cyplau - y ddau yn 18 oed neu’n hŷn | £142.25 |
Cyfradd uwch
Mae’r gyfradd uwch yn berthnasol os yw’r naill neu’r llall ohonoch yn gyfrifol am blentyn, neu pe bai pob un ohonoch yn gymwys i gael un o’r canlynol pe na baech yn gwpl:
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith
Premiymau
Mae ‘premiwm’ Cymohrthdal Incwm yn arian ychwanegol yn seiliedig ar eich amgylchiadau, er enghraifft:
- mae eich partner yn bensiynwr
- rydych yn anabl neu’n ofalwr
Y cap ar fudd-daliadau
Mae’r cap ar fudd-daliadau yn cyfyngu ar gyfanswm y budd-daliadau y gallwch ei gael. Mae’n berthnasol i’r mwyafrif o bobl 16 oed neu drosodd nad ydyn nhw wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Nid yw rhai budd-daliadau unigol yn cael eu heffeithio, ond gallai effeithio ar gyfanswm y budd-daliadau a gewch.
Sut rydych yn cael eich talu
Gwneir taliadau fel arfer bob pythefnos.
Mae’r holl fudd-daliadau, pensiynau a lwfansau yn cael eu talu i’ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd.