Cymhorthdal Incwm
Os ydych eisoes yn cael Cymhorthdal Incwm
Byddwch yn parhau i gael Cymhorthdal Incwm os yw pob un o’r canlynol yn dal yn berthnasol i chi (a’ch partner, os oes gennych un):
- nid oes gennych incwm neu incwm isel, a dim mwy na £16,000 mewn cynilion
- nid ydych mewn gwaith llawn amser â thâl (gallwch weithio llai nag 16 awr yr wythnos, a gall eich partner weithio llai na 24 awr yr wythnos)
- rydych rhwng 16 oed ac oedran cymhwyso Credyd Pensiwn
- rydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban - mae yna reolau gwahanol ar gyfer Gogledd Iwerddon
Rhaid i chi hefyd fod yn o leiaf un o’r canlynol:
- yn feichiog
- rhiant unigol (gan gynnwys rhiant mabwysiadol unigol) gyda phlentyn sydd o dan 5 oed
- rhiant maeth unigol gyda phlentyn sydd o dan 16 oed
- person sengl sy’n gofalu am blentyn o dan 16 oed cyn iddo gael ei fabwysiadu
- gofalwr
- ar gyfnod mamolaeth, tadolaeth neu absenoldeb rhiant
- yn methu â gweithio ac rydych yn cael Tâl Salwch Statudol, Budd-dal Analluogrwydd neu Lwfans Anabledd Difrifol
- mewn addysg llawn amser (nid prifysgol), rhwng 16 ac 20 oed ac yn rhiant
- mewn addysg llawn amser (nid prifysgol), rhwng 16 ac 20 oed, a ddim yn byw gyda rhiant neu rywun sy’n gweithredu fel rhiant
- ffoadur sy’n dysgu Saesneg - mae angen i’ch cwrs fod o leiaf 15 awr yr wythnos, ac mae’n rhaid eich bod wedi ei ddechrau o fewn 12 mis ar ôl dod i mewn i’r DU
- yn y ddalfa neu i fod i fynychu’r llys neu tribiwnlys
Nid oes angen cyfeiriad parhaol arnoch - er enghraifft, gallwch ddal i wneud cais os ydych yn:
- cysgu allan
- byw mewn hostel neu gartref gofal
Mae’n rhaid i chi barhau i roi gwybod am newid yn eich amgylchiadau. Nid oes angen i chi wneud unrhyw beth arall oni bai bod yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn cysylltu â chi.
Os yw’ch cais Cymorthdal Incwm yn dod i ben oherwydd eich bod yn gwneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol, byddwch yn awtomatig yn parhau i gael swm y Cymorthdal Incwm rydych yn ei dderbyn ar hyn o bryd, cyn belled â’ch bod chi’n dal i fod gymwys. Fel rheol, byddwch chi’n cael hwn am bythefnos, gan ddechrau o ddyddiad eich cais newydd.
Nid oes angen i chi dalu’r arian hwn yn ôl, ac ni fydd yn effeithio ar faint o Gredyd Cynhwysol a gewch.
Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad
Gallwch herio penderfyniad am eich cais. Gelwir hyn yn gofyn am ailystyriaeth orfodol.